1MOlwch yr Arglwydd o’r nefoedd: molwch ef yn yr vchel-leoedd.
2Molwch ef, ei oll Angelion: molwch ef, ei oll luoedd.
3Molwch ef yr haul ar lleuad: molwch ef y ser goleu.
4Molwch ef, nefoedd y nefoedd, a’r dyfredd ’sy vchlaw yr nefoedd.
5Molant Enw yr Arglwydd: can ys gorchymynawdd ef, ac ei creawyt.
6Ac ef a wnaeth yddynt sefyll byth ac yn tragyvyth: ef a wnaeth ordinât, rhwn nyd â drostaw.
7Molwch yr Arglwydd o’r ddaiar, y dreiciae a’r oll ddyfndereu:
8Tan a’ chenllysc, eiry a’ mugdarth, gwynt ystormus, y sy yn gwneuthyd ei ’air ef:
9Mynyddedd ac oll vryniae, preniae ffrwythlawn ac oll Cedriwydd:
10Bestviloedd ac oll yscryblieit ymluscieit ac ehediait pluoc:
11Brenhineð y ðaiar ac oll populoed, tywysogion ac oll vairnieit byt: ieueinc a’ gweryfon, henion hefyt a’ phlant:
12Molent wy Enw yr Arglwyð: can ys y Enw ef yn vnic ys y dderchafadwy, ei voliant vchlaw y ddaiar a’r nefoedd.
13Canys ef y ðerchavawð gorn ei’ bopul yr hyn sy voliant yw holl Sainct ef, y blant Israel, popul yn agos yddaw. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.