Psalm 106 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Psalm .cvj.Confitemini Domino.¶ Molwch yr Arglwydd.Prydnawn vveddi.

1CLodvorwch yr Arglwydd can ys da yw ef, o bleit ei drugaredd byth.

2Pwy a venaic alluoedd yr Arglwydd, a ddatcan ei oll voliant?

3Gwynvydedic ei a gatwāt varn, ac a wnant iawnder bop amser.

4 Coffa vi Arglwydd, y gyd ac ewyllys-da dy bopul: ymwel a mi ath iechydwrieth,

5Mal y gwelwyf ddedwyddit dy ddetholedigion, ac y llawenáwyf yn llewenydd dy popul, a’ bot vy-gorvoledd y gyd ath etiueddiaeth.

6Pechasam y gyd a’n tadae, gwneytham enwiredd, buam andewiol.

7Ein tadae ny ddeallesont dy ryveddodae yn yr Aipht, ac ny chofiesont liosawgrwydd dy drugareddeu, eithyr cildynnu wrth y mor, yn y mor coch.

8Er hyny ef y diangawð hwy er mwyn ei Enw, er peri adnabot ei gedernit.

9Ceryddawdd ef y mor coch, ac ef a ddysychawdd, ac e ei h’arwenawdd yn yr eigiawn val yn y diffeith.

10A’ chadwað ef hwy rac llaw y dygasoc, ac ei gwaredawdd o law ’r gelyn.

11A’ thoawdd y dyfredd ei gorthrymwyr: ny’s gadwyt vn yn-gweddill.

12Yno y credesont ei ’eiriae, chanesont voliant yðaw.

13Ac yn y van yr angofiesont ei weithrededd: ny ddysgwiliesont wrrh ei gycor,

14Eithyr chwenychu a’ thrachwāt yn y diffeith, a’ thempto Dew yn yr anialwch.

15A’ rhoddes ef yddwynt ei damunet: eithr anvonawdd ef guli yn ei henait.

16Cynvigennent hefyt wrth Voysen yn y pepyll, Aaron sanct yr Arglwydd.

17Am hyny yr agorawdd y ddaiar ac a lyncawdd Ddathán, a thowadd hi gynnulleidfa Abirám.

18A’ chynneuawdd y tan yn ei cymmynva: lloscawð y fflam yr andewiolion.

19Llo á wnaethant yn cHoreb, ac addolasant y ddelw-dawdd.

20Mal hyn yr ysmutasant ei gogoniant yn llun bustach, a bawr welltglas.

21Ancofient Ddew ei h’ Iachawdr y wnaethesei bethae mawrion yn yr Aipht,

22Ryveddodeu yn-tir cHam, a’ phethae ofnadwy wrth y mor coch.

23Am hyny y meddyliawdd eu destruwiaw, pe na safesei Moysen y ddetholedic ef yn y tor ger ei vron y ddychwelyt ymaith y var ef, rac iddo dinystriaw.

24A’ thremygu a wnaethant y tir pryverth, ac ny chredesont y ’air ef,

25Eithr murmuro yn ei lluestai, ac ny wrandawent ar lef yr Arglwydd.

26Am hyny y derchavoð ef ei law yn h’erbyn, y’w dinistro yn y diffeithwch,

27A’ dinistro y had hwy ym-plith y cenedloedd, a’ ei goyscary rhyd y gwledydd.

28Ymwascasant hefyt a’ Baal-peor, a’ bwytesont ebyrth y meirw.

29Mal hyn y digiesont a’ei dychymygion y unain, a’ thrawodd pla yn eu cyfrwng.

30Yno y savawdd Phineas-y-vyny, ac a iawn-varnawð, ac y goharddwyt y pla.

31Ac eu gyfrifwydd yddo yn gyfiawnder, o genedleth y genedleth yn tragyvyth.

32A’ hwy digiesont ef wrth ðufreð Meribah, val y drygwyt Moysen o ei pleit hwy,

33Can yddynt gythruddo ei yspryt, a’ cham-ddywedawdd ef a ei wefusae.

34Ac ny ddestruwiesont wy y bobuloedd yr ei orchymynesei’r Arglwydd yddwynt,

35Eithyr ymgymyscy a’r cenedloedd, a’ dyscu ei gweithredoedd.

36A gwasanaethy y hidolon hwy, yr hyn vu yddwynt yn drancwydd.

37 Ac aberthesont ei meibion, a’ ei merchet ir cythraulieit

38A’ gorddinesont waed gwirion, gwaet ei meibion, a’ ei merchet, yr ei aberthesont y idolon Canaan, a’r tir a halogwyt gan waet.

39Mal hyn yr ymhalogent yn ei gweithrededd y unain, ac y putunient yn ei dychymygion y unain.

40Am hyn y cynneuawdd llit yr Arglwydd yn erbyn ei bopul, ac y ffieiddiawdd ei etiueddiaeth y hun.

41A’ rhoddes ef wy yn llaw y cenetloeð, ar sawl ei casaent ei h’arglwyddiaethent.

42Ei gelynion hefyt ei gorthryment, ac ei darostyngwyt y dan ei llaw.

43Llawer gwaith y gwareðawdd ef wy, a’hwytheu y cyffroent ef a’ ei cygorion: am hyny eu cystuddiwyt gan ei h’enwiredd.

44Er hyny ef a welawdd pan oedd ing arnynt, ac a wrandawodd ei llefain.

45A’ chofiawdd ef ei ddygymbot erddynt, ac a edivarâodd erwydd llyosogrwydd ei drugareddae,

46 Ac e roes hwy yn dosturi ger bron yr ol’ rei ai caethiwesēt

47 Ymwared ni Arglwydd ein Dew, a chynnull ni o blith y cenedloedd, val y clodvorom dy Enw sanctaidd, ac ymlawenáu yn dy voliant.

48Bendiget Arglwydd Ddew ’r Israel yn oes oesoedd a’ dywedet yr oll popul, Velly y bo. Molwch yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help