1NA cheryda henafgwr, eithr cynghora megis tad, yr hai ievainc megis brodyr:
2Yr hen wragedd, mal mammay, yr rei iefainc mal chwioredd, ynghyd a phob diweirdeb.
3Anrrydedda’r gwrageð gweðwon rrain sy wir weddwon.
4Ac o bydd vn weddw ac iddi plant neu wyrion, dyscant yn gyntaf ddangos gwaredd tuagat at dy hun, a’ thalu’r pwyth yw henafieid: can ys hynny ’sy honest a chymradwy gar bron Duw.
5Eithr hon ’sy wir weddw ac vnic, a obeitha yn‐Duw, ac a parhaa mewn gofynnion a gweddion nos a dyð.
6Ond hon syn byw, mewn mursendod, marw ydiw cyd bo yn byw.
7Gorchymyn y petheu hyn, mal i gallont fod yn ddifeius.
8Ac o byð neb nid ymgeleddo yr eiddo, ac yn enwedic eu teulu, e wadawð y ffydd, a’ gwaeth yw nag vn diffydd.
9Na ddycer‐ir‐cyfri wraig‐weðw tann trugain blvvydd oed, rron fu wraic vn gwr,
10ac yn dda i gair am weithredoedd da: os magawdd hi i phlant, o lletteuodd hi y pellenig, o golchawð hi traed y saint, o cymhorthwyawdd hi y rrai fyddent mewn adfyd, o bu perhaus yn wastad ym pob gorchwyl da.
11Eithyr gwrthod y gweddwon iefainc: can ys pan ddechreuōt ymdrythyllu yn erbyn Christ, priodi a fynnant,
12yn cael colledigaeth, am vddynt torri y ffyð gyntaf.
13Ac velly hefyd hvvy yn segur dyscu a wnāt rodio oddamgylch o ty i dy, ac nid yn vnic segur: eithr hefyd yn ofeiriaithus, ac yn rrodresgar, yn adrodd yr hyn ny weddei.
14Mi a fynna am hyny irrei iefeinc priodi, a phlanta, gwarchadvv y tuy ac na roðont ddim achos ir gwrthnebwr i oganu.
15Can ys rrei eusus a ymchwelasont ar ol Satan.
16Ac o byð na gwr ffyddlon, na gwraig ffyðlon a’ gvvragedd gweddwon ganthynt, cynhorthwyent hwynt, ac na ’ormeser ar yr eglwys, mal i bo digoneð i rrei ’sy wir weddwon.
17Yr Henaduriaid syn rreoli yn dda, dauddyblig vrddas hayddant, yn enwedig y rrei sy yn poyni yn y gair, ac mewn dysc.
18Can ys yr yscrythyr lan a ddowaid, Na vwslia safn yr ych sy’n durnu r yd: hefyd, May’r gwethwr yn heuddu i gyflog.
19Ar Henadur na ðerbyn achwyn, o ddieithr tann ddau neu tri o dystion.
20Yr hei a bechant, cyrydda hvvy yn gyhoeddus, mal i gallo r lleill ofni.
21Gorchymyn i ddwy yt gar bron Duw ar Arglwydd Iesu Christ, ar etholedig Angylion, gadw o hanot hynn heb ragori neb mwy noi gilidd, na gwneuthyr dim o gydpartieth.
22Na ddod ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd cyfranoc a phechodau rrei eryll: cadw di dyhun yn bur.
23Nac yf ddwfr yn hwy, eithr arfer ychydic win, ir mwyn dy gylla, ath fynych wendide.
24Pechodau rryw ray or blaen amlwg fyddant, yn rrag ymðwyn ir farn: ar yddo eraill yn dywod ar y ol.
25Ac felly hefyd gweithredoedd da or blaen amlwc fyddant ar hei a font amgenach, i cuddio nis gellir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.