Psalm 145 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cxlv.Exaltabo te.¶ Psalm Dauid er moliant.

1YS mawrygaf dydy, vy Dew a’m] Brenhin, ac a vendithiaf dy Enw vyth ac yn tragyvyth.

2Pop dydd ith vendithiaf, a’ molaf dy Enw yn oes oesoedd.

3Ys mawr yr Arglwydd, a’thrachanmoladwy, a’ei vowredd ny ellir ei amgyffred.

4Cenedlaeth y vawl wrth genedlaeth dy weithrededd, ath veddiant y venagant:

5prydverthwch gogoniant dy vawrhydi ath weithrededd rryvedd a vevyriaf.

6Ac am gedernit dy betheu ofnadwy y cympwyllant, ath vawredd a venagaf.

7Coffaduriaeth dy vawr ddaoni ry draethant, ac oth gyfiawnder y canant-yu-llavar.

8 Trugarawc a’thostnriol yw’r Arglwydd hwyr y ddic, ac ys mawr ei drugaredd.

9Ys da yw’r Arglwydd wrth bawp, a’ ei drugareddeu vchlaw ei oll weithredoedd.

10Dy oll weithrededd ath glodvorant, Arglwydd, a’th Sainct yth vendithiant.

11Gogoniant dy deyrnas y ddangosant a’th veddiant y gympwyllant,

12I beri adnabot ei veddiant y veibion dynion, a’gogoniant pryvyerthwch ei deyrnas.

13Dy deyrnas deyrnas tragyvythawl, a’th arglwyddiaeth yn oes oesoedd.

14Yr Arglwydd ’sy yn cynnal yr oll ’rei a syrthiant, ac efe a gyfyd bawp y vo ar gwympo.

15Llygait pawp ys y yn dysgwyl wrthyt, a’thi y roi yddwynt ei bwyt yn ei amser.

16Agory dy law, a’chyflawny bop peth byw ath wyllys-da.

17Cyfiawn yw’r Arglwydd yn ei oll ffyrdd, a’ sanctaidd yn ei oll weithredeu.

18Agos yw’r Arglwydd at bawp y ailw arno: ’sef y bawp y ailw arnaw yn-gwirionedd.

19Ef wna ewyllys yr ei ai h’ofnant, a’i llefain y wrendy, ac eu h’ymwared.

20Yr Arglwydd a gaidw yr oll rei y carant: a’r oll andewolion y ddinitra.

21Mawl yr Arglwydd y veneic vy-genae, ac a vendithia pop cnawt ei Enw sanctawl yn oes oesoedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help