1DEw, dod dy varn ir Brenhin, ath gyfiawn der i vap y Brenhin.
2[Yno] y barn ef dy popul yn-cyfiawnder, a’r tylodion ac vniondep.
3Y mynyddedd a’r brynneu a dducant dangneddyf ir bopul gan gyfiawnder.
4Ef varn dylodion y bopul: ef a ’weryd blant yr angenoc, ac ef a gostwya y gorthrymwr.
5Wy ath ofnant tra vo haul na lloer, o genedlgaeth y genedlaeth.
6E ddescen val y glaw ar y wana ’wair, val y cawodydd y wlithant y ddaiar.
7Yn y amser ef y blodeua y cyfiawn, ac amledd tangneddyf yd tra vo lleuat.
8A’ ei lywodraeth vydd o’r mor bwygylydd, ac o’r Avon yd tervynae y tir.
9Ger y vron ef y gestwng y diffeithwyr, a’ei ’elynion a lyfant y llwch.
10Brenhinedd Tharschisch a’r ynysedd ei anrhegant: Brenhinedd Scheba a’ Seba a dducant roddion.
11A’r oll Vrenhinedd y anrydeddant ef: oll genedloedd ei gwasanaethant.
12Can ys ef a ymwared y tlawt pan waeddo: yr angenawc hefyt, ar nep ny bo yddaw ymwaredwr.
13E vydd trugarawc wrth y rraidus a’r angenawc, ac a ymwared eneidiae yr tlotion.
14Ef a bryn ei h’eneidiae rac dichell a thrawster, a gwerthvawr vydd ei gwaet yn ei olwc.
15 A’ byw vydd ef, ac e roddir iddo o aur Sheba: ac e weddijr drostaw yn oystat, pheunyð y bendithiant ef.
16Ychydic ŷd a yn y ddaiar, ei ffrwyth a yscytwa meis Lebanon: a’r a vlodeuant o’r dinas, meiswellt y ddaiar.
17Ei enw a vydd byth: ei enw a bery tra vo haul: yr oll cenedloedd ei bendithiant, Arglwydd Ddew, ’sef Dew Israel, yr hwn yn vnic y wna ryveddodae.
19Ac bendigedic Enw ei ’ogoniant yn tragyvyth: a’ chyflawner yr oll ddaiar a ei’ ogoniāt. Velly y bo, ac velly y bo.
Yma y tervyna gweddieu Dauid vap Ishai.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.