2. Corinthieit 9 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ix.Achos dyuodiat Titus ef ai gymddeithion atynt wy. Mae et yn eiriol rhoi elusen yn dirion, Gan ddangos pa ffrwyth a ddaw o hyny.

1CAn ys tuac at am y weinidogeth ir Saintæ, afraid yw i mi scrivenu atoch.

2Can ys adwaen eich ewyllysgarwch chwi, ’rhwn ydd wyf yn ymffrostio am danoch wrth yr ei o Macedonia, gan ddyvvedyt, bot Achaia gwedi hi pharatoi er ys blwyddyn, ach awyddvryd chwi a annogodd lawer.

3A’ mi a ddanvoneis y broder, rac y ein gorvoeð ni am danoch vot yn over, yn y rhan hon, val (vegis y dywedaisym) y boch parot:

4rac a’s y Macedonieit a ðawā gyd a mi, a’ch cahel chwi yn amparot, yno bot i ni nyd wy ’n dywedyt vot y chwi gael cywilyð yn yr hyderus ’orvoledd hyn veuvi.

5Erwyð paam mi a dybiaisvod yn angenrait annoc y brodur y ddyvot yn y blaen atoch, a’ chwplau eich bēdith rac ðarparedic, a’ bot yn parat, a’ ddyuot megis o vendith, ac nyd megis o gympel’.

6A’ hyn bid ich cof, may hwn a heua yn eiriachus, a ved hefyt yn eiriachus, a hwn a heuo yn ehelaeth, a ved hëfyt yn ehelaeth.

7Megis y damuno pop dun yn ei galō, velly may iddo roi, nyd yn athrist neu wrth yr ing: cans Duw a gar roðiawdr tirion.

8Ac y mae Duw yn abl y beri ir oll rat amylhau arnoch, val y bo ywch ac oll ddigonoldeb genych ym‐pop dim, allu amylhau ym‐pop gweithret da,

9megis y mae yn scrivenedic, Ys tanodd ef ar lled a ’rhoddes ir tlodion: ei giried ef a erys yn oes oesoedd.

10Hefyt yr hwn a bair had ir heuwr, a bair eisioes vara yn ymborth, ac a liosoca eich had, ac a āgwanega ffrwyth eich ciried, val o bop rā ich cyuoethoger y bop calondit‐dda,

11yr hyn a weithia trwyddom ni ddiolvvch y Dduw.

12Can ys gwenidogeth y y gwasanaeth hwn nyd yw yn vnic yn cyflanwy angēreidiae ’r Saintæ, anyd y mae hefyt yn aml gan ddyolch llaweroedd y Dduw,

13(yr ei wrth broviad y weinidogaeth hon a volant Dduw dros eich cydsynniol ymddarostwngedigaeth ir Euangel Christ, a’ thros eich dibrin gyfraniat yðynt wy, ac y bawp oll)

14a’ chan ei gweddi trosoch, gan ych deisyfu chwi yn vawr, am yr ardderchawc‐rat Duw ’sy ynoch.

15Ac y Dduw bo’r diolvvch dros ei antraethawl ddawn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help