1A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
2Llefara, fab dyn, wrth feibion dy bobl, a dywed wrthynt, Pan ddygwyf gleddyf ar wlad, a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o’i chyrrau, a’i roddi yn wyliedydd iddynt:
3Os gwêl efe gleddyf yn dyfod ar y wlad, ac utganu mewn utgorn, a rhybuddio y bobl;
4Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o’r cleddyf a’i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun.
5Efe a glybu lais yr utgorn, ac ni chymerodd rybudd; ei waed fydd arno: ond yr hwn a gymero rybudd, a wared ei enaid.
6Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni utgana mewn utgorn, a’r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o’r cleddyf a chymryd un ohonynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd.
7 y daw y bobl, ac Pen 8:1eisteddant o’th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond nis gwnânt hwy: canys Esa 29:13â’u geneuau y dangosant gariad, a’u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd‐dod.
32Wele di hefyd iddynt fel cân cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda: canys gwrandawant dy eiriau, ond nis gwnânt hwynt.
33A phan ddelo hyn, (wele ef yn dyfod,) yna Pen 2:5y cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
