1AC ef a gyvodes o yno ac aeth i ffiniae Iudaia rhyd y tu hwnt i Iorddonen, a’r vintai a gyrchodd ataw drachefyn, ac val ydd oedd gynefin, ef y dyscai wy drachefyn.
2Yno y daeth y Pharisaieit a’ gofyn iddo a oedd rydd i wr roi ymaith ei wraic, gan yddyn ei demptio ef.
3Ac ef atepodd ac a ddyvot wrthynt, Peth a ’orchmynawdd Moysen y chwi?
4Dywedesont wythe, Moysen a ’oddefawdd bot yscriueny llythyr yscar, a’ei rhoi hi ymaith.
5Yno ydd atepodd yr Iesu, ac y dyvot wrthynt, Am galedrwydd eich calon chvvi ydd escriuenawð ef y gorchymyn hwn ychwy.
6And yn‐dechreuat y creaduriacth y gwnaeth Duw hwy gwryw a’ benyw.
7Achos hyn y gad dyn ei dad a’ ei vam, ac a lyn wrth ei wreic.
8Ac wy ill dau a vyðant vn cnawd: yd nad ynt mwyach yn ddau ’namyn vn cnawd.
9Can’s yr hyn a gyssyllta Duw na ’ohanet dyn.
10Ac yn tuy y govynent ei ðiscipulon iðo drachefyn am y peth hwnw.
11Ac ef a ddyvot wrthynt, Pwy pynac y ddyr ’ymaith ei wraic a’ phriody vn arall, ef y wna ’odineb yn y herbyn hi.
12Ac a’s gwreic y ddyr ’ymaith hei gwr, a’ phriodi vn arall y mae hi gwneithy’r godinep.
13Yno y ducesant blant‐bychain ataw er iddo ei cyhwrdd: a’ei ddiscipulon a geryddent yr ei’ a ddaethei ac wynt.
14A’ phan ey gwelawdd yr Iesu sori a oruc ef, a’ dywedyt wrthynt, Gedwch i’r ei bychain ddyuot ata vi, ac na’w goherddwch: can ys o’r cyfryw y mae teyrnas Duw.
15Yn wir y dywedaf wrthych, Pwy pynac ny’s erbynia deyrnas Duw, megis bachcenyn, nyd a ef y mewn ddim yddi.
16Ac ef ei braicheidiawdd wy, ac a ’osodes ei ddwylo arnaddynt, ac a ei bendithiawdd.
17A’ gwedy iddo vyned allan i’r ffordd, y daeth vn yn rhedec, ac a benlinioð iddo, ac a vynawð yddaw, Athro da, beth a wnaf i, y gael meðiantu bywyt tragyvythawl?
18A’r Iesu a ðyvot wrthaw, Paam y gelwy vi yn ða? nyd da nebun anyd vn, ’sef Duw.
19ti ’wyddost y gorchmynion, Na wna odineb. Na ladd nep. Na ladrata. Na ffalstestolaytha. Na wna eniwed i neb. Anrydodda dy dad a’th vam.
20Yno ydd atepodd ef, ac y dyuot wrthaw, Athro, hyn oll a gedweis o’m ieunctit.
21A’r Iesu a e drychawdd arnaw, ac ei carawdd, ac a ddyuot wrthaw, Mae vn peth yn ol iti, Does a’ gwerth cymeint oll ac y sy yti, a’ dyrho i’r tlodion, a’ thi gai dresawr yn y nef, a debre, dilyn vi, a chyvot dy groc ar d’yscvvydd.
22A’ phruddhau gan yr ymadrodd hyn a wnaeth ef, a’ thynny y maith yn athrist: can vod iddo lawer o veddiantae:
23A’r Iesu a edrychawdd o ei amgylch, ac a ddyuot wrth ei ddiscipulon, Mor anhawdd yr a y sawl ys y a golud ar ei helw i vevvn y deyrnas Duw.
24A’ ei ðiscipulon a ddechrynesont wrth ei eiriae. A’r Iesu atepawdd dragefyn, ac a ddyuot wrthwynt, Ha veibion, mor anhawð yw ir ei a ymddiriedāt yn‐goludoeð, vyn’d y mewn teyrnas Duw.
25Hawsach yw i gamel vyn’d drwy grau ’r nodwydd, nag i ’oludawc vyn’d y mewn teyrnas Duw.
26Ac wythe ddechrynesont yn‐vwy‐o-lawer, gan ddywedyt writhyn ei hunain, A’ phwy a ddichon vod yn gatwedic?
27A’r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ðyuot, Gyd a dyniō ampossibl yvv hyn, and nyd gyd a Duw: can ys pop peth ’sy possibil gyd a Duw.
28Yno y dechreawdd Petr ddywedyt wrthaw, Nycha, ys gadawsam ni bop peth, ac ath ddilynesam di.
29Yr Iesu a atepodd ac a ddyuot, Yn wir y dywedaf i chwi, nyd oes nep ar adawodd duy, ’nei vroder, nei chwiorydd, neu dad, neu vam, neu wreic, neu blant, ne diroedd o’m pleid i a’r Euangel,
30a’r ny’s derbyn ar y canvet yr awrhon y pryd hyn: tai, a’ broder, a’ chwioredd, a’ mamae, a’ phlant, a’ thiredd y gyd ac erlidiae, ac yn yr oes a ddaw vuchedd dragyvythawl.
31Eithr llawer ar ’sy yn cyntaf, a vyddant yn olaf, a’r ei olaf yn gyntaf.
32Ac ydd oeddent vvy ar y ffordd yn escend i Gaerusalem, a’r Iesu a ai o’i blaen, a’ dechryny a wnaethant, ac val ei dilynent, yr ofnesont, a’r Iesu a gymerth y dauddec drachefyn, ac a ddechreuawdd ddywedyt yddyn pa pethae a ddelei yddo,
33gan ddyvvedyt, Nycha, ni yn escend i Gaerusalem a’ Map y dyn a roddir at yr Archoffeirieit, ac at y Gwyr‐llen, ac wynt y barnant ef i angae, ac y rhoddant ef at y Cenetloedd.
34Ac vvy y gwatworant ef, ac ei yscyrsiant, ac y boyrant arnaw, ac ei lladdant: eithyr y trydyð dydd y cyvyt ef drachefyn.
35Yno y daeth ataw Iaco ac Ioan meibion Zebedaeus, gan dywedyt, Athro, ni ’wyllesem wneythyr o hanot i ni yr hyn a ddeisyfem.
36Ac ef a ddyvot wrthynt, Beth a ’wyllysech i mi y wneythyd y chwi?
37Wythe a ddywedesont wrthaw, Caniata i ni gael eistedd vn ar dy ddeheulavv, a’r llall ar dy lavv aseu yn dy ’ogoniant.
38A’r Iesu a ddynot wrthynt, Ny wyddoch pa beth a erchwch. A ellwch‐vvi yfed o’r cwppan yr yfa vi o hanavv, a’ch bedyddio a’r betydd y betyddier vi?
39Ac wy dywetsont wrthaw, Gallwn. A’r Iesu a ddyvot wrthynt, Diau yr yfwch o’r cwppan yr yfa vi o honavv, ac ich betyddijr a’r betydd yn yr hwn im betyddier inef:
40anyd eistedd ar vy llavv ddeau ac ar fy llavv aseu, nyd yw vau ei roddy, anyd ei roi a vvnair ir ei y paratowyt.
41A’ phan glypu ’r dec ereillhyny, y dechreusont sory wrth Iaco ac Ioan.
42A’r Iesu y galwodd wy ataw, ac a ddyvot yddynt, Chvvi wyddoch mai yr ei ’sy hoff ganthynt lywodraethu ymplith y Cenedloedd y harglwyddiaethant wy, a’r sawl ’sy vawrion yn ey plith, a arverant o awdurtot arnaddynt.
43Eithyr nyd velly y bydd yn eich plith chwi: an’d pwy pynac a’ wyllysio vot yn vawr yn eich plith chwi, byddet wenidoc y chwy.
44A’ phwy pynac a ewyllisia vot yn benaf o hanochwy, byddet was pavvp oll.
45Can ys‐a’ Map y dyn ny ðaeth i gahel gweini iddo, anyd i weini, a’ rhoi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
46Yno yd aethant i h Iericho: ac val yð oeð ef yn myned allan o h Iericho gyd ai ddiscipulon, a’ mintai vawr, Bartimaeus vap Timaeus dyn dall a eisteddai ar vin y ffordd yn cardota.
47A’ phan glypu mai ’r Iesu o Nazaret oedd yno, ef a ddechreuawdd lefain a’ dywedyt, Iesu vap Dauid trugarha wrthyf.
48A’ llawer y ceryddent ef, er iddo dewi: yntef a lefai yn vwy o lawer, Ha vap Dauid, trugarha, wrthyf.
49Yno gorsefyll o’r Iesu, a’ gorchmyn y ’alw ef: ac wy e alwasant y dall, gā ddywedyt wrthaw, Cymer gyssyr: cyfod, mae ef yn dy ’alw.
50Yno y tavlodd ef ei gochyl ymaith, ac a gyvodes ac a ddaeth at yr Iesu.
51A’r Iesu ’atepodd ac a ddyuot wrthaw, Beth a ewyllysy wneythyd o hanof yty? A’r dall a ddyuot wrthaw, Arglwydd, cael o hanof vy-golwc.
52Yno y dyuot yr Iesu wrthaw, Dos ffwrdd, dy ffydd ath iachaodd, Ac yn y man y cafas ei ’olwc, ac y canlynodd ef yr Iesu rhyd y ffordd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.