1GWyn ei vyd y maddewyt ei drosedd, nep y cuddiwyt ei bechot.
2Gwyn ei vyd y dyn ny liwio ’r Arglwydd yddo enwireð, ac ny dichell yn ei yspryt.
3Tra dáwn a son, y cystuddiawdd vy escyrn pan nadwn yn hyd y dydd.
4(Can ys trwm dy law arnaf, ddydd y’ nos:m irder a ymchwelwyt yn sychder haf. Sélah.)
5[Yno] y cydnabyddais, vy=pechot wrthyt, am enwiredd ny chuddiais: dywedais, Coffessaf yn v’erbyn vy vn vy enwireddeu ir Arglwydd, a’ thi a vaddeuaist boen vy=pechot. Sélah.
6Ac am hyny y gweðia pop dyn dywiol arnat, yn yr amser ith ceffir: eithyr yn llifeiriant dyfredd mawrion ny chahant ddynesay ataw.
7Ti yw vy=dirgelfa, cedwy vi rac ing: amgylchyni vi ac ymwared gorvoledd. Sélah.
8Paraf yty ddyall, ac ath ddyscaf yn y ffordd ydd elych, ac fforddiaf a’m llygat.
9Na vyddwch val march vul ny deallant: yr ei attely y gen a gwenva ac a ffrwyn, rac yðyn ðynesau atat’.
10Llawer gouit ir andewiol: a’r nep y ymddirieto yn yr Arglwydd, trugaredd ei cylchyna.
11Byddwch lawen yr ei cyfion, a’ hyfryd yn yr Arglwyð, a’ chlodvorwch yr oll ’r ei vnion o galon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.