1YNo y deuth y Pharisaieit a’r Sadducaieit, ac y temptesant ef, gan geisiaw ganthaw ddangos yddyn arwydd o’r nef.
2Ac ef a atepawdd, ac a ddyvot wrthynt, Pan vo hi yn hwyr, y dywedwch, Hi vydd Towydd tec: can vot yr wybr yn goch.
3A’r borae y dyvvedvvch, Heddiw y bydd tempestl, can vot yr wybr yn goch ac yn drist. A’ hypocriteit, wynep yr wybr a vedrwch i y varny, ac a ny vedrwch varny am arwyddion yr amserae?
4Egais y genedleth drwc a’r odinabus arwydd, ac arwydd ny’s roddir iði n amyn arwyð, y Prophwyt Ionas: ac velly y gadawodd ef wy, ac y tynnawdd ymaith.
5¶ A’ gwedy dyvot ey ddiscipulon i’r lan arall, ef aithei eb gof ganthynt gymeryd bara y gyd ac wynt.
6A’r Iesu a ddyvot wrthynt, Edrychwch, a’mogelwch rhac leven y Pharisaieit a’r Sadducaieit.
7Ac wy a veddyliason ynddyn y vnain gan ddywedyt, Hyn sy am na ddygesam vara.
8A’r Iesu yn gwybot y peth, a ddyvot wrthynt, Chwychwy o ffyð vechan, paam y meðyliwch ynoch eich hun, sef can na ðygesoch vara?
9Anyd ychvvi yn dyall eto, nac yn cofio y pemp torth, pan oedd pempmil popul, a’ phasawl basgedeit a gymresoch?
10Na’r saith torth pan oedd saith mil popul, a’ pha sawl cawelleit a gymeresoch?
11Pa’m na ddyellwchvvi, mae am y bara y dywedeis wrthych, ar ymogelyd o hanoch rac leven y Pharisaieit a’r Sadducaieit?
12Yno y dyellesont wy, na ddywedesei ef am ymogelyd o hanynt rac lefen bara, namin rac athraweth y Pharisaieit a’r Sad‐ducaieit.
Yr Euangel ar ddydd S. Petr Apostol.
13¶ A’ gwedy dyvot yr Iesu i dueðae Caisar Philip e a o vynnodd y’w ddiscipulon, Pwy y dywait dynyon vy‐bot i Map y dyn?
14Ac wy a ðywedesont Rei a ðywait mae Ioan vatyðiwr: a’ rei mae Helias ac eraill may Ieremias, ai vn or Prophwyti.
15Ac ef a ddyvot wrthwynt, A’ phwy meddwchwi yw vi?
16Yno Simon Petr a atepawð, ac a ddyvot, Ti yw’r Christ Map y Duw byw.
17A’r Iesu a atepawdd, ac a dyvot wrthaw Gwyn dy vyt ti Simō vap Ionas can nat cic a’ gwaet ei dangosawdd yty eithyr vy‐Tat yr hwn ys ydd yn y nefoedd.
18A’ mi a ðywedaf hefyt yty, mae ti yw Petr, ac ar y petr hynn yr adailiaf veu Eccles: a’ phyrth yffern ny’s gorvyddant y hi.
19Ac y‐ty y rhoddaf egoriadae teyrnas nefoedd, a’ pha beth bynac a rwymych ar y ddaear, a vydd rwymedic yn y nefoedd: a pha beth bynac a ellyngych ar y daear, a vydd gellyngedic yn y nefoedd.
20Yno y gorchymynawdd ef y’w ddiscipulon, na ddywedent i nep mai efe oedd Iesu y Christ.
21O hyny allan y dechreawdd yr Iesu dangos y’w ddiscipulon, vot yn angenraid iddo vyned i Caerusalem, a’ dyoddef llawer gan yr Henafieit, a’ chan yr Archoffeiriait, a’r Gwyr‐llen a’ ei ladd, a’ chyfody y trydydd dydd.
22Yno Petr ai cymerth ef or nailltuy, ac a ddechreawdd y geryddy ef, gan ddywedyt, Arglwydd, trugarha wrthyt tyun: ny’s bydd hyn y‐ty.
23Yno ydd ymchoelodd ef trach i gefyn, ac y dyvot wrth Petr, tynn ar v’ol i Satan: can ys rhwystr wyt ymy, can na ddyelly y pethae sy o Dduw, namyn y pethae sy o ddynion.
24Yno y dyvot yr Iesu wrth ei ddiscipulon, A’s dilyn nep vi, ymwrthoted y vn, a chymered ei groc a’ dilyned vi.
25Can ys pwy bynac, a ’wyllysio gadw ei vywyt, ei cyll: a’ phwy pynac a gollo ei vywyt om pleit i, a ei caiff.
26Can ys pa les i ddyn, er ennill yr oll vyt, a chyll ef y enait y hun? nei pa beth a rydd dyn yn gyfnewyt
27dros ei Dat y gyd a’ ei Angelyon, ac yno y rhydd ef i bop dyn erwydd ei weithredoedd.
28Yn wir y dywedaf ychwi, vot rhei o’r sawl ’sy yn sefyll yma, ar ny chwaethant angae, nes yddyn welet Map y dyn yn dyvot yn ei deyrnas.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.