1HA wyr vroder, a’thadae, gwrandewch vy‐dadl y vvnaf yr owrhon wrthytch.
2A’ phan glywsant mae yn y tavot Hebreo ydd oedd ef yn llavaru wrthynt, mwy o ’ostec a roddesont, ac ef ddyvot,)
3Gwr yn ddiau yw vi, o Iddew, a’r anet yn‐Tarsus yn Cilicia, anid wedy’r vaethddrin yn y dinas hon wrth draet Gamaliel, ac wedy ’r addyscy yn ol perfeith Deddyf y Tadae, ac oeddwn vawr vy‐goglyt ar Ddew, val ac ydd ych chwitheu oll y dydd heddyw.
4A’ mi erdlidiais y ffordd hon yd angae, gan rwymo a’ pheri rhoi a’ gwyr a’ gwragedd yn‐carchar,
5Megis ac y mae yr Archoffeiriat yn test ymy, a’r oll Henadurieth: y gan y’r ei hefyd yd erbyniais lythyrae at y broder, ac aethym i Damasco, y ðwyn yr ei oeðynt yno, yn rhwym i Gaerusalem, yw poeni.
6¶ Ac e dderyw, val ydd oeddwn yn ymddeith ac yn dynesay at Ddamasco yn‐cylch hanner dydd, pan oedd yn ðysymwth dyscleiriaw or nef ’olauni mawr om amgylch ogylch.
7Y n y ddygwyddeis i ar y ddaiar, ac a glyweis lef yn dywedyt wrthyf, Saul, Saul, paam ydd wyt im erlit?
8Yno ydd atebais inef, Pwy ytwyt Arglwydd? Ac ef a ddyvot wrthyf, Mi yw Iesu o Nazaret, yr hwn yw ti yn ei erlit.
9Ac wyntwy a’r oeddynt gyd a mi, a welsant yn wir y goleuni ac a ofnysont: eithyr ny chlywsant leferydd y neb oedd yn ymleferydd a mi.
10Yno y dywedais i, Pa beth a wnaf Arglwydd? A’r Arglwydd a ddyvot wrthyf, Cyvot, a’ does y Ddamasco: ac yno y manegir y‐ty am pop peth a ordeiniwyt yty yw wneythyr.
11A’ phryt na vedrwn‐welet gan ’ogoniant y golauni hwnw, im tywysit erbyn vy llaw y gan yr ei oedd gyd a mi, ac a ddaethym i Ddamasco.
12Ac vn Ananias gwr dwywol, herwyð y Ddeðyf ac iðo testolaeth da y gan yr oll Iuðeon oedd yn preswiliaw yno,
13a ddaeth ataf, ac a safodd, ac a ddyvot wrthyf, Y brawd Saul, cymer‐dy‐olwc: ac ys yr awr honno ydd edrycheis arno.
14Ac ef a ddyvot, Dew ein tadae a racordeniodd yty, gael gwybot y veddwl ef, a’ gwelet y Cyfiawn hwnw, a’ chlywet y lleferydd ei enae.
15Can ys byddy test iddaw wrth pop dyn, am y pethe, a weleist ac a glyweist.
16Ac am hyny paam y trigy? Cyvot, a’ baddier di, a’ golch ymaith dy bechotae, gan ’alw ar Enw yr Arglwydd.
17Ac e ddarvu, gwedy y mi ddyvot drachefyn i Gaerusalem, a’ gwediaw yn y Templ, y n y vum om dieithyr vy hunan,
18a’ y welet ef yn dywedyt wrthyf, Bryssia, a’ thyn ymaith ar ffrwst ymaes o Gaerusalem: can na dderbyniant dy destoliaeth am danaf.
19Yno y dyweis inef, Arglwydd, hwy a wyddant vy‐bot i yn carchary, ac yn bayddy ym‐pop Synagog yr ei a gredent yno ti.
20A’ phan ddinëit gwaet dy verthyr Stephan, ydd oeddwn i hefyd yn sefyll gerllaw, ac a gydsynnyais aei varwolaeth, ac a gedwais ðillat yr ei oeð yn y llað ef.
21Yno y dyvot ef wrthyf, Does ymaith: can ys mi ath ddanvonaf ym‐pell o ddyma at y Cenetloedd.
22Ac vvy y gwrandawsant ef yd y gair hwn, anid yno yd erchafasant ei llefoedd, ac a ddywedesont, Ymaith a chyfryw ddyn o ddyar y ðaiar: can nat iawn ytyw i vyw.
23A’ malydd oeddynt yn llefain ac yn tavlu ei dillat y am danynt, ac yn bwrw pridd ir awyr,
24y gorchymynawdd y pen‐Captaen vynet ac ef ir castell, ac archodd ei yskyrsio, a’ ei holi, er mwyn iddo gael gwybot am pa achos, y llefent velly arnaw.
25Ac wrth y rwymo ef a chareiae, y dyvot Paul wrth y Canwriat, oedd yn sefyll gerllaw, Ai cyfreithlawn i chwi yskyrsio vn ’sy yn Ruueinwr ac eb ei varny?
26A’ phan glybu y Cannwriat, ef aeth, ac a vanagawð wrth y pen‐Captaen, gan ðywedyt, Gwyl beth a wnelych: can ys Ruuenydd yw ’r dyn hwn.
27Yno yd aeth y pen‐Captaen, ac a dyvot wrthaw, Dyweit ymy, Ai Ruueinwr ytwyt? Ac ef a ddyvot, Ie.
28A’r pen‐captaen a attebawdd, A swmp mawr y daethym i y gael vwrdeisiaeth hon. Ac Paul a ddyvot, Eithyr velly im ganet i.
29Ac yno eb ’ohir ydd ymadaosont ac ef, yr ei oedd ar vedr ei holi ef. A’r pen‐Captaen hefyt a ofnawð, gwedy ei gwybu mae Runeinwr oedd ef, a’ chan ddarvot iddo ei rwymo.
30A’ thranoeth, erwydd y vot ef yn ewyllysio gwybot diogelrwydd, am pa am y cyhuddit ef gan yr Iuddaeon, ef ei gellyngawdd yn rhydd o rhwymae, ac a ’orchymynawdd bot ir Archoffeiriait a’r oll Cyccor ddyvot ynghyt: ac ef a dduc Paul ac ei gosodawdd ger y bron hwy.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.