1A Ddew, paam ein dodeist ymaith yn dragyvyth? yr ennyn dy ddigllonedd yn erbyn deveit dy porva?
2 Meddwl am dy Gynnulleiddfa, veddaist o’r cynvyt, ac am wialen dy etiueddieth yr hon y brynaist, am y mynyth hwn i Tsijon yn yr vn y trigeist.
3 Dercha dy draet, val y dinistrych yn dragyvyth bop gelyn, y ddruga dy Gyssecr.
4Dy wrthnebwyr a ruant yn-cenol dy Gynulleidva, ac y osodant ei banerae yn arwyddion.
5[Yr hwn a godes] y bwyeill ar y prenneu cyngavoc, oedd adnabodedic, val vn yn dwyn peth y vcheldep:
6Ac yr owrhon y torant y lawr hei gwaith cerviedic a bwyeill ac a mwrthoelion.
7Tavlesont dy Gyssecr yn tân, yd lawr, a halogesont drigva dy Enw.
8Dywedent yn eu calon, anreithiwn hwy y gyd: wy loscesant oll Synagogae Dew yn y tir.
9Ein arwyddion ny welwn: nyd oes mwy vn Prophwyt, na neb gyd a ni a wyr pa hyd.
10Pa hyd, Ddew, cawdd y gwrthnebwr? a gabla y gelyn dy Enw yn dragyvyth?
11Paam y troi dy law ymaith, ys ef dy ddeheulaw: oth vonwes, diva hwy.
12Can ys Dew vy-Brenhin o’r cynvyt: yn gwaithiaw iechyt yn-cenol y ddaiar.
13Ti a bartheist y môr gan dy gedernit: drylliaist béne y dreiciae yn y dyfredð,
14Ti ddrylliest ben Leuiathan yn chwilvriw, ac ei rhoddeist yn vwyt ir popul yn y diffeithwch.
15Ti a doreist ffynnon ac avon: dysycheist avonedd cedyrn.
16 I ti y mae ’r dydd, ac y ti y mae’r nos: ti paratoeist y golauni a’r haul,
17Ti ’osodeist oll dervynae ’r ddaiar: ti wnaethost haf a gaiaf.
18Coffa hyn, gablu o’r gelyn yr Arglwydd, a divenwi or bobul ynvyt dy Enw.
19Na ddyro eneit dy durtur ir bwystvil, na angofia gynulleidfa’r tlodion yn tragyvyth.
20 Edrych at ðygymbot: can ys tywyll-leoedd y ddaiar a lanwyt o drigvae y dyn traws.
21Na bo ir gorthrymedic ymchwelyt yn wradwyddedic, molent y tlawd ar angenawc dy Enw.
22Cyvot, Ddew: dadle dy ddadl dy-un: coffa dy sén beunyddiol gan yr ynvyt.
23Nac ancofia lef dy elynion: dwrdd yr ei ys y yu codi ith erbyn, a escen yn oystat.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.