1CLodvoraf yr Arglwydd a’m oll calon, datcanaf dy oll ryveddodae.
2Byddaf lawen, a’ hyfryd ynot: canaf ith Enw, y goruchaf.
3Can ymchoelyt vy gelynion drach ei cefyn: y syrthiant, ac ei collir rac dy wynep.
4Can ys dadleueist gyd a’m cyfiawnder a’m cygcaws: ydd wyt yn eistedd yn gorsedd, ac yn barnu cyfiawnder.
5Ceryddeist y cenedloedd, destrywieist yr andywiol: deléist ei henw byth bythawl.
6Ha elyn, ys darvu am ddinistroedd yn dragywyth, a’ thi ddinistreist y dinasydd: ys darvu ei coffadurieth y gyd a hwy.
7A’r Arglwydd a eistedd yn dragyvyth: ef arlwyawdd ei’orsedd i varn.
8Canys ef a varn y byd yn-cyfiawnder, ac e varn y popul ac vniondep.
9Yr Arglwydd hefyt vydd amddeffen ir angenawc, a nawdd yn amser yn-cyfyngdra.
10A’r ei adwaenant dy Enw, a ymddiriedant ynot: can na edeist, Arglwydd, erioed y ath ceisyent.
11Can-molwch yr Arglwydd y breswyl Tsijon: manegwch ir bopuloedd ei weithredoedd.
12Can ys pan ymovno ef am waed, y cofia am danei, ac nyd ebryvyga gwynvan y tlodion.
13Trugará wrthyf, Arglwyð, gwyl vy-blinder y wrth vy dygaseion, yr hwn wyt im derchafel o byrth angae.
14Mal y menagwyf dy oll voliant ym-pyrth merch Tsijón, y llawenechwyf yn dy iechyt.
15Y cenedloedd y soddesant yn y ffoss y wneythant: yn y rhwyt y guddiesont y daliwyt ei troed hwy
16Yr Arglwydd y adweinir gan wneuthnr barn: yr andewiol y veglir yn-gweithredoedd ei ddwylo ehun. Higaion. Selah.
17Yr ei enwir ydd ymchwel y yffern, ar oll genetloedd yddel Duw dros gof ganthynt.
18Can nad anghofir y tlawt yn tragyvyth: gobeith yr ei blinderawc ny chollir yn tragywyddol.
19Cyvot Arglwydd: na ’orvyddo dyn, barner y cenedloedd yn dy ’olwc.
20Dod, Arglwydd ofn arnynt, mal yð adwaeno y cenedloedd mae dynion ytynt. Selah.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.