2.Petr 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen iij.3 Dangos y mae ef scelerder yr ei a watworant addeweidion Dew. 7 Ym‐pa sut vodd y bydd dywedd y byt. 8 Ar vot yddynt ymbaratei i hynny. 16 Pwy yw’r ei a gamarverant hyn a scrivenesei S. Paul, a’r Scrythurae eraill hefyt, 18 Gan ðybennu a diolcheu tragyvythawl i Christ Iesu.

1YR ail epistol hon y ddwyf yn awr yn y escrivennu attoch, fyn grredigion, yn yr honn y ðwy yn dadebru trwy atcoffedigaeth ych meddwl puraidd,

2Mal y bo cofus cenych y geiriau, a racddoydasont y prophwydi santaidd, an gorchymyn ninau rrain ydym abostolion yr Arglwydd an Achubwr.

3Yn gynta dyellwch hyn, i deuant yn y dyddiau diwaytha, watwotwyr, yr ei a rodiant ar ol y trachwantay y hunain,

4Ac a ddoydant, Ple may addewid y ddefodiad ef? canys ir pen fu farw y taday, pob peth sy yn perhau yr vn ffunyt o ddechreuad y creaduriaeth.

5Canys hyn o waithyoddef nis gwyddant, fod y nefoedd ir ystalm byd trwy air Dyw, ar ddayar hefyd sy or dwr, ac yn y dwr.

6Achos pam y byd rhwn ydoeð hynny o amser, a gyfyrgollwyd, trwy ddwfyr diliw.

7Eithr y nefoedd ar ddayar, y sydd yr awr honn, trwyr vn gair y maynt wedi y rroi y gadw, i daan erbyn dydd y farn, a’ difa yr enwir ddynion.

8Yr vn peth hynn, fyngrredigion, na fid diarwybod ywch, vod vn dydd gidar Arglwydd, megis mil o flenyddoedd, a’ mil o flynyðoeð mal vn dyð.

9Nid ydiw yr Arglwydd yn ehwyrhau, am eu addewid, (megis y tybia rrai ehwyrdra) eithr ymyneddus yw tu ac attom ni, ac nis mynay neb fod yn golledic, namyn dyvot o bawb i edifeirwch.

10Eithyr dydd yr Arglwydd, megis lleidyr y nos y daw, yn yr hwn y ra heibio y nefoedd mewn trwst, a’r defnyddiau yn wir o wres a ddoddant, ar ddayar ac a fo ynthi o waithie, a loscir.

11A chan vot yn rraid y hynn y gyd ymellwng, pa ryw fath ddynion y deleychi fod mewn santaið ymwreddiad a dywoliaeth,

12Yn discwyl, ac yn brysio at ðefodiad dyð Dyw, yn yr hwn i llysc y nefoedd, ac ir ymollwng, ar defnyddiay can wres a doddant?

13Eithr y ddym ni yn discwyl am nefoedd newyðion, a’ dayar newydd, ar ol i eddewid ef, yn yr hun y cyfanhedda cyfiownder.

14Am hynny, fyngrredigion, can ych bod yn gwiliad am gyfryw bethay, rrowch ych bryd ar allu o hono ef ych cael yn ddifrycheulyd ac yn ðilwgyr mewn tengnhevedd.

15Ac am hir ymynedd eyn hArglwydd rrac cymerwch may iechid yw, megis yr yscryfennodd eyn caredic frawd Paul attochvvi herwydd y doythineb a rodded iddo,

16Megis y neb sy yn son ym hob epistol am y cyfryw hynn: y mysc y rrain may rryw bethay anhawdd y dyall, rrain a wyrant y rrai sy anyscedic ac anwadal, mal yr yscythyray eraill, ir distriw yddynt y hunain.

17Chwichwi am hynny vyngrredigion, can ych bod yn gwybod y pethay hynn ymlaen llaw, gochelwch, rrac ych tynnu chwithay hefyd ar grwydyr yr enwiriaid, a chwympo o ddiwrth ych sicrwydd ych hunain.

18Eithr cynyddwch mewn gras, ac ednabyddieth eyn Arglwyð ni an ceidwad Iesu Christ: ir hwn y bo gogoniant yr awr honn, ac yn dragwyddol byth. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help