Deuteronomium 22 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Am garedigrwydd brawdol. 5 Bod adnabod y gwryw a’r fenyw wrth eu dillad. 6 Na ddalier mam yr adar gyda’i chywion. 8 Rhaid yw bod i dŷ ganllawiau. 9 Gochelyd cymysgedd. 12 Rhaid yw bod taseli wrth ddillad. 13 Cosbedigaeth yr hwn a roddo anair i’w wraig. 20, 22 Am dor‐priodas, 25 trais, 28 godineb, 30 a llosgach.

1 cynnyrch yr had a heuech, a chnwd y winllan.

10 bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi.

13O chymer gŵr wraig, ac wedi myned ati, ei chasáu;

14A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod:

15Yna cymered tad y llances a’i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i’r porth.

16A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn wraig, a’i chasáu y mae efe.

17Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas.

18A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a’i cosbant ef.

19A hwy a’i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a’u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.

20Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances:

21Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: Pen 13:5a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg.

22 Lef 20:10 O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig, a’r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.

23O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi;

24Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: Pen 22:21, 22felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.

25Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo, a’i threisio o’r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig.

26Ond i’r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth: oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a’i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn:

27Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.

28 Exod 22:16 O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a’u dala hwynt:

29Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.

30 Lef 18:8; 20:11; 1 Cor 5:1 Na chymered neb wraig ei dad, ac na Edrych Ruth 3:9; Esec 16:8ddinoethed odre ei dad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help