Matthew 9 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. ix.Christ yn iachay’r parlys. Ac yn maddeu pechotau. Yn galw ac yn ymweled a’ Mathew. Am trugaredd. Christ yn atep y Pharisaieit a’ discipulon Ioan. Am y brethyn crei a’r gwin newydd. Y vot ef yn i achay ’r wraic o’r haint gwaed. Ef yn cyfody merch Iairus. Yn rhoi i ddau ddall ei golwc. Yn gwneythyd i vudan ddywedyt. Yn precethy ac yn iachay mewn amrafel vannae. Ac yn annoc gweddiaw er mwyn cynyddy yr Euangel.Yr Euangel y xix. Sul gwedy Trintot.

1AC ef aeth y mewn ir llong, ac aeth trosawdd, ac a ddeuth y’w ddinas ehun.

2A’nycha, wy a dducesant ataw wr claf o’r parlys, yn gorwedd mewn gwely. A’r Iesu yn gweled y ffydd wy, a ddyvot wrth y claf o’r parlys, Y map, ymddiriet: maddeuwyt y ty dy pechatae.

3A’ nycha, yr ei or Gwyr‐llen a ddywedėt wrthyn ehunain, Y mae hwn yn caply.

4A’ phan welawdd yr Iesu ey meddyliae, y dyvot, Pa am y meddylywch bethae drwc yn eich calonae?

5Can ys pa‐un hawsaf ei dyywedyt, Maddeuwyt y‐ty dy bechtae, ai dywedyt, Cyvot, a’ rhotia?

6Ac er mwyn ychwy wybot vot meddiant i Vab y dyn ar y ðaiar y vaðae pechatae, (yno y dyvot ef wrth y claf o’r parlys) Cyvot, cymer dy wely, a’ dos ith tuy.

7Ac ef agyvodes, ac aeth ymaith y ew duy ehun.

8Velly pan ei canvu ’r dyrva, rhyveddy a wnaethant, a gogoneddy Duw, yr hwn a roesei gyfryw awturtat i ddynion.

Yr Euangel ar ddydd S. Matthevv.

9¶ Ac val ydd oedd yr Iesu yn myned o ddynaw, e ganvu ’wr yn eistedd wrth y ðollva a elwit Matthew, ac a ddyvot wrthaw, Canlyn vi. Ac ef a gyfodes, ac ei canlynawdd.

10Ac e ddarvu, a’r Iesu yn eistedd i vwyta yn y duy ef, nycha, Publicanot lawer a’ phechaturieit, a’ ddaethent ynavv, a eisteddesant i vwyta gyd a’r Iesu a’ ei ddiscipulon.

11A’ phan welawdd y Pharisaieit hynny, wy ddywedesont wrth y ddiscipulon ef. Paam y bwyty eich dyscyawdr gyd a’r Publicanot a’ phecaturieit?

12A’ phan glypu’r Iesu, e ddyvot wrthynt, Nid reit ir ei iach wrth veddic, anid ir ei cleifion.

13An’d ewch a’ dyscwch pa beth yw hynn Trugaredd a ewyllyseis, ac nyd aberth: can na ddauthym i’ alw’r ei cyfiawn, amyn y pechaturieit y ddyvot‐ir‐iawn.

14¶ Yno yð aent discipulon Ioan ataw, gan ddywedyt, Paam yð ymprydiwn ni a’r Pharisaieit yn vynech, ath ddiscipulon di eb vmprydiaw?

15A’r Iesu a ddyvot wrthwynt, A all plant yr ystavell‐briodas gwynvan tra vo’r gwr priod y gyd ac wynt? An’d e ddawr dyddiae pan ddyger y gwr‐priawd o ddiarnynt, ac yno ydd vmprydiant.

16Eb law hyny ny ddyd nep lain o vrethyn newydd mewn hen wisc: can ys hyn a ddylyei ei gyflawny, a dynn beth o y wrth y wisc, a rhwygfa aa yn waeth.

17Ac ny ddodant ’win newydd mewn llestri hen: can ys velly y torrei’r llestri, ac y dineuhir, y gwin, ac y collir y llestri: an’d gwin newydd a ddodant mywn llestri newyð, ac velly y cedwir y ddau.

Yr Euangel y xxiiij. gwedy Trintot.

18¶ Tra oeddd ef yn ymadrodd wrthwynt, nycha,, y deuth ryw pennaeth, ac’ addolawdd iddaw, can ddywedyt, E vu varw veu merch yr awrhon, and dyred a’ gesot dy law arnei, a’ byw vydd hi.

19A’r Iesu a g’odes ac ei dylynawdd, ef aei ddiscipulon.

20(Ac wele wreic a oedd a haint gwaedlif arnei dauddec blynedd, a ddaeth or tu cefyn yddaw, ac a gyfhyrddawdd ac emyl y wisc ef.

21Can ys hi a ddiwedesei ynthei e hun, A’s gallaf gyhwrdd aei wisc ef yn vnic, i’m iacheer.

22Yno yr Iesu ymchwelawdd, a chan y gweled hi, y dyvot, Ha verch, bydd gysyrus: dy ffydd ath iachaodd. A’r wreic a wnaethpwyt yn iach yn yr awr hono.)

23A’ phā ddaeth yr Iesu i duy’r pennaeth, a’ gweled y cerddorion a’r tyrfa yn trystiaw,

24y dyvot wrthwynt, Ewch ymaith: can nad marw’r vorwyn, anid cyscu y mae hi. Ac wynt ei gwatworesont ef.

25A’ phan yrrwyt y tyrfa allan, ef aeth i mewn ac a ymavlawdd yn hi llaw, a’r vorwyn a gyvodes.

26A’r gair o hynn aeth tros yr oll tir hwnw.

27Ac val yð oeð yr Iesu yn myned o yno, dau ðalliō a ei dilynesont ef, gan lefain a ’dywedyt, Map Dauid trugarha wrthym.

28A’ gwedy iddo ddyvot yr tuy, y daeth y daillion ataw, a’r Iesu a ddyvot wrthwynt, A gredwch chvvi y galla vi wneythyd hyn? Ac wy a ddywedesont wrthaw, Credwn, Arglwydd.

29Yno y cyhyrddodd ef a ei llygaid, gan ðywedyt, Herwydd eich ffydd bid y chwi.

30A ei llygaid a egorwyt, a’r Iesu a oruwchmynnawð yddwynt, gan ddywedyt, Gwelwch nas gwypo nep.

31An’d gwedi yddwyn ymadaw, wy eu clodvawresont ef trwy’r oll dir hwnw.

32¶ Ac wynt yn myned allan, nycha, wy yn dwyn attaw vudan cythreulic.

33A’ gwedi bwrw’r cythraul o honavv y dyvot y mudan: yno y rhyveddawdd y dyrfa gan ddywedyt, Ny welpwyt y cyffelip erioed yn Israel.

34A’r Pharisaieit a ddywedesont, Trwy benaeth y cythreulieit y mae ef yn bwrw allan gythreulieit.

35A’r Iesu aeth o y amgylch yr oll ddinasoeð a’ threfi, gan ei‐dyscy yn ei Synagogae, ac yn precethy Euangel y deyrnas, ac yn iachay pop haint a phob clefyd ymplith y popul.

36A’ phan welawdd ef y dyrfa, ef a dosturiawdd wrthwynt, can ys ey bot gwedy i hylltrawy, a’ ei goyscary val defeit eb yddyn vugail.

37Yno y dyvot ef y’w ddiscipulon, Diau vot y cynayaf yn vawr, ar gweithwyr yn anaml.

38Can hyny deisyfwch a’r Arglwydd y cynhayaf ar ddanfon gweithwyr y’w gynayaf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help