1YR hwn a drig yn-dirgelwch y Goruchaf, y dan wascawt yr Oll gyvoethawc y cartefa.
2Dywedaf wrth yr Arglwydd, â vy-gobeith, am ymddeffenva: vy-Dew, ynthaw y ymddiriedaf.
3Can ys ef ath wared y wrth hoynyn yr heliwr, ac y wrth y cornwyt llygrawc.
4Dan ei adanedd ef ath toa, ac y dan ei escyll ith ddiogelir: ei wirionedd vydd dy darian ath vwcklet.
5Nith ofnir gan arynaic y nos, chan y saeth y eheta y dydd:
6Na chan y cornwyt y rodia yn y tywyllwch: chan yr adwyth a ddiva am haner dydd.
7Mil y gwympant wrth dy ystlys, a’ myrdd ar dy ddeheulaw, ny ddaw yn agos atati.
8 Eithr ath lygait ydd edrychy, a’ gobr yr andewolion y wely.
9Can ys, Yr Arglwydd yw vy-gobeith: gossodeist y Goruchel yn noddva yty.
10Ny ddygwydd yty ddrwc, ac ny nesa ddim pla ith pepyll.
11Can ys yw Angelion y gorchymyn ef, dy gadw yn dy oll ffyrdd.
12Yn eu dwylo ith dducant, rrac yt’ vriwo dy droet wrth garec.
13Ar y lleo ar asp y cerddy, ceneu y lleo a’r ddraic y sathry.
14O bleit yðo vy-caru, am hyny ei gwaredaf: ei derchafaf can yddaw adnabot vy Enw.
15Ef a’ ailw arnaf, ac ei gwrandawaf, gyd ac ef y yn yr ing: mi ei gwaredaf, ac ei gogoneddaf.
16A hir ddyddiae ei digonaf, a ðangosaf yðo vy iechyt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.