1DDysgwiliais yn ddyfal am yr Arglwydd, ac ef y ostyngawð ataf, ac a glywoð vy llefain.
2Ac ef am cyfodes a’r pytew anhygyrch, allan o’r prið tomlyd, ac e osotes vy-traet ar y graic, ac y hwyliodd vy-cerddet.
3Ac e ddodes yn vy-genae ganiat newydd, o voliant i’n Dew: llawer ei gwyl ac y ofnant, ac ymddiriedant yn yr Arglwydd.
4Gwyn ei vyt y gwr y gynner yr Arglwydd yn ei ymddiriet, ac ny wyneba at y beilchion, nac at yr ei a ðychwelant at gelwydd.
5[Mor] lliosawc, Arglwydd vy-Dew y gwnaethost dy ryvedd-wedithredoedd, val na vedr neb iawn draethu yty dy veddylieu erom: menagaf a llafaraf anyd eu bot yn vwy nac ’allaf eu hadrodd.
6Aberth ac offrwm ny’s wyllyseist ([anyd] vy-clustiae y egoreist) poeth aberth ac aberth dros pechat ny ’ovyneist
7Yna y dywedais, Nycha y deuthym: yn rról y llyver ydd escrivenwyt am danaf.
8 Pucheis wneuthyr dy wyllys, vy-Dew, ’sef dy Ddeddyf ysy ovewn vy-calon.
9Manegeis dy gyfionder yn y Gynnulleidva vawr: wele, ny oharddaf vy-gwefusae: Arglwydd ti wyddost.
10Ny chuddieis dy gyfiawnder o vewn vy-calon, llavarais dy wirioneð a’th iechyt: ny chelais dy drugareð ath wirionedd rac y Gynnulleidva vawr.
11Tithe Arglwydd nac attal dy drugareddeu y wrthyf: dy dosturi ath wirionedd byth am catwo.
12Can ys drygae aneirif am cylchynesont: vy-pechotae a ymavaelesont ynof mor gerth, mal na allaf edrych: ac y maent yn amlach na blew vy-pen, am hyny y pallawð vy-calon.
13 Wyllysia Arglwydd vy-gwaredy: brysia Arglwydd im cypporth.
14Cywilyddier a’ gwradwydder y gyd, yr ei y geisiant vy enait y ei ddivetha: gyrrer drach cefn a’gwarthaer yr ei y wyllysient drwc ymy.
15 Dyffeithier dros ’obr ei cywilydd, yr ei y ddywetant wrthyf, Haha, haha.
16Ymlawenhant a’ byddan hyfryd ynot’ yr oll rei ath geisiant: a’r ei y gar dy iechyt, dywedant yn oystat, Mawryger yr Arglwydd.
17Cyd bwyf vi dlawd a’ rhaidus y mae yr Arglwydd yn meddwl am danaf: ti yw vy-porth, a’m prynwr: vy-Dew na hwyrá.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.