1YR hyn oeð or dechre, yr hynn a glywsam, yr hyn a welsam a’n llygait, yr hyn a edrychasam arnaw, ac a a deimlodd ein dwylaw o ’air y bywyt,
2(Can ys y bywyt a ymddangosodd, ac ei gwelsam, ac ydd ym yn testio, ac yn dangos ychwy y bywyt tragyvythawl, yr hwn oedd y gyd a’r Tat ac a ymddangosawdd y ni)
3Yr hyn, meddaf, y welsam, ac a glywsam, a ddeclarwn ychwi, val y bo y chwithe hefyt gymdeithas gyd a ni, ac val y bo ein cymdeithas ni hefyt y gyd or Tat ai Vap Iesu Christ.
4Ar petheu hyn a scrivenwn atoch, val y bo eich llawenydd yn gyflawn.
5Hyn yw’r genadwri a glywsam canthaw ef, ac ydd ym yn y ddeclaro y chwi, may golauni yw Duw ac nad oes ynthaw ddim tywyllwch.
6A’s dywedwn vot y ni gymdeithas ac ef, a rrodio yn y tywyllwch, celwyddoc yym, ac nyd ydym ar y gwir.
7Eithyr as rrodiwn yn y golunni, megis y mae ef yn y golauni, y mae y ni gymdeithas au gylydd, a’ gwaet Iesu Christ ys ydd in carthu ywrth pop pechot.
8A’s dywedwn nad oes cenym pechot, yð ym ni twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nyd oes ynom.
9A’s coffesswm ein pechotae, ffyddlon yw ef a’ chyfiawn, val y maddeuo y ni ein pechoteu, a’n carthu ywrth oll enwiredd.
10A’s dywedwn na phechasam, ydd ym yn y wneuthur ef yn gelwyddoc, a’i ’air nyd yw ynom.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.