Luc 1 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. j.Am Zacharias ac Elizabet. Yr Angel yn manegi iddo o enedigeth Ioan Vatyddiwr. Poyni ancrediniaeth Zacharias. Ymddiddan yr Angel ef a’ Mair. Y chaniat hi. Genedigaeth, enwaediat a’ doniae Ioan. Zecharias yn diolwch y Dduw, ac yn prophwyto.

1CAn ddarvot i laweredd gymryd arnaddynt vanegy hystoria y pethae ys y lawn gredadwy genym ni,

2megis yr adroddent y ni, yr ei o’r dechreuat oeðēt y hunain yn gweled, ac yn weinidogion y gair,

3ys gwelit vot yn iawn i mi (yr ardderchawc Theophilus) er cynted y darvu i mi chvvilio am bop peth yn ddilys oei von,

4yscriveny atat’ o hanyn yn drefnus, val y byddei i ti gyfadnabot gwirionedd y pethae ith addyscwyt ynthynt.

5YN‐dyddiae Herod Vrenhin Iudaea, ydd oedd ryw Offeiriat a’ ei enw Zacharias o gylchðyð Abia: a’ ei wraic oedd o verched Aaron, a’i henw oedd Elisabet.

6Ydd oeddent illdau yn gyfiawn geyrbron Dew, ac yn rhodio yn yr oll ’orchmynnae ac ordinadae yr Arglwydd yn ddi‐veius.

7Ac nid oedd vn plentyn yddynt, can vot Elisabet heb planta: ac ill dau gwedy myned mewn swrn da o oedran.

8Ac e ddarvu, ac efe yn gwneythy’r swydd‐Offeiriat geyr bron Duw, yn ol trefn y ddyddgylch ef,

9erwydd devot swydd Offeiriat, y daeth o ran iddaw vwgdarthy‐y-peraroglae pan ddelai i mevvn Templ yr Arglwydd.

10A’r oll lliaws popul oedd allan yn gweddiaw, tra oeddit yn mygdarthy y peraroglae.

11Yno yr ymðangoses iddo Amgel yr Arglwydd yn sefyll or tu deheu i allor y mugdarth.

12A’ phan ei gwelodd Zacharias, y trallodit, ac ofn a ddygwyddawdd arnaw.

13A’r Angel y ddyuot wrthaw, Nag ofna, Zacharias: can ys erglywyt dy weddi, ath wraic Elisabet a ymðwc y ti vap, a’ gelwy y enw ef yn Ioan.

14A’ thi gai lewenydd a’ gorvoledd, a’ llaweroedd a’ lawenychant am y enedigaeth ef.

15Can ys mawr vydd ef yn‐golwc yr Arglwyð, ac nyd yf na gwin na diot‐gadarn: ac a gyflawnir o’r yspryt glan, ys o vru ei vam.

16A’ laweroedd o blant yr Israel a ddymchwel ef at ei h’Arglwydd Dduw.

17Can ys ef aa yn y ’olwc ef yn yspryt a ’meddiant Elias, i ddymchwelyt calonae y tadae i’r plant, a’r ei anhydyn i brudddap y cyfiawnion, er iddo arlwyavv popul parat i’r Arglwydd.

18Yno y dyuot Zacharias wrth yr Angel, Wrth pa herwydd y gwybyddaf hyn? can ys ydd wy vi yn hen‐wr, a’m gwraic ysy wedy cerddet mewn swrn oedran.

19A’r Angel aatepodd ac a ddyvot, wrthaw, Mi yw Gabriel yr hwn a saif yn‐golwc Duw, ac a ddanvonwyt y ymddiddan a’ thi, ac y vanegi yty y pethe dayonus hyn.

20A’ nycha y byddy vut, ac ny elly ymddiddan, yd y dyð y gwnaer y pethae hyn, can na chredaist vy‐gairiae, yr ei a gyflawnir yn y hamser,

21Ac ydd oedd y popul yn aros am Zacharias, ac yn rhyfeddu y vot ef yn trigio cyhyd yn y Templ.

22A’ phan ddaeth ef allan, ny allei ef ddywedyt dim wrthynt: yno y gwybuont weled o hanaw weledigaeth yn y Templ: can ys ef a arwyddocaodd yddynt, ac a arhoesavvdd yn vut.

23Ac e ddarvu, pan gyflawnwyt dyddiae y swydd ef, vot iddo vynedd yw duy y un.

24A’ gwedy ’r dyddiae hyny yr ymdduc Elisabet y wreic ef, ac yr ymguddiawdd bemp‐mis, gan ddywedyt,

25Ys vellhyn y gwnaeth yr Arglwydd a mivi, yn y dyddiae ydd edrychawdd arnaf, y ddwyn y wrthyf vy lliwiant ymplith dynion.

Yr Euangel ar ddydd Cyfarchiat Mair wyry.

26¶ Ac yn y chwechet mis, yd anvonwyt yr Angel Gabriel gan Dduw i ddinas yn Galilea a elwit Nazaret,

27at vorwyn wedy dyweddiaw a gwr aei enw Ioseph, o tuy Dauid, ac enw’r vorwyn oedd Mair.

28A’r Angel aeth y mewn atei, ac a ddyvot, Hynpych‐gwell y rad-garedic: yr Arglwydd ys y gyd a thi: bendigeit vvyt ymplith gwrageð.

29A’ phan weles hi ef, cyntyrfu a wnaeth hi can ’ymadrydd ef, a ’meðyliaw pa ryw annerch oedd hwnnw.

30Yno dywedyt o’r Angel wrthi, Nag ofna, Vair, can ys ceveist’rat geyr bron Duw.

31Can ys nycha yr ymddugy yn dy vru, ac yr escory ar vap ac a elwy ei enw Iesu.

32Hwn a vyð mawredic, a’ map ir Goruchaf y gelwir, ac a ryð yr Arglwydd Dduw ydd‐aw ’orsedd ei dat Dauid.

33Ac ef a deyrnasa ar ucha tuy Iaco yn tragywydd, ac ar ei deyrnas ny bydd dywedd.

34A’ dywedyt a oruc Mair wrth yr Angel, Pa vodd vydd hynn, can nad adwaenwyf wr?

35A’r Angel atepawdd, ac a ddyvot wrthei, Yr yspryt glan a ddaw arnat, a’ nerth y Goruchaf ath wascota. Wrth hynny a’r peth sanctaidd a aner o hanot, a elwir Map Duw.

36Ac wely, dy gares Elizabet, ac yhi ymdduc vap yn hei henaint: a’ hwnn yw’r chwechet mis iddi, yr hon a elwir hesp.

37Can ys geyr bron Duw ny bydd dim yn analluavvc.

38Yno y dyvot Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwyð: bit i mi erwydd dy air. A’r Angel aeth ymaith y wrthei.

39A’ Mair a’ gyuodes yn y dyddiae hyny, ac aeth ir vvlad vynyddic ar ffrwst i ddinas yn Iudaia,

40ac aeth y mewn i duy Zacharias, ac gyfarchoð‐well i Elisabet.

41A’ darvu, wrth glywet o Elizabet annerchiat Mair, y neidiawdd y plentyn yn y chroth hi, a’ llenwit Elizabet o’r Yspryt glan.

42A ’llefain o hanei a llef vchel, a’ dywedyt, Bendigedic yvv ti ymplith gwragedd, can ys‐bendigedic ffrwyth dy groth.

43Ac o b’le ydaw hyn i mi, pan yw dyuot o vam vy Arglwyð at y vi?

44Can ys nycha er cynted y deuth llef dy anerchiad im clustiae, y neidiodd y plentyn yn vy‐bru gan ’orvoledd.

45Ac ys bendigedic hon a gredawdd: canys gorphenir y pethae, a ddywetpwyt iddi y gan yr Arglwydd.

46Yno y dyuot Mair, Ys mawrha vy enait yr Arglwydd.

47A’m yspryt a lawenycha yn‐Duw vy Iachawdr.

48Can ys ef a edrychawdd ar iselder ei wasanaethyddes: can ys nycha o’r pryd hyn allan ym gailw yr oll oesoed vi yn wynvydedic.

49Can ys y cadarn a wnaeth i mi vawreð, a’ sanctaidd yvv ei Enw.

50A’ ei drugaredd ’sy yn oes osoedd ir sawl y hofnant ef.

51Ef a wnaeth gadernit a’ ei vraich: ef a ’oyscarawdd y beilchion ym-meddwl ei calonae.

52Ef a dynnawdd y cedyrn y lawr o ei heisteddfaë, ac a dderchafawdd yr ei isel‐radd.

53Ef a lanwodd y newynogion a da bethae, ac a ddanvonawdd ymaith y goludogion yn weigion.

54Ef a gynnaliodd Israel ei was, gan goffay ei drugaredd

55(megis y dyuot ef wrth eyn tadae, ys ef wrth Abraham a’ ei had) yn dragyvyth.

56A’ Mair a arhoesavvdd y gyd a hi yn‐cylch tri‐mis: ac yno ydd aeth hi y’w thuy y hun.

Yr Euangel ar ddydd Ioan Vatyddiwr.

57¶ Gwedy cyflawny temp Elizabet, y escor, a’ hi a escorawdd ar vap.

58Ac a glypu hei chymydogion ae chenetl ddarvot ir Arglwydd ddangos ei vawredic drugaredd arnei, a’ chydlawenychy a hi a wnaethant.

59Ac e ddarvu, pan yw ar yr wythvet dydd ydaethant i enwaedy ar y dyn‐bachan, ac ei galwesont ef Zacharias, yn ol enw ei dat.

60A’ ei vam a atepawdd, ac a ddyvot, Nag e, eithyr ei galwer yn Ioan.

61Ac wy a ddywedesont wrthei, Ny’d oes vn oth cenetl a elwir ar enw hwnn.

62Yno ydd amneidiesant ar ei dat, pa wedd yr ewyllesei ef ey alw.

63Ac ef a alwadd am astyllen orgraph, ac a escrivenawdd, can ddywedyt, Ioan yw ei enw, a’ rhyveddy a wnaethant oll.

64A’ ei enae a egorwyt yn ebrwydd, a’ ei davot a ellyngvvyt, ac ef a ymddiddanawdd, can vendithiaw Duw.

65Yno y daeth ofn ar ei oll gymydogion, a’r oll ’airiae hynn a gyhoeddwyt trwy oll vlaeneudir Iudaiah.

66A’ phawp a’r a ei clypu, ei gesodesont yn ei calonae, gan ddywedyt, Pa ryw ddyn‐bachan vydd hwnn? A’ llaw yr Arglwydd oedd gyd ac ef.

67Yno ei dat Zacharias a gyflawnwyt o’r yspryt glan, ac a prophwytawdd, can ddywedyt.

68Bendigeit vo Arglwydd Dduw’r Israel: can ys govwyawdd ac a brynawdd ey bopul.

69Ac ef a adderchavawdd gorn iechyt y ni, yn‐tuy Dauid ei wasanaethwr,

70megis y dyvot trwy enae ey sanctaið Prophwyti, yr ei oedd o ddechrae r byt,

71rei ddywedent, yd anvonei ef i ni ymwared rac ein gelynion a’ rhac dwylo ein oll ddygasogion,

72y ddangos trugaredd ar ein tadae, a’ choffay ei ddygymbot sanctaidd,

73a’r llw a dyngawdd wrth ein tat Abraham

74nid amgen bot iddo ganiatay y ni, gahel ymwared y wrth ddwylo ein gelynion, a’ ei wasanaethy yn ddiofn oll ddyddiae ein bywyt,

75mewn sancteidrwydd ac iawnder geyr y vron ef.

76A’ thithe vab ath elwir yn Prophwyt y Goruchaf: can ys ti ai o vlaē wynep yr Arglwydd i baratoi y ffyrdd ef,

77ac y roðy gwybyddlaeth o iechyt yw bopul ef, can vaðeuāt oei pechatae.

78Trwy galondit trugaredd ein Duw, gan yr honn y govwyawdd y towyn‐haul o’r vchelder.

79I dowyny ir ei a eisteddant mewn tywylwch, ac yngwascawt angae, er cymmetry ein traet i ffordd tangneddyf.

80A’r maban a dyfodd ac a gadarnhawyt yn yr yspryt, ac a vu yn y diffeithwch, yd y dydd yr ymddangosei i’r Israelieit.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help