2. Timotheus 4 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iiij.Y mae ef yn annog Timotheus y vot y vrwd yn y gair, a’ dyoddef gwrthpwyth, 6 Y mae yn gwneuthur coffa am ei varwolaeth ehun. Ac yn erchi i Timotheus ddyvot ataw.

1YS gorchmynaf yty gan hyny ger bron Duw, a’ cher bron yr Arglwyð Iesu Christ, yr hwn a vairn y byw a’r meirw yn ei ymddangosiat, ac yn ei deyrnas,

2Precetha’r gair: tyn‐rragot, yn amser ac allan o amser: argywedda, cerydda, annoc drwy ammynedd-da ac athraweth.

3Can ys e ddaw’r amser pryd na ddyoddefant athraweth iachus: eithr aei clustieu a chosi, wrth y chwanteu y hunain a bentyrant yddynt ddyscyawdwyr,

4Ac a droant ei clustieu y wrth y gwirionedd, ac a ymchwelant at chwedleu.

Yr Epistol ar ddydd S. Luc.

5Eithyr gwilia di ym‐pop dim: dyoddef‐wrth pwyth: gwna waith Euangelwr: par wybot yn ollawl dy wenidogeth.

6Can ys ydd yw vi yr owrhon yn parat im offrymu, ac amser vy ymadawiat ys ydd yn agos.

7 Mi a ymdrechais ymdrech tec, ac ’orphenais vy‐gyrfa, y ffydd a gedwais.

8 Can’s rrac llaw y roddwyt y mi y gadw coron cyfiawnder, yr hon a rydd yr Arglwydd y barnwr cyfiawn y mi yn y dydd hwnw: ac nyd y mi yn vnic, amyn ir oll ’rei y garant y ymddangosiat ef.

9 Brysia y ddyvot ataf yn ebrwydd.

10Can ys Demas am gadawdd, gan ymgary y byd presennol, ac aeth ymaith y Thessalonica. Crescens aeth i Galatia, Titus i Dalmatia.

11Lucas yn vnic ys y gyd a mi. Cymmer Varc a’ dwc y gyd a thi: can ys buddiol yw ef y mi y weinidogeth,

12A’ Thichicus a ddaunonais i Ephesus.

13Y cochl a edewais i yn Troas y gyd a Charpus, pan ddelych, dwc gyd a thi, a’r llyfreu, yn enwedic y membranae.

14Alexander y gof‐copr a wnaeth i mi lawer o ddrwc: talet yr Arglwydd yddo erwydd ei weithredoedd,

15Rac yr hwn ymgadw dithe hefyt: cans ef a wrthsafodd ein precaethe ni yn ddirvawr.

16Yn vy atep cyntaf nyd oedd neb yn sefyll gyd a mi, eithr pawp am gadawsont: mi atolygaf y Dduvv na liwier ydd‐wynt.

17Er hyny yr Arglwydd a safoð gyd a mi, ac am nerthawð, mal trywo vi y cwbl cyflawnit i precethiat, ac mal y clywent yr oll Genetloedd, ac im gwaredwyt o eneu y lleo.

18A’r Arglwydd am gwared rrac pop gweithred ddrwc, ac am caidw yw deyrnas nefawl: ir hwn y bo gogoniant yn oesoedd oeseu, Amen.

19Anerch Prisca, ac Aquila, a’ thuylvvuth Onesiphorus.

20Erastus a arosawdd yn‐Corinthus: Trophinus a edais yn‐Miletum yn glaf.

21Cais ddyvot cyn y gayaf. Eubulus ys ydd ith anerch, ac Phudens, ac Linus, ac Claudia, a’r oll vroder.

22Yr Arglwydd Iesu Christ a vo y gyd ath yspryt. Y rat ef vo gyd a chwi, Amen.

Yr ail Epistol a escrivenwyt o Ruuein ad Timotheus yr Episcop cyntaf y ðywyswyt i Eccles Ephesus, pan ’osodit Paul yr ailwaith ger bron y Caisar Nero.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help