Gweledigeth 21 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xxj.3, 24: Gwynvydedic cyflwr yr ei dywiol, 8, 27 A thrwm helhynt yr ei andywiol. 11 Agwedd y Caersalem nefawl, ac am wreic yr Oen.

1AC mi weleis nef newydd, a dayar newydd: cans y nef cyntaf, ar ddayar cyntaf eithont heybio, ac ni doedd dim moor mwy.

2A’ myvi Ioan y weleis y dinas santaidd Caersalem newyð yn discin or nef oddiwrth Ddyw gwedy y thrwsio mal priodasverch ar vedr y gwr.

3Ac mi glyweis lleis mawr allan o’r nef yn dwedyd Syna. Tabernacl Dyw gyda’r dynion, ac ef yn dric gydac hwynt, ac hwy y vyddant bobyl yddo ef, a Dyw y hun, y bydd y Dyw hwy ynghyd ac ynthwy.

4A Dyw y sych ymaith yr oll ðeigre oddiwrth y llygeid: ac ny bydd dim myrfolaeth mwy, na thristwch, na liefein, ac ny bydd dim poen mwy: cans y pethey cyntaf eithont heybiaw.

5Ar vn y eisteddoedd ar yr eisteddle, y ddwad, Syna, yrwyf yn gwneythur pob peth oc newyð: ac ef ddwad wrthyfi Escrifena: can ys y maent y geiriey yma yn ffyddlawn ac yn gywir.

6Ac ef y ddwad wrthyfi. E ðerfy mi wyf α ac ῶ y dechreyad ar diwedd. Mi rrof yr vn y sydd sychedic, o ffynon dwr y bywyd yn rrydd.

7Yr vn orchfyga, y geiff etifeðy yr holl pethey, ac mi vyða Ddyw yðo ef, ac ynte vyð mab y miney.

8Ond yr ofnoc ac anghredadwy ar casddynion a’r llyaswyr, ar pyteinwyr ar cyfareddwyr ar delw‐addolwyr, a phob celwddoc y rran hwynt y vydd yny pwll, ysydd yn llosgi o dan a’ brymstan, yr hwn ydiwr eil myrfolaeth.

9Ac vn or seith Angel, yrrein oeddent ar seith phiol ganthynt yn llawn or seith pla diwethaf y ddoyth attaf, ac ymddiddanoedd a mi, dan ddwedyd, Dabre: mi ddangosaf ytti y priodasverch, gwreic yr Oen.

10Ac ef ym dugoeð i ymaith ynyr yspryd y ’lan ychwel vawr, ac y ðangosoeð y mi y dinas vawr Caersalem santeidd, yn discin alllan or nef oddiwrth Ddyw.

11A’ gogoniant Dyw genthi, ae discleyrad hi oeð debic y vaen gwerthvawrysaf, megis maen Iaspar eglaer mal crystal.

12Ac yrydoedd yddi vagwyr vawr ywchel a’ doyddec porth iddi, ac wrth y pyrth doyddec Angel, ac enwey yn escrivenedic, yrrein ydynt doyddec llwyth meybion yr Israel.

13Ar barth y Dwyrein yr oedd tri phorth ac ar du y Gogledd tri phorth, ac ar tu y Dehey tri phorth, ac ar y tu Gorllewyn tri phorth.

14A magwyr y dinas oedd a doyddec gryndwal yddi, ac yndynt hwy enwey y doyddec ebostolion yr Oen.

15Ac yr ydoedd gan yr vn y ymddiddanoeð a mi, corsen aur y vessyr y dinas, ae phyrth hi, ae magwyr hi.

16A’r dinas y osodwyd yn bedwar ochrog ae hud oedd cymeint ae lled, ac ef y vessyroedd y dinas ar corsen doyðec mil ystod: ac hud, ac lled ae hywchter sy yn ogymeint.

17Ac ef y vesyroedd y magwyr hi, pedwar cuvyt a seith igein, wrth vessyr dun, yr hwn yw, mesur yr Angel.

18Ac adeil y magwyr hi oedd o vaen Iaspar, a’r dinas oedd aur pur, yn debic y wydyr gloyw.

19A’ gryndwal magwyr y dinas oedd gwedy y thrwsio a’ phob rryw vaen gwerthfawr: y gryndwal cynta oedd maen Iaspar: yr eil o Saphir, y trydydd oedd o vaen Chalcedon: y pedwerydd Smaragdus.

20Y pymed Sardonix: y chweched Sardius: y seithfet Chrysolithus: yr wythfed Beryl: y nawfed Topazius: y decfed Chrysoprasus: yr vnfed a’r ddec Hiacinthus: y doyddecfed Amethystus.

21Ar doyddec porth doyddec perl oeddent, a’ phob porth ’sydd o vn Perl, a’ heol y dinas’ sy aur pur, mal gwydyr disgleyredd.

22Ac ny weleis i vn demel yndi: cans yr Argl=Ddyw hollallvawc a’r Oen, yw y themel hi.

23Ac nyd rreid yr dinas, wrth yr hayl, nar lleyad y ’oleyo yndi: cans gogoniant Dyw y goleyoeð hi, a’r Oen yw goleyni hi.

24Ar bobyl cadwedic y rrodiant yny goleyni hi: a’ Brenhinoedd y ddayar y ddugant y gogoniant ac anrrydedd yddi hi.

25Ac ny chayer y phyrth hi can trwyr dydd: ny vydd ddim nos yno.

26A’ gogoniant, ac anrrydedd, y Cenedloedd a dducir yddi.

27Ac nyd a y mewn yddi dim aflan, neu beth bynac y weythio casineb ney gelwddey, ond y rei y escrifenwyt mewn Llyfr bowyd yr Oen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help