1Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau’r meirw, ac sydd Pen 8:11yn galw’r pethau nid ydynt, fel pe byddent:
18Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, Gen 15:5Felly y bydd dy had di.
19Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, Gen 17:17; 18:11; Heb 11:11, 12nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd‐dra bru Sara.
20Ac nid amheuodd efe addewid Duw trwy anghrediniaeth; eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw:
21Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, Salm 115:3; Heb 11:19ei fod ef yn abl i’w wneuthur hefyd.
22Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23Eithr Pen 15:4; 1 Cor 10:6, 11nid ysgrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn unig, ddarfod ei gyfrif iddo;
24Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i’r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn Act 2:24; 13:30a gyfododd Iesu ein Harglwydd ni o feirw:
25Yr hwn a draddodwyd dros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i’n cyfiawnhau ni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
