Ioan 7 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. vij.Yr Iesu yn argyweðu ymgymeriat ei gerent. Amryw dyb ne varnedigaeth am Christ ymplich y werin. Ef yn dangos pa ddelw yr adwaenir y gwirionedd. Y camwedd wnaēt ac ef. Y Pharisaieit yn ceryddu y swyddogion can na ddalient wy ef. Ac yn rhoi senn i Nicodemus am ddadleu y gyd ac ef.

1AR ol y pethe hyny gorymdaith a oruc yr Iesu yn‐Galilaia, ac nyd wyllysawð ef ’orymddaith yn Iudaia: can ir Iuddaeon gaisiaw y y ladd ef.

2A’ gwyl yr Iuddaion ’sef gvvyl y Pepyll oedd yn agos.

3Dywedynt gan hyny ei vroder wrthaw, Dos ymaith o yma, a’ cherdda i Iudaia, val ac y gwelo dy ðiscipulon dy weithredoedd yr ei a wnei.

4Can nad oes nep a wna ddim yn y ddirgel ac yntef yn caisiaw bot yn gyhoeddedic. A’s y pethe hyn a wnai, eglura dyhun i’r byt.

5Can ny’s credent ei vroder yndo hyd hyn.

6Yno dywedyt or Iesu wrthynt, Ny ddaeth vy amser i eto: eich amser chwi ’sydd yn wastat yn parat.

7Ny all y byt ych casau chwi: ac e am casau i, can i mi destiolaethu a’m danaw, vot ey weithredoedd e yn ddrwc,

8Escennw‐chwi ir wyl hon: nyd escenda vi eto ir wyl hon: can na chyflawnwyt vy amser i eto.

9Y pethe hyn a ðyvawt ef wrthynt, ac a arosawdd yn‐Galilaia.

10A’ chy gynted yr escendent y vroder ef, yno yr escenawð yntef ir wyl, nyd yn oleu, anyd vegis yn ddirgel.

11Yno y ceisiai ’r Iuddeon ef yn yr wyl, ac y dywedent, P’le mae ef?

12A’ murmur mawr oedd am danaw ym‐plith y populoedd. Rei a ddywedent, Y mae ef yn wr da: yr eill a ddawedynt, Nyd yvv ef: eithr y mae e yn twyllo yr bopl.

13Er hyny ny lafarawdd nep yn eglur am danaw, rac ofn yr Iuddaeon.

14Ac yn awr wedy darvot haner yr wyl, yr escennawdd yr Iesu i’r Templ, ac y dyscawdd hvvy.

15A’r Iuddeon a ryveddesont, gan dywedyt Podd y gwyr hwn yr Scythurae ac yntef erioed eb ddyscu?

16Yr Iesu a atepawdd yddynt, ac a ddyvawt, Y dysc meu nyd yw veu, eithyr yddaw ef yr hwn am danvonawdd i.

17A’s wyllysa nep weneuthur y ’wyllys ef, ef a wybydd am y ddyscceideth, ay o Dduw y mae hi, ai mivi sy yn llavaru o hano vy hun.

18Hwn a lefair o hano y hun, a ymgais y ’ogoniant y hun: eithr hwn a ymgais ’ogoniant yr vn ai danvonawdd ef, hwnw ’sy gywir, a’ dim ancyfiawnder ynto nyd oes.

19Any roes Moysen y chwi Ddeddyf, ac eto nyd oes nep o hanoch yn cadw ’r Ddeddyf? Paam y ceisiwch vy lladd i?

20Y popul a atepawdd, ac a ddyvawt, Y mae cythraul genyt: pwy ’sy yn caisio dy ladd?

21Yr Iesu a atepawdd ac a ddyuot wrthynt, Vn gweithred a wnaethym, ac ydd ych oll yn ryveddu.

22Am hyny Moysen a roes y‐chwy Enwaediat, (nyd can y vot o Voysen, eithr am y vot o’r Tadae) a’ chvvi ar y dydd Sabbath a enwaedwch ar ddyn.

23A’s derbyn dyn ar y Sabbath enwaediat, rac bod tori Deðyf Moysen, a ddigiwchvvi wrthy vi, can y‐my wneuthur dyn yn holl‐iach ar y dydd Sabbath?

24Na vernwch erwydd y golwc, eithr bernwch varn gifiawn.

25Yno y dyvawt r’ei o hanynt wy o Casalem, Anyd hwn yw ’r vn, a gaisant vvi ei ladd?

26A nachaf yr ymadrodd ef yn gyhoeddus ac ny ddywedant ddim wrthaw: a wyr y penaethieit yn ddiau mae hwn yw’r gwir Christ?

27Eithyr ni adwaenam hwn o b’le ymae ef: a’ phan ddel y Christ, ny wybydd nep o b’le y mae ef.

28Yno y llefai yr Iesu yn y Templ ac ef yn ei dyscu, gan ðywedyt, Ys adwaenoch vi, ac adwaenoch o b’le ydd wyf: ac ny ddaethym o hano vy hun, eithr ys gwir yw’r vn am danvonawdd i, yr hwn nyd adwaenw‐chwi.

29A’ mivi y hadwaen ef: can ys o hanaw ydd wyf, ac ef am danvonawdd i.

30Yno y caisiesont y ddalha ef, ac ny roy nep ’law arnaw, can na ðaethesai y awr ef etwa.

31A’ llawer o’r dydyrfa a gredesont yndaw, ac a ddywedesont, Pan ddel y Christ, a wna ef vwy o wyrthieu nac a wnaeth hwn?

32Clywet o’r Pharisaieit bot y bopul yn murmuro y pethe hyn am danaw, a’ danvon o’r Pharisaieit a’r Archoffeirieit swyddogion y’w ddalha ef.

33Yno y dyvawdd yr Iesu wrth‐wynt, Eto ychydic enhyd ydd wyf y gyd a chwi, ac yno ydd af at hwn a’m danvonawdd.

34Chvvi a’m caisiwch, ac ny’m cefwch: a’ lle ydd‐yw vi, ny ellw‐chwi ddyvot.

35Yno y dywedent yr Iuddaeon yn y plith yhunain, I b’le bydd i hwn vyned, val na chaffom ef? Ai myned a wna ef at yr ei ’sy ar wascar ymplith y Groecieit, a dyscu ’r Groeciait?

36Pa ymadrodd yw hwn a ddyvawt ef, Chvvi a’m caisiwch, ac ny’m cefwch? ac lle’r yw‐vi, ny ellw‐chwi ddyvot?

37Yno yn y dydd mawr dywethaf o’r wyl, y savawdd yr Iesu ac y llefawdd, gan ddywedyt, A’s sycheda nep, dauet ata vi, ac yfet.

38Yr hwn a gred yno vi megis y dywait yr Scrythur, allan oi vru ef y llifa avonydd o ddwfr byw

39(Hyn a ddyvawt ef a’m yr Yspryt yr hwn a dderbynynt yr ei a gredent yndo ef: can ys yd hynn nyd oedd doniæ yr Yspryt glan vvedy ei rhoddi o bleit na ðaroedd eto gogoneddu yr Iesu)

40Llaweroedd can hyny o’r popul, pan glywsant yr ymadrodd hwn, a ddywedesont, Yn wir hwn yw’r Prophwyt.

41Ereill a ddywedesont, Hwn yw’r Christ: a’r ei a ddywedent, Ac a ddaw ’r Christ o’r Galilaia?

42Any ddywait yr Scrythur ’lan may o had Dauid, ac o dref Beth‐lechem, lle ydd oedd Dauid y dawr’r Christ?

43Ac ydd oedd ymryson ym‐plith y popul oy bleit ef.

44A’r ei hanaddynt a vynesent y ddaly ef, eithyr na roddei nebun ddwylaw arnaw.

45Yno y daeth swyddogion at yr Archoffeirieit ar Pharisaieit, ac y dywedesont wrthwynt, Paam na ddugesoch ef?

46Atep o’r swyddogion, Nyd ymddiddanawdd gwr erioed val y gwr hwn.

47Yno ydd atepawdd y Pharisaieit, A dwyllwyt chwitheu hefyd?

48A gredavvdd neb or pennaethieit nei o’r Pharisaieit yndo ef?

49Eithyr y werin hyn, a’r nyd edwyn y Ddeðyf, ynt vellticedic.

50Dywedyt o Nicodemus wrthynt, (yr hwn a ddaethei at yr Iesu o hyd nos ac oedd vn o hanynt.)

51A varn ein Deddyf ni nebun nes nag yddi yn gyntaf ei glywet, a’ gwybot pa beth a wnaeth ef?

52Wytheu a atepesont ac a ddywedesont, wrthaw Yw‐tithe hefyd o’r Galilaia? Chwilia a’ gwyl: can ys o’r Galilaia ny chyfyt vn Prophwyt.

53A’ phawp aeth yw duy yhunan.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help