Psalm 39 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .xxxix.Dixi custodiam vias.¶ I ragorol cantor Ieduthum Psalm Dauid.

1 MEddyliais Cadwaf vy ffyrdd, rac pechy a’m tavawt: catwaf vy-geneu yn-goarchae, tra vo yr andewiol yn vy-golwc.

2Mut oeddwn eb ddywedyt dim: dysteweis, rac da, a’m dolur a gyffróit.

3Gwresogawd vy-calon o’m mewn, thra oeddwn yn mevyrio y cynneuawdd y tan, or dywed y dywedais am tavot.

4Arglwydd moes i mi wybot vy-diwedd, a’ niver vy=dyddiae, pa ’sy: moes ym’ wybot pa oes ys ydd ymy.

5 Nycha ys gwneythost vy-dyddiae dyrnvedd, a’m einioes val diddim wrth y ti: ys cwbl-wagedd yw stat pop dyn. Selah.

6Eithyr dyn a rodia yn-gwascot, ac a ymdraffertha yn ouer: ef a dyra ac ny ys gwyr pwy ei casgyl.

7Ac yr owrhon Arglwydd, pa ddysgwiliaf? vy-gobaith ys ydd ynot’.

8Gwared vi o’m oll gamweddae, ac na ddod vi yn warthrudd i’r ynvyd.

9Aethym yn vut, ac nyd agoreis vy-genae, can y-ti ei ’wnaethur.

10Cymer y wrthyf dy bla: gan ymfust dy law y cystuddiais

11Pan wyt drwy geryddon yn cospi dyn am enwiredd, val pryf y gwney y brydverthwch ef ddarvot: diau mae gwagedd pop dyn. Sélah.

12Clyw vy-gweddi Arglwydd, a’ chlustymwrando a’m llefain: na vydd ddystaw wrth vy-deigr, can ys pererin wyf gyd a thi, thrigianwr val vy oll tadeu.

13Paid wrthyf, val y cryfáwyf, cyn vy myned ac na byddwyf,

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help