Luc 16 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xvj.Christ yn annoc yr ei ef ar ddoethinep a’ haelioni, wrth esempl y goruchwilwr. Ny ddychon nep wasanaethu dau arglwydd. Ef yn, argyweddu trachwant a’ ffuc sancteiddrwydd y Pharisaiait. Am dervyn a’ grym y Ddeddyf. Am ’lan gyflwr priodas. Am y goludawc a’ Lazarus.Yr Euangel y ix. Sul gwedy Trintot.

1AC ef a ðyfot hefyt wrth ei ðiscipulō Ydd oedd rryw ’wr goludoc, ac yðo oruchwiliwr, ac ef a guhuddwyt wrthaw, ddarvot iddaw afradloni y dda ef.

2Ac ef a alwadd arno, ac a ddyuot wrthaw, Peth yvv hyn a glywaf am danat? dyrho gyfri o’th orchwyliaeth: can na elly gahel mwy oruchwiliaw.

3Yno y dyvot y goruchwiliwr ynthaw ehun. Pa beth a wnaf: can ys bot vy arglwydd yn dwyn yr oruchwiliaeth y arnaf? Cloddiaw ny allaf, a’ chardota ’sy wradwyðus genyf.

4Gwnn beth a wnaf, pan im bwrier or ’orchwylieth mal im derbyniont y’w taie.

5Yno gwedy iddaw alw ato pop vn o ddyledwyr ei Arglwydd, y dyvot wrth y cyntaf, Pa veint a ddyly vy Arglwydd yty?

6Ac ef a ddyvot, Cant mesur o oleo. Ac ef a ddyvot wrthaw, Cymer dy escriven, ac eisteð yn ebrwydd, ac escrivenna ddec a’ deucain.

7Yno y dyvot ef wrth vn arall, Pa gymeint o ddlet ’sy arna ti? Ac ef a ddyvot. Cant mesur o wenith. Yno y dyvot ef wrthaw, Cymer dy escriven, ac escrivenna petwar‐ucain.

8Ac a ganmolawdd yr Arglwydd y goruchwyliwr ancyfiawn, am iddaw wneythyd yn synhwyrol. Can ys synwyrolach yw plant y byt hwn yn ei cenetlaeth na phlant y golauni.

9A’ mi addywedaf yw’ch. Gwnewch y‐chwy gereint a golud enwiredd, val pan vo eisiae arnoch, ich derbyniant i’r trigvae tragyvythawl.

10Hwn ’sy ffyddlawn yn y lleiaf, ysy ffyddlawn hefyd yn llawer: a’ hwn ’sy ancyfiawn yn lleiaf ys y ancyfiawn hefyt yn llawer.

11Can hyny any a’s buoch ffyddlonion yn y golud enwir, pwy a gred y chwy yn y gwir ’olud?

12Ac any’s buoch ffyddlonion yn‐da vn arall, pwy a rydd y‐chwy, yr hyn ’s yð ywch’?

13Nyd oes neb gwas a ddychon wasanaethu dau arglwydd: can ys ai ’n aill ai ef a gasaa vn, a’ charu ’r llall: ai ef a ’lyn wrth y naill, a’ thremygu ’r llall. Ny ellwch wasanaethu Duw a’ golud.

14A’r pethae hyn oll a glybu y Pharisaiait hefyt, yr ei oedden gubyddion, a gwatworesont ef.

15Yno y dyuot wrthynt, Chvvychwi yw ’r ei ai cyfiawnavvch ych hunain yn‐gwydd dynion: a’ Duw a ’wyr eich calonae: can ys y peth ’sy mevvn vchelfri gyd a dynion, y sy ffiaidd yn‐gwydd Duw.

16Y Ddeddyf a’r Prophwyti a barahodd yd Ioan: ac er y pryd hyny y precethwyt teyrnas Duw, a’ phawp dyn ’sy’n tori y mewn y‐ddei.

17A’ haws yw i nef a’ daiar vyned heibio, nac y bydd i vn titul o’r Ddeddyf gwympo.

18Pwy pynac a’ ddellwng ei ’wraic y maith, a’ phriodi arall, mae’n tori priodas: a’ phwy pynac a brioto hon a ollyngwyt y maith ywrth y gwr, a dyr briodas.

Yr Euangel y Sul cyntaf gwedy Trintot.

19¶ Ydd oedd ryw ’wr goludawc a oedd yn gwisco porphor a lliein‐main, ac yn cymeryd ei vyt yn ddaentethol ac yn voethus peunydd.

20Ac ydd oedd ryw gardotyn a’ ei enw Lazarus, yr hwn a vwrit wrth y borth ef yn gornwydlyt,

21ac yn chwenychy cahel ei borthi a’r briwsion, a syrthient y ar vort y gvvr goludawc: eithyr a’ dawot o’r ’cwn a’ llyfu y gornwydedd ef.

22Ac e ddarvu, bot i’r cardotyn varw, ac ef ðucpwyt can yr Angelon i vonwes Abraham. A’ marw o’r gwr-goludawc, a’ ei gladdy a wnaethpwyt.

23Ac ef yn yffern mewn poenae, y cyfodes ei olygon, ac a weles Abraham ym‐pell o yno, a’ Lazarus, yn ei vonwes.

24Yno y llefawð, ac y dyvawt, Y Tat Abraham, trugarha wrthyf, a’ danvon Lazarus, y drochy blaen ei vys mewn dwfyr, ac oeri vy‐tafawd: can ys im poenir yn y flamm honn.

25Ac Abraham a ddyvot Ha vap, coffa yt gymeryt dy wynwyt yn dy vywyt yn gyffelip ac y cymerth Lazarus advyt: ac yr awrhon y confforddir ef, ac y poenir tithef.

26Ac eb law hynn oll, y rhyngom ni a’ chwiy mae gagēdor ðirvawr wedy ’r ’osot, mal yr ei a ewyllysient vynet o ddyma ato‐chwi ny allant, nac o ddyna ddyvot atam ni.

27Yno y dyvot ef. Can hyny atolygaf y‐ty dat, y ddanvon ef y duy vy‐tat

28(o bleit y mae i mi pemp broder) val testolaetho ydd‐wynt, a’ rac yð wynt wy dawot ir poenva hon.

29Abraham a ddyvot wrthaw. Mae ganthwynt Moysen a’r Prophwyti, gwrandawant arnynt wy.

30Ac ef a ddyvot, Nag e, y tat Abraham: eithyr pe dauei vn attwynt y wrth y meirw, wy wellaent ei buchedd.

31Yno Abraham a ddyvot wrthaw. Any wrandawant Voysen a’r Prophwyti ny’s credent chvvaith, pe’s cyvodei vn y wrth y meirw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help