1 DIlynwch gariat, a’ deisyfwch ddoniæ ysprytawl, ac yn hytrach bot y chwi prophwyto.
2Can ys yr hwn a ymddiddan davot dieithr, nyd wrth ddynion yr ymddiddan, anyd wrth Dduw: can nad oes neb yn ei glywet: er hynny yn yr yspryt y mae ef yn ymðiddan dirgelion:
3eithr hwn ’sy ’n prophwyto, a ymddiddan wrth ddynion er adailad, ac er cygor, a’ chonfort.
4Yr hwn a ddywait mevvn tavot dieithr, ai hadail y hunan: anyd yr vn a prophwyta a adail yr Eccles.
5Mi vynnwn pe llavarech bawp davot diethr, anyd yn gynt bot y chwi prophwyto: can ys mwy yw ’r vn a brophwyta, na ’r vn a lefair amryvv davodae, o ddieithr yðo ei ddeongl, y gahel o’r Eccles dderbyn adailad.
6Ac yr awrhon, vroder, a’s dawaf i atoch gan lavaru amrafael davodae, pa les a wnaf ychwy, dyeithr ymddiddan o hanaf wrthych, ai drwy ddatguddiat, ai drwy wybyddieth, ai drwy brophetolieth, ai drwy ddysceidaeth?
7Hefyt petheu di enaid wrth roi llais, pa vn bynac vo ai chwibanogl ai telyn, dyeithr yðynt roi gohan yn y llesiae, pa wedd y gwyðir beth a genir ar y chwibanogl neu ar y delyn?
8A’ hefyt a’s yr vtcorn a rydd lais anhynod, pwy a ymbaratoa i rhyvel?
9Ac velly chwitheu, trwy’r tavod o ðyeithr ywch adrodd geiriae yn arwyddocau, pa wedd y dyellir beth a ddyweder? can ys byddwch yn ymddiddan yn yr awyr.
10Y mae cynniuer o rywiegaethe lleisiae, (val y bydd) yn y byd, ac nyd oes vn o hanynt yn vut.
11Can hyny a ddyeithr ym’ wybot grym y llais, mi vyddaf yn varbarus ir vn a vo yn ymðiddan, a’r vn a ymddiddan, vydd barbarus i minheu.
12Ac velly chwitheu yn gymeint ach bot yn deisyfy doniæ ysprytol, ceisiwch draragori tuac at adeiladeth yr Eccles.
13Erwydd paam, gweðiet yr hwn a ymddiddan a thafod dieithr, ar yddo vedry ddeongl.
14Can ys a’s gweddiaf mevvn tavod diethr, e weddia vy yspryt: anyd y mae vy dyall eb ddimffrwyth.
15Beth wrth hyny? gweðiaf gan yr yspryt a’ gweddiaf gan ddyal hefyt, canaf a’r yspryt ’a chanaf a’r dyall hefyt.
16Ac anyd ef, pan vendithych gan yr yspryt, pa wedd y byð ir hwn ’sy yn lle andyscedic, ddywedyt Amen, ar bryd dy ddiolwch di, can na wyr ef beth a ddywedy?
17Can ys diau dy vot ti yn diolvvch yn ddivei, eithr nad yw’r llal’ yn cael adailadaeth.
18Im Duw y diolchaf, vy‐bot yn dywedyt tafodeu yn vwy na chwi oll.
19Er hyny yn yr Eccles gwell genyf ðywedyt pemp gair a’m dyall er mwyn ymy hefyt addyscu eraill, na dec mil o eriae mewn tavod dieithr.
20Vroder, na vyðwch vechcin o ðyall, eithr am ðrigioni byðwch vechcin, anyd o ddyall byddwch gwbl‐oedran.
21Yny Ddeðyf yð yscrivenir, Drwy ’rei o davodae ereill, a’ thrwy iaithoedd eraill yr ymadroddaf wrth y popul hyn: eto velly ny chlywant vi, með yr Arglwyð.
22Can hyny tavodae dieithr ynt yn lle arwyð, nyd ir sawl a credāt, anyd ir sawl ny chredant: eithyr propwytoliaeth a vvasanaetha nyd ir ei a credant, anyd ir ei ny chredant.
23A’s can hyny, pan ddel yr oll Eccles ynghyt yn vn, a phawp yn dywedyt tavodeu dieithr, daw y mewn ’rei andyscetic, neu rei eb gredu, any ddywedant, eich bot wedy gorphwyllo?
24Eithyr a’s pawp a propwytant, a’ dyvot y mewn vn eb gredu, neu vn andyscedic, ef a arguoeddir gan bawp, at a vernir gan bawp.
25Ac velly yr amlygir dirgeloedd ei galon, ac velly y cwymp ef ar ei wynep ac yr addola Dduw, ac a ddywait yn ’oleu vot Duw ynoch yn ddiau,
26Beth bellach, vroder? pan ddeloch yn‐cyt, vvrth val y bo gan bop vn o hanoch psalm, neu vot ganto ddysceidaeth, neu vot ganto davot, neu vot gantho ddatguddd, neu vot gantho esponiat, byddet pop peth oll er adailieth.
27A dywait nep davot dieithyr gvvneler bob ddau neu or mwyaf bob dri, a hyny ar gylch ac esponet vn.
28Ac any bydd esponiwr, tawet a son yn yr Eccles, yr hvvn a ddavvait iaithoedd, a’ dywedet wrtho yhunā, ac wrth Dduw.
29Dywedet y Propwyti ddau, neu dri, a’ barnet y llaill.
30Ac a’s datguddiwyt dim y arall a vo yn eisteð yno, tawet y cyntaf.
31Can ys chwi ellwch oll bropwyto bop vn ac vn, val y gallont oll ddyscu, ac oll gael confforth.
32Ac ysprytoeð y Prophwyti ’sy ðarestyngedic ir Prophwyti.
33Can nad ydyw Duw yn avvdur ymrysongerdd, anyd tangneddyf, vegis y gvvelvvn yn oll Ccclesidd y Sainctæ.
34Ymosteget eich gwragedd yn yr Ecclesi: can na chaniatëir yðynt wy gael dywedyt: can ys dirpr yðynt vvy vot yn ddarestyngedic, megis ac y mae y Ddeddyf yn dywedyt.
35Ac a’s mynant ðyscu dim, ymofynant ai gwyr gartref: can ys gwarthus yw i wragedd ddywedyt dim yn yr Eccles.
36Ai ywrthy chwi y daeth gair Duw allan, neu ai atochwi yn vnic y daeth ef?
37A’s tybia nep y vot yhun yn Prophwyt, neu yn ysprytawl, cydnabyddet vot y petheu a yscrivenaf atoch, yn ’orchymynion yr Arglwyð.
38Ac ad oes neb yn anwybot, anwybyddet.
39Can hyny, vroddyr, deisyfwch vot yvvch brophwyto, ac na ’oherðwch ddywedyt ieithoedd.
40Gwneler pop dim yn weddaidd, ac erwydd trefn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.