1PAul gwas Duw, ac Apostol Iesu Christ, erwydd ffydd etholedigiō Duw a’ gwybodeth y gwirioneð, ’rhon ’sy erwydd dywoldep,
2Y dan’obaith buchedd dragyvythawl rhon y digelwydd Dduw ei gaddawoð, cyn amseroeð oeseu:
3Eithr ef a eglurhaodd ei ’air yn y gwir amsereu drwy precethu, yr hyn a ymddiriedwyt i mi, wrth ’orchymyn Duw ein iachawdur:
4Ad Titus vy anianol vap wrth y ffydd gyffredin, Rat, trugareð a thangneðyf o y can Dduw y Tat, a’ chan yr Arglwydd Iesu Christ ein iachawdur.
5Er mwyn hyn ith edais di yn‐Creta, mal y bei y ti drigo y gyweirio y petheu ys ydd yn aros, a’ bot yt’ ’osot .Henafieit yn‐pop dinas, megis yr ordiniais yty.
6A’s bydd nep diargywedd, gwr vn wreic, ac yddo blant ffyddlon, yr ei nyd enllybir o nwyfiāt neu vot yn anuvydd.
7Can ys dir yw i Episcop vot yn ddiargywedd, mal goruchwiliwr Duw, nyd yn gyrrith, nyd yn digllon, nyd yn gorhoffi gwin, nyd trawar, nyd budr‐elw‐wr,
8Ethr yn rhoi‐lletuy, vn yn caru dayoni, doeth, cyfiawn, sanctaidd, temperus,
9Yn dalha‐yn lew y gair ffyðlon wrth yr athraweth, val y gallo hefyt gygcori a dysceideth iachus, ac argyweddu yr ei a wrth ddywedant,
10Can ys bot llawer o rei anyvydd, a’ gwacsiaradwyr, a’ thwyllwyr meddilieu, yn benaf yr ei ’sy or enwaediat,
11Yr ei vydd dir goarcheu‐ei geneu, yr ei a ddymchwelant cwbl daie, gan ddyscu i ’rei betheu ny‐ðylent, ermwyn budr elw.
12 Vn o hanynt wy euhunain, ’sef vn oi prophwyti y vnain a ddywedei. Y Creteit bop amser ynt gelwyddawc, dryg vestviloedd, boliae gorddiogion.
13Y testiolaeth hon ’sy wir: achos hyn argyweða ’hwy yn vlaenllym, val y bont iach yn y ffydd,
14Nyd can ddarbot chwedleu Iuddewaidd a’ gorchymyneu dynion, yr ei a ymchwelant ywrth y gwirionedd.
15Ys ir ei pur y mae pop dim yn pur, eithr ir ei halogedig, ac ir ei ny chred, nyd oes dim pur, eithr ei meddwl a’i cydwybot a halogir
16Y maent yn proffessu yr adwaenant Dduw, eithyr ar gweithrrdoedd y maent yn ei wadu, ac wynt yn ffiaidd ac yn anuvydd, ac i bop gwaithred dda yn amprovadwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.