1.Petr 2 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ij.1 Eu hannoc y mae ef ar roi heibio pop gwyd, 4 Gan ðangos may Christ yw’r sail y maent yn adailad arnaw. 9 Rygorvraint y Christianogion. 11 Y mae ef yn ervyn yðynt ymgynnal ywrth chwanteu cnawdol. 13 Bot uvydhau ir llywiawdwyr. 18 P’oð y dlei gwasanaeth‐ddynion ymddwyn wrth eu perchen. 20 Annoc y mae ddyoddef yn ol esempl Christ.

1HErwydd hyn, dodwch heibio pob malais a phob twyll, a phob rragrith, a’ chenvigen, a phob goganair.

2 Ac mal rrai bychain newydd eni byddwch chwannoc y laeth didwyll y gair, mal i galloch drwy hwnw gynyddu.

3Os profasochi fod yr Arglwydd yn gywaithas.

4At yr hwn y ddych yn dyvod megis at faen byw anghymradwy can ddynion, eithr can Ddyw etholedic a’ gwerthfawr.

5A’ chwithau hevyd megis main bywiol, a edyladwyd yn dy ysprydol, ac yn effeiriadaeth santaið y offrymmu aberthau ysprydol cymradwy can Ddyw trwy Iesu Christ.

6 Ac am hyny y cynhwysir yn yr scrythr, Nycha, dodi y ddwy yn Syon sailfayn arbennic, etholedic a’ gwerthfawr: ar neb a gretto yntho, nis gwradwyddir ef.

7O blegid hyn y chwi sawl ydych yn credu, vrddas yw: eithr yr anufuddion, y maen a wrthodasont yr edeiladwyr, hwnw a wnaed yn ben congl.

8Ac yn faen tramcwydd, a’ chraic afrifed, ir rrai sy yn tramgwyddo wrth y gair a hwynt yn anufydd, ir hwn beth ir ordinhawyd hwynttw.

9Eithr chwichwi cenhedlaeth etholedic ytych, brenhinawl effeiriadaeth, nasiwn santaidd, pobl syn yn briodoriaeth y Ddyvv mal i gallechi vanegi rrinweddau y neb ach galwodd o dywollwc yw ryfeddodys ’oleuni ef,

10Rrain gynt nid pobl oyddech, yn awr hagen pobl Ddyw: rrain gynt ni doed ywch trugaredd, yn awr hagen a freiniasoch trugaredd.

Yr Epistol y iij. Sul gwedy yr Pasc.

11 Vyngrredigion, ytolwc ywch, megis dieithraid a phererinion ymgedwch o ddiwrth trachwantayr cnawd, rrain sy yn rryfela yn erbyn yr cnaid,

12A bid ych ymwreddiad yn honest ymysc y cenhedloedd, mal y gallo rrai sy ich goganu mal pe byddech afrifeid, herwydd ych gweithredoedd da y welant, foliannu Dyw yn y dydd ir ymweler ac wynt.

13Ymddarostyngwch o blegyd hyn y bob dynawl odinhad ir mwyn yr Arglwydd, ai ir Brenin, mal ir goruchaf,

14Ai ir llywiawdwyr, mal i rrai trwyddo ef a ddanfonir, ir dialedd ir rrai drwc, ac ir mawl yr rrai da.

15Can ys felly may wollys Dyw, mal y galloch trwy wneuthyd yn dda gostegu anwybodaeth dynion ffolion,

16Megis yn rryðion, ac nid val rrai a gymer rrydit yn lle cochel malais, eithr mal gwasnaythwyr Dyw.

17Perchwch bawb: cerwch cymdeithas froduraidd: ofnwch Ddyw: anrrydeddwch y Brenin.

18Gwenidogion, ymostyngant mewn pob ofn yw meistred, nid yn vnic ir rrai da cywaythas, eithr yr ir anghyweithas hevyd.

19Can ys hyn sy rasol, as herwydd cydwybod i Ddyw, y bo y neb cydymddwyn molestay, yn goddau yn ddiachos.

Yr Epistol yr ail Sul gwedy yr Pasc.

20O blegid pa glod yw, ir bod yn dda ych ymynedd pan cernotter chwi am ych beie? eithyr pan wneloch dda, ac ir hynny yn dda ych ymnnedd yn goddef cam, hyn sy rasol gar bron Dyw.

21Can ys y hyn y galwyd chwi: o blegid Christ hefyd a ddioddefodd trosom ni, gan adel y ni angraifft val y gellychi ganlyn eu olion ef.

22Rrwn ni wnaythodd pechod, ac ni chad twyll yn eu enau.

23Rrwn pan ddirmygwyd ef, ni ddirmygawð eilwaith: pan ddyoddefawdd, ni vygythiodd, eithyr bwrw y dialedd at y neb sy yn barnu yn gyfion.

24Rrwn y hun a ddug yn pechoday ni yn eu corff ar y pren, val y gallem ni wedi eyn ymwared o ywrth pechod, fyw y gyfiawnder, trwy cleisiau rrwn yr iachaywyd chwi.

25Can ys y royddech megis defaid yn mynd ar ddidro: eithr yn awr chwi a droysoch at bigail, ac escob ych eneidiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help