2. Timotheus 1 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. j.Paul yn annog Timotheus y vod yn ddianwadal ac yn ddyoddefus wrth ei ymlid, a’ pharhau yn yr athraweth y ðyscesei ef yddaw, 12 Dros yr ei yroedd y rwymeu ef a’i gystyddion ym wystl. 16 Cammolieth Onesiphorus.

1PAul Apostol Iesu Christ gan wyl’ys Duw, erwyð aðewyt bucheð yr hon ’sy yn‐Christ. Iesu.

2At Timothes vy map caredic: Rat, a’ thrugaredd, a’ thangneddyf y gan Ddyw y Tat, a’ chan Iesu Christ ein Arglwydd.

3 Ys diolchaf y Dduw, ’rhwn y wasanaethaf om rrieni a chydwybot bur, can ys eb peidio y may genyf gof am danat yn vy‐gweddieu nos a’ dydd,

4Can ðeisyfu dy welet, a’mi yn vyvyr oth ðaigrae, val im llanwer o lawenydd:

5Pan ’alwyf im cof y ddiffuant ffydd ys ydd ynot, ’rhon y drigawdd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac yn dy vam Euneic, ac y may yn ddiogel genyf y tric yno tithe hefyt.

6Achos paam, ydd wyf ith coffau y gyffroi y dawn Duw ys ydd ynot, wrth arddodiat vy‐dwyaw.

7Can na roðes Duw y ni yspryt ofnusrvvydd, anyd yspryt nerthovvgrvvydd, a’ chariat, a’ phwyllogrwydd.

8Am hyny na vydd arnat gywilyð o destiolaeth yr Arglwydd, nac o hano vineu y garcharawr ef: eithr cydoddef‐di‐gystuddion yr Euangel, wrth veddiant Duw.

9Yr hwn an iachaoð, ac an galwodd a galwedigaeth sanctaið nyd, wrth ein gweithredoedd ni, anyd wrth y bwrpos yhun, a’y rat, ’rhwn a roespwyt y ni trwy Christ Iesu cyn amseroedd oeseu.

10Eithyr ef a eglurwyt yr owrhon gan ymddangosiat ein Iachawdr Iesu Christ, yr hwn a ðileoð angeu, ac a dduc vywyt ac ac ammarwolaeth i ’olauni trwy’r Euangel.

11Ir hon im gosodwyt i yn precethwr, ac yn Apostol ac yn ddyscyawdr y Cenedloedd.

12Am yr hwn achos y dyoddefaf hefyt y petheu hyn, ac nyd oes arnaf giwilydd: can ys gwn pwy a gredais, ac y mae yn ddilys genyf y vot ef yn abl y gadw yr hyn a ðodais ataw erbyn y dyð hwnw.

13Cadw wir esempl yr iachus ymadroddion, yr ei a glyweist y can y vi yn ffydd a’ chariat ys ydd yn‐Christ Iesu.

14Y peth prydverth, y roed atat, cadw trwy’r Yspryt glan, yr hwn a drig ynom.

15 Ti wyddost hyn, ddarvot ir ei oll ys ydd yn Asia, droi o ywrthy vi: o’r sawl rei y mae Phygellus ac Hermogenes.

16Roed yr Arglwydd drugareð y duylu Onesiphorus: can ys ef yn vynych am llonhodd i, a’m catwyn nyd oedd gywilydd ganthaw.

17Eithyr pan oedd yn Ruuein, ef a ymcaisiawdd a mi yn ddiwyd iawn, ac am cafas.

18 Roed yr Arglwydd yddo, gahel o hano drugaredd gyd a’r Arglwydd yn y dydd hwnw, a’ pha veint betheu vu ef im gweni yn Ephesus, ti wyddost yn ’oreu vn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help