1CLYBOT o’r Apostolon a’r broder y oeddent yn Iudaia, ddarvot hefyt ir Cenedloedd erbyniet gair Dew.
2A’ gwedy dyvot Petr y vynydd i Gaerusalem, wyntwy o’r enwaediat a gynnenynt yn y erbyn ef,
3gan ddywedyt, Ti aethost y mewn at wyr eb ddarvot ei enwaedy, ac y vwytëist gyd ac wynt.
4Yno Petr a ddechreawdd, ac a esponiawdd y peth mewn trefn yddwynt, gan ðywedyt,
5Myvi oeðwn yn‐dinas Ioppa, yn gweddiaw, ac mewn llewic y gwelais y weledigaeth hon, Bot ryw lestr vnwedd a llenlliain vawr yn descen wedy ’r ellwng i waeret o’r nef erbyn y petair congyl, a dyvot a ’oruc yd ataf.
6A’ phan ddeleis selw ernei, yr ystyriais, a’ gwelais pedwartroedogion y ðaear, a’ bestviloedd, ac ymlucieit, ac ehedieit y nef.
7A’ chlyweis leferydd yn dywedyt wrthyf, Cyvot Petr: lladd a’ bwyta.
8A dywedais inef, Na vvnaf Arglwydd: Can ys dim cyffredin ai aflan nid aeth vn amser o ve wn vy‐genae.
9Ac atep o’r lleferydd vyvi eilwaith o’r nef, Y pethae a lanhodd Dew, na chyffredina di.
10A’ hyn a wnaethpwyt tairgwaith, a’r oll pethe a gymerwyt y vynydd drachefn ir nef.
11Ac wele, yn y man ydd oedd tri‐gwyr wedy dyvot eisioes i’r tuy lle ir oeddwn i, wedy ei d’anvon o Cesareia ataf.
12A’r Yspryt a ddyvot wrthyf, ar vynet o hanof y gyd ac wynt, eb petrusaw: ac yno y daeth y chwech broder hynn gyd a mi, ac ydd aetham y mewn y duy ’r gwr.
13Ac ef a ddangoses y ni p’oð y gwelsai ef Angel yn ei duy, yr hwn a safawdd ac a ddywedawdd wrthaw, Anvon ’wyr i Ioppa, a’ galw am Simon y gyfenwir Petr:
14ef e a ymadrodd ’eiriae wrthyt’, trwy yr ei ith iacheir tydi ath oll tuy.
15Ac a mi yn dechrae llavaru y dygwyddawð yr Yspryt glan arnwynt, megis ac arnam nineu yn y dechreat.
16Yno y meddyliais am ’air yr Arglwydd, modd y dywetsei ef, Ioan a vatyddiawdd a dwfr, a’ chwitheu a vatyddier a’r Yspryt glan.
17Gan hyny ac a Dew yn rroi yddwynt wy gyfryw ddawn ac a roes i nineu, pan credesam yn yr Arglwydd Iesu Christ, pwy oeddwn i, y allu gwrthladd Dew?
18Pan glywsant wy hynn, dystewy a ’orugant, a’ gogoneddy Dew, gan ddywedyt, Can hynny ac ir Cenetloedd y rhoddes Dew ediveirwch er bywyt.
19Ac wyntwy a ’oyscaresit obleit y gorthrymder y godesei yn‐cylch Stephan, a rodiesont trwyodd yn y ddaethant i Phenice ac Ciprus, ac Antiocheia, eb precethy yr gair y nep, anid ir Iuddaeon yn vnic.
20Ac ’rei o hanaddwynt oedd wyr o Cyprus ac o Cyrene, y sawl pan ddaethant y Antiocheia, a ymddiddanesont a’r Groecieit, ac a precethesont yr Arglwydd Iesu.
21A’ llaw yr Arglwydd oedd gyd ac wynt: ac niuer mawr a gredawð ac y ymchwelawdd ar yr Arglwydd.
22Ac yno y daeth y gair o’r pethae hyny i glustiae yr Eccles, ’oedd yn‐Caerusalem, ac wynt anvonesont Barnabas y vyned yd yn Antiocheia.
23Yr hwn gwedy ei ddyvot a’ gwelet rrat Dew, llawen vu ganthaw, ac ef a annogawdd bavvp oll, ar vot yddwynt trwy arvaeth calon ’lyny wrth yr Arglwydd.
24Can ys gwr da ytoedd ef, a’ llawn o’r Yspryt glan, a’ ffyð, a ’lliosogrwydd o popul a ymgyssylltawdd a’r Arglwydd.
25Yno ydd aeth Barnabas y maith i Tarsus y geisiaw Saul:
26ac wedy y ddaw ei gahel, ef ei duc y Antiocheia. Ac e ddarvu, y n y buont vlwyddyn gyfan yn cytal ar Eccles, ac yn dyscy tyrva vawr, ac y n y ’alwyt y discipulon yn gyntaf lle yn Antocheia yn Christianogion.
Yr Epistol ar ddydd. S. Iaco.
27Ac yn y dyddiae hyny y daeth Prophwyti o Caerusalem i Antiocheia:
28ac y cyvodes vn hanaddynt a elwit Agabus, ac yr arwyddocaodd trwy yr Yspryt, y byddei newyn mawr dros yr oll vyt, yr hynn hefyt y ddarvu y dan Claudius Caisar.
29Yno yr discipulō pop vn yn ol ei allu, a ddarparasont anvon rryvv cymporth ir broder oedd yn preswiliaw yn Iudaia.
30Yr hyn hefyt a wnaethant, gan ddanvon at yr Henafieit, trwy law Barnabas a’ Saul.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.