1YN wir, yn wir y dywedaf y chwi. Hwn nyd a y mewn drwy’r drws ir gorlan y deveit, anid dringo fforð arall, lleitr ac yspeiliwr yw ef.
2Eithyr hwn a a y mewn drwy ’r drws, yw bugail y devait.
3I hwn yð agor y drysor a’r devait a wrendy ei leferyð, a’ ei ðeveit ehun a eilw wrth y h’enw, ac ei dwc allan.
4A’ phan ddanvono ei ddeveit ehun allan, ydd a o ei blaen wy, a’r deueit y canlyn ef: can ys adwaenant y leferydd ef.
5A’r dyn dieithr ny’s canlynant, anid ciliaw ywrthaw. can ys nad adwaenant leferydd dieithreit.
6Y parabol hwnn a ddyvot yr Iesu wrthwynt ac ny ddyallesont wy pa bethae oeð yr hynn ddywedesei ef wrthwynt.
7Yno y dyvot yr Iesu wrthwynt drachefyn, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, Mi yw’r drws y deveit.
8Cynniuer oll a ddeuthant om blaen, llatron ynt ac yspeilwyr: eithyr ny wrandawawdd y deveit ddim hanwynt.
9Mybi yw’r drws: trywo vi a’s aa nep y mewn, e vydd cadwedic, ac ef aa y mewn ac aa allan, ac a gaiff borfa,
10Y lleitr ny ddaw, an’d i ledrata, ac y ladd, ac y ddinistriaw: myvi a ddeuthym val y caffent vywyt ac er caffael o hanwynt yn ehelaeth.
Yr Euangel yr ail Sul gwedy ’r Pasc.
11¶ Mivi yw ’r bugailda: y bugail da a ryð ei enait dros ei ddevait.
12Eithyr y gwas‐cyfloc a’r hwn nyd yw bugail, ac ny phiae’r deveit, a wyl y blaidd yn dyvot, ac a edy yr deveit, ac a gilia, a’r blaidd ei ysglyfia, ac a darfa ’r deveit.
13A’r gwas‐cyfloc a gilia, can y vot ef yn was‐cyfloc, ac eb ovaly am y deveit.
14Mi yw’r bugail da, ac a adwaen y deueit meuvi, ac im adwdenir y gan y meuvi.
15Mal yr edwyn y Tat vyvi, velly ydd adwaen i y’r Tat: a’ mi a ddodaf vy eneit dros vy‐deveit.
16Ac y mae y mi ddefait eraill, yr ei nid ynt or gorlan hon: a’ rhait i mi areiliaw yr ei hynny, ac wy a wrandawant vy lleferydd: Ac e vydd vn gorlan ac vn bugail.
17Am hyn y car vy‐Tat vivi, can y mi vot yn dodi vy einioes y lavvr, val ey cymerwyf hi drachefyn.
18Ny ddwc neb hi o ddyarnaf, eithyr mi ai dodaf hi y lavvr, ac mae i mi veðiant y’vv dodi hi ylavvr, ac mae ym’ veddiant y’w chymmeryd drachefyn: y gorchymyn hwn a dderbyniais y gan vy‐Tad.
19Yno y bu amrafael rhwng yr Iuddaeon am yr ymadroddion hyn.
20A’ llawer o hanynt a ddywedent, Y mae cythrael ganthaw, ac mae wedy ynuydu: paam y gwrandewch ef.
21Ereill a ddywedent. Nid yw ’r ’ein ’eiriau vn a chythrael ganthaw: a all y cythrael agori llygait y daillion?
22Ac ydd oeð hi yn vvyl y Cyssecr yn Cairusalem, a’r gayaf oedd hi.
23A’r Iesu a rodiei yn y Templ ym‐porth Selyf.
24Yno y daeth yr Iuddaeon oy amgylch ef, ac y dywedesont wrthaw, Pa hyd y peri i ni bedrusaw? A’s ti yw ’r Christ, dyweid i ni yn eglur.
25Yr Iesu a atepawdd, Dywedais y chwy, ac ny chredwch: y gweithredoedd yr yw vi yn gwneythu’r yn Enw vy‐Tat, yr ei hyny a destolaethant am dana vi.
26Eithyr chwi ny chredwch: can nad ydych o’m deveit, mal y dywedais y chwy.
27Y deueit mauvi a glywant vy llef i, a’ mi y adwaen hwy, ac wy am dilynant i,
28a’ mi a rof yddynt vuchedd tragyvythawl, ac nys cyfergollir wy byth, ac ny’s treisia nep wy y maes om llaw i.
29Vy Tad yr hwn y rhoes vvy y‐mi, ys y vwy nag phavvb ol’, ac ny’s gail’ nep y dwyn hwy al’ā o law vy‐Tat.
30Mivi a’r Tat vn ydym.
31Yno yr Iuddaeon drachefyn a godesont vain, yw lapyddiaw ef.
32Yr Iesu a atepawdd ydd‐wynt, Llawer o weithredoeð da a ddangoseis ywch’ o ywrth vy‐Tat: am ba vn o’r gweithredoeð hyn y llapyddiwch vi?
33Yr Iuðeon a atepesōt iðo, gan ðywedyt, Am weithret da nid ym ith lapyddio, eithyr am gabledigaeth, ’sef am y ti yn ðyn, wnethur dy vn yn Dduw.
34Yr Iesu y atepawdd wy, Anyd yw ’n scrifenedic yn eich Deddyf chvvi, Mi ddywedais, duwiae ytych?
35A’s galwawdd ef wy yn dduwiae ar yr ei ’n y bu gair Duw vvedy draethu, ac na ellir datdod yr Scrypthur‐’lan,
36a ddywedw‐chwi am dano yr hwn a sancteiddiawdd y Tat, ac ei danvonawdd ir byt, Ydd wyt yn cablu, o bleit dywedyt o hanof, Map Duw ytwyf?
37Anyd wyf yn gwneuthur gweithredoedd vy‐Tat, na chredwch vi.
38Ac ad wyf vine yn ei gwneuthur, cyd na chredwch vi, eto credwch y gweithredoedd, val y gwybyddoch ac y cretoch, vot y Tat yno vi, a’ mine yndaw ef.
39Yno drachefyn y ceisiesont y ddalha ef: ac ef a ðiangodd allan o’u dvvylaw hvvy,
40ac aeth drachefyn tros Iorddanen, i’r lle y bysei Ioan yn batyddio yn gyntaf, ac a arosawdd yno.
41A’ llawer a ddaethant ataw, ac a ddywedent ny wnaeth Ioan vn gwyrth: eithyr pop peth oll ar a ddyvawd Ioan am y gvvr hwn, oeddent wir.
42A’ llawer a gredesont ynddaw yno.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.