1CAn ys y Melchisedec hwn brenin Salem ydoeð, effeiriat Dyw goruchaf, rrwn a ddoeth y gyfarfod ac Abraham, wrth yddo ddymchwelud o ddiwrth laddfa yr brenhinoeð, ac ay bēdigawð ef:
2Ac yddo efe y cyfrannawð Abraham ddegwm o bob peth: yn gynta yn wir wrth y ddeongl yvv brenin y cyfiownder: wedi hynny hevyd brenin Salem, y dyvv sef yw hynny brenhin heddwch,
3 Heb dad, heb vam, heb genedl, nid oes yddo na dechreu dyddiau, na diwedd einioes: eythr a gyfflybir y vab Dyw, ac a erys yn effeiriad yn dragwyddawl.
4Edrychwch eusus faint oedd hwn oedd Abraham y pariarch yn rroi degwm iddo or yspail.
5Ar rreini yn wir sy o feibion Levi, yn derbyn svvydd yr effeiriadaeth, may centhynt orchymyn y gymerud, degwn gan y bobl, ar ol y gyfraeth (sef yw gan eu brodyr) ir y bod gwedi dyfod o lwynay Abraham.
6Eythr yr hwn ni hanoedd i genhedlayth o honyntwy, a gymerawdd ddegwn gan Abraham, ac a fendigawdd yr hwn y gwneithyd yr addewid yddo.
7Ac yn ddiddadl y lleia, a gymer‐fendith can y mwyaf.
8Ac yma dynion y rrai a fyddant feirw, a gymerant ddegwn: eythr yno y derbyn yr hwn y testaleithir am dano y fod ef yn vyw.
9Ac o ddoydyt felly, yn Abraham y talodd Levi yntau hevyd ddegwm, rrwn ydoedd ar ol a chymeryd degwm.
10O blegyt eto yn llwynau eu dad Abraham rydoedd ef, pan gyfarfu, Melchi‐sedec ac Abraham.
11Os ydoedd gan hynny perffeithrwydd trwy offeiriadaeth Leui (oblegid can honno y sikerhawdd y gyfraith ir bobl) pam raid ymhellach no hynny, godi effeiriad arall, ar ol ordr Melchi‐sedec, nis gelwid ar ol ordr Aaron?
12O blegid yn wir wedi newidiaw yr effeiriadaeth, rraid oedd fod newidiad ar y gyfraith hevyd.
13O blegid am yr hwn y doydir hyn, ef a berthyn y lwyth arall, or rrwn ni does neb yn gwasneuthu yr allor.
14Can ys ysbys yw, may o Iuda y may yn harglwydd ni yn dyvot, am y llwyth hwnw ni ðyvod Moses ddim tu ac at yr effeiriadaeth.
15Ac etto chwaneg o ysbysrwydd, gan godi effeiriad arall ar ol cyfflybrwydd Melchi‐sedec,
16Rrwn nid wrth gyfraith y gorchymyn knowdol y gwnaythbwyd yn offeiriad, eythr wrth power y bowyd didrancedic.
17O blegid y may yn testlauthu val hyn, Tydi effeiriad vvyt yn dragwyddol, ar ol ordr Melchi‐sedec.
18Can ys y gorchymyn oedd or blaen sy wedi y symudo, am y fod yn ddiffrwyth, ac yn ðibroffit,
19Can ny wnaeth y gyfraith ðim perffeithrwyð, namyn dyvodiad y gobaith gwell a berffeithiodd, drwy yr hwn y ddym yn nesau at Ddyw.
20Ac yn gimaint nas byddid heb lw (o blegid hwynt wy o ddieythyr llw y gwnaythbwyd yn effeiriaid:
21A’ hwn, efe a vvnaethpvvyt a llw gan yr hwn a ðywod wrtho, Yr Arglwydd a dyngodd, ac ni bydd edifar cātho, Ti ydwyt effeiriad yn dragwydðol, ar ol ordr Melchi‐sedec)
22Ar Destament gwell o aros hynny y gwnaythbwyt Iesu yn vachniaeth.
23Ac wynt wy llawer o honyn a wnaid yn effeiriaid, achos nas goddefay marfolaeth vddynt aros.
24Eithyr hwn, am y fod ef yn perhau yn dragowydd, may iddo ef effeiriadaeth tragwyddol.
25Am hynny fe ddychin hefyt yn llwyr iachau yr rai a ddawant at Ddyw trwyddo ef, gan y fod ef yn byw fyth, y gyfrwng‐weddiaw trostynt.
26O blegid cyfryw Archoffeiriad oedd weddus y ni y gael, ysy santaidd, diddrwg, dilwgr, wedi y neilltuo oddiwrth pechaduriaet, ac wedy i wneuthur yn uwch nor nefoedd:
27Yr rrwn nid oedd rraid yddo beunydd, megis ir effeiriaid hyny: yn gynta trostynt y hunain offrymu aberthau tros pechodau, wedi hynny tros pechoteu y bobl: cans hynny a wuaeth ef vnwaith, pan offrymmodd ef y hun.
28Can ys y gyfraith sy yn gosod dynion yn archoffeiriaid, ac anallu arnynt: eithyr gair y Llw yr hwn a vu gwedy y Gyfraith, a vvna y Map, yr hwn, a gyssecrwyt yn dragyvyth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.