1CYnifer ac y’sydd o wasnaythwyr tann yr iau, barnant eu meistredd yn teilwng o bob anrrydedd, rrag cablu enw Duw ay addysc.
2A’ rrei ’sy a meistred vðynt yn credu, na dystyrant hwynt, herwydd i bod yn vrodyr, eithr yn hytrach i gwasneuthu, ir mwyn i bod yn credu, ac yn garedigion, ac yn gyfrānoc or twrn da. Dysc y pethau hyn, a’ chynghora.
3Od oes yn dyscu yn amgenach, ac nad yw yn cyttuno ac iachus eirie eyn Arglwydd Iesu Christ, ac ir addysc, ’sy ar ol duwioliaeth,
4chwyddo i may heb wybod dim, eithr amhwyllo ynghylch questiwnay a dadl‐geiriau, or hyn i mac cenvigen, ymryson, ymsenneu, tybieu drwc.
5Ofer ddadlay dynion llygredig ey meddwl, wedy cyfergolli y gwir centhynt, yn tybiaid taw elw yw duwioliaeth, ymochel oddiwrth y cyfryw.
6Elw mawr eusus yw duwiolieth, drwy ymvodloni o ðyn a’r hyn vo cātho.
7Can ys ni ddygasom ni ddim ir byd, a’ diogel yw ni allwn ddwyn dim ymaith.
8Am hynny o cawn ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny.
9Eithr yr ei a fynnent ymgwaythogi, a gwympant i profedigaeth, ac i vagle, ac i lawer o drachwantay ffolion a’ niweidus, rrain syn boddi dynion i golledigaeth ac i ddistriw.
10Can ys chwant‐mwnws yw gwreiddin pob drwg. Yr hein tra oyddynt rrei yn i chwenychu, hwy a wyrasont or ffydd, ag ay trychasont ey hunain tryvvodd a llawer o govidie.
11Eithr ti gwr i Dduw, gochel y pethay hyn, a’ dilid ar ol cyfiawnder, duwiolaeth, ffydd, cariad, ymynedd, a’ lledneisrwydd.
12Ymladd ymladdiad gorchestol y ffydd: cymer afael ar y bowyd tragwyddawl, ir hwn hefyd ith alwyd, ac ir ymaðewaist ymaddawiad da gar bron llawer o dystion.
13Dy ddirofyn i ddwy gar bron Duw, syn bywhau pop peth, a gar bron Iesu Christ, rrwn tan Pontius Pylatus a dystiodd cyffes pybur,
14cadw o honot y gorchymmyn hvvn yn ddiflot, ac yn ddifai hyd ymddangosiad eyn Arglwydd Iesu Christ,
15rrwn yn y dyledus amser a ddengys ef, rrwn sy fendigedig ac vnic pennaeth, Brenin y Brenhinoedd, ac Arglwydd yr Arglwydd,
16Ir hwn yn vnic i may difarwoldeb, ac yn trigo yn y goleuni diymgyrch, rrwn irioed nis gweles vn dyn, ac nis dichin i weled, ir hwn i bo anrrydedd a’ gallu yn dragwyddawl, Amen.
17Yr hei sy oludawc yn y byd yma gorchymmyn vddynt, na boont rryfygus eu meddwl, ac na rothon ei, gobaith mewn golud anwadal, eithyr mewn Duw byw, (rhwn syn rroi i ni pop peth yn ddigonawl yw mwynhau)
18ar wneuthyd o honyn ddayoni, ac ymgyvoethogi o weithredoedd da, ac yn hawdd canthyn roi, ac yn havvdd i cydfod,
19yn storio yðynt i hunain sail da rag llaw, mal i gallont gavayly y bowydd tragwyddol.
20O Timotheus, cadw a roed attat, gan ochel aniwaraidd ofersoniadwy, a gwrth‐osodiaday cam‐enwedig celfyddyd,
21rron rrai yn ymaddaw a hi, a gam wyrasont or ffydd. Gras gida thi, Amen.
Yr Epistl gynta i Tymotheus, a yscrifennwyd o laodiceia, rron yw penn dynas Phrygia Pacatiana.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.