2.Petr 1 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. j.4 Yn gymmeint a darvot y veddiant Dew roði yddynt bop peth yn perthyn i vuchedd, y mae ef yn eu hanoc y enciliaw rrac llygredigeth chwantau bydawl. 10 Diogely ei galwedlgeth a gweithredoedd da, a ffrwytheu ffydd. 14 Y mae ef yn coffau am y varwoleth y hun, 17 Can ddeclaro bot yr Arglwydd Iesu yn wir Vap Dew, megis ac y gwelsei ef y hun ar y mynydd.

1SYmeon Peter, gwasnaythwr, ac abostol Iesu Christ, ir rrai a freiniason ffyð gyffelip anrrydedd a ninay, trwy gyfiownder eyn Dyw an achubwr Iesu christ:

2Gras ywch, a’ thengnheveð a amylhaer, trwy ednabyddiaeth Dyw ac Iesu eyn arglwydd,

3Megis y rroddes y ddywiol allu ef i ni bob peth am a berthynant ir bowyd a’ gwaredd, trwy y ednabyddieth ef rrwn an galwodd ni y ogoniant a rrinwedd.

4Gan hyn, ys ef roddi yni addaweidion rragorfawr gorchestol, val y gellech trwy rreini fod yn gyfrannoc o ddywiol anian, wedi diainc or llwgwr, sy yn y byd trwy trachwant.

5Ac ar hyn dodwch gwbl och diwydrwydd: cysylltwch gidach ffydd rinwedd: a’ chida rrinwedd, gwybodaeth:

6A chida gwybodaeth, cymhedrolder: a chyda chymhedrolder, ymynedd: a chidac ymynedd gwaredd:

7A chida gwaredd, credigrwydd broduraidd: a chyda chredigrwydd broduraidd, cariad.

8Can ys os byddwchwi ar pethau hyn cennwch, ac yn amyl hwynt, peri a wnant na boch na segur na diffrwyth yngwybodaeth eyn Arglwydd Iesu Christ.

9O blegid neb ni bo rrain cantho, dall ydiw ac ni wyl ddim o bell, yn gollwng tros go eu lanhau oy hen bechoday.

10Or achos hwn, fymrodyr, byddwch yn vwy diwid y wneuthyr ych galwedigaeth ach ethelodigaeth yn sicir: can ys o gwnewchi hyn, ni lithrwchi byth.

11Can ys yn y modd hwn digonawl yð ymgleðir chwi, o fforddiat i dragwyddol teyrnas eyn Arglwydd an Achubwr Iesu Christ.

12Or achos hwn, nid esceuleusaf i ych coffhau chwi fyth am y pethau hyn, cyd bochi cyfarwydd, a’ siccir yn y cyndrychol wirionedd.

13Can ys tybiaid y rwy fod yn iawn i mi, tra fwy yn y tabernacl hwn, ych cyffroi trwy ddwyn ar gof ywch.

14Can y mod i yn gwybod fod yn gyfagos yr amser y dodaf heibio y tabernacl hwn, megis ac y dangoses eyn hArglwydd Iesu Christ i mi.

15Diwid fydda hevyd ar vod ywch allu gwneuthr coffa am y pethau hyn, gwedi vy ymadawiad i

16Can ys nid chwedlay dichellus a ganlynhasom ni pan oeddem yn manegi ywch rinwedd, a devodiad ein hArglwydd Iesu Christ, eythr an llygaid y gwelsom eu fowredd ef:

17Can ys ef a dderbyniasai can Ddyw tad anrrydedd a gogoniant, pan ðeuawdd cyfryw lef atto ef o ddiwrth y dirfawr ’ogoniant, Hwn yw’r mab credigol mau fi, yn yr hwn im boddlonir.

18A’r llef hon a glowsom ni pan ddoeth or nef, a ni gidac ef yn y mynydd santaidd.

19Y ddym ni hefyd a gair cadarnaf yproffwydi cenym, yr hwn da i gweithiwch o ddarbod am dano, megis am oleuni yn llewrchy mewn lle towyll, hyd oni wowrio’r dydd, ac yni chotto seren ddydd yn ych calonay.

20Os bydd i chwi ar wybod hyn yn gynta, na does vn proffedoliaeth yn yr scrythyr ac iddi ladmeriaeth neilltuol.

21Can ys nid trwy wollys dyn y doeth gynt proffedoliaeth: eithr dynion santaidd Dyw a ddoydasont megis y cynhyrchwyd hwynt can yr ysbryd glan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help