Yr Actæ 7 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. vij.Stephan yn gwneythy’d atep wrth yr Scrythur yw gyhuddwyr. Ceryddy y mae ef yr Iuddeon anhydyn. Ei lapyddio ydd ys yd angae. Saul ys y yn cadw dillat y llapyddwyr.

1YNo y dyvot yr Archoffeiriat, A ytyw ’r pethae hynny velly?

2Ac yntef ddyvot, A‐wyr vroder, a’ thadae, gwrandewch. Dew yr gogoniāt a ymddangosawdd ydd ein tad Abraham, pan ytoedd ym‐Mesopotamia, cyn trigaw o honaw yn‐Charran,

3ac a ddyvot wrthaw, Dyred allan oth wlat, ac y wrth dy dulwyth a’ dabre i’r tir a ðangoswyf yty.

4Yno yd aeth ef allā o tir y Chaldaieit, ac y preswyliawdd yn‐Charran. Ac yn ol marw ei dad, y duc Devv ef o ddyno ir tir hyn, ydd y‐chwi yn preswyliaw ynddo yr awrhon.

5Ac ny roddes iddaw ddim etiueddiaeth ynthaw, na ddo, led ei troed: ac e addawoð ei rodody iðaw y ei veddianny, ac yw had yn ei ol, pryd nad ytoedd eto vn map yddaw.

6Ac Dew a lavarodd val hynn, y byddei y had ef yn ’odrigiawl mewn tir estran, ac yðwynt ei wasy, a’ bod yn ddrwc wrthaw dros petwar‐cant o vlyddyned.

7Eithyr y genedl y wasanaethent yddi, a varnaf vi, medd Dew: ac yn ol hyny, ydd ant allan, ac im goasanaethant i yn y lle hwn.

8Ac ef a roðes iddaw ddygymbot yr enwaediat: ac velly Abraham a genetlodd Isaac, ac a enwaedoð arno yr wythfet dydd: ac Isaac a gavas Iaco, ac Iaco a enillavvdd y deuddec Patriairch.

9A’r Patriarchae gan wynfydy a werthesont Ioseph ir Aipht: anid bot Dew gyd ac ef,

10ac ei gwaredawð oei oll gyfingdereu, ac a roddes yddaw garueiddrwydd a’ doethinep yn‐golwc Pharao Vrenhin yr Aipht, yr hwn ei gwnaeth yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei oll tuylvvyth.

11Yno y daeth newyn dros oll tir yr Aipht, a’ Chanaan, a’ blinvyd mawr, mal na chafas ein tadae or bwytae.

12Eithyr pan glybu Iaco vot yd yn yr Aipht, e danvonawdd ein tadae yn gyntaf.

13A’r ailwaith, yr adnabuwyt Ioseph gan ei vroder, a’ chenedl Ioseph aeth mewn cydnabot a Pharao.

14Yno yd anvones Ioseph genadon ac a barawð ymoralvv am ei dad Iaco, ef a ei oll genedl, nid amgen pempthec a thri‐ugain enaidie.

15Yno y ddaeth Iaco y waered ir Aipht, ac y bu varw, ef a ein tadae,

16ac ydd ysmutwyt hwy i Sychem, ac ei dodwyt yn y bedd y brynesei Abraham am arianvverth y gan veibion Emor vap Sychem.

17A’ phan ytoedd amser yr addewit yn dynesay, yr hwn a dyngesei Dew wrth Abraham, y tyfawdd y popul ac y lliawsocawdd yn yr Aipht,

18yd pan gyvodes Brenhin arall, yr vn nyd oedd yn adnabot Ioseph.

19Hwn yma vu ddichellgar wrth ein Ryw ni, ac a ðrygawdd ein tadae, ac a barawdd yddynt vwrw allan ei plant newyddian, val na chaffent vot yn vyw.

20Ac yn y cyfamser hyn y ganet Moysē, ac ydd oedd ef yn gymradwy gan Ddew, yr hwn a vagwyt dri‐mis yn tuy ei dat.

21Ac wedy ei vwrw allan, y cyvodes merch Pharao ef y vynydd, ac ei magawdd yn vap yddi ehun.

22Ac Moysen oedd ddyscedic yn oll ddoethinep yr Aiphtieit, ac ydd oeð yn nerthawc yn‐gairiae ac yn gweithreddedd.

23A’ phan ytoed ef yn ddauugain‐blwydd llawn, yr escennawdd yn ei galon vynet y ymwelet a ei vroder, plant yr Israel.

24A’ phan weles ef vn o hanvvynt yn cahel cam, ef ei amddyffynnawdd, ac a ddialawdd gam yr hwn a gawsei yr sarhaet, gan vaeddy yr Aiphtiwr.

25Can ys tybiawdd ef vot ei vroder yn deall, bot i Ddew trwy y law ef roðy ymwaret yddwyntvvy: ac wythe ny’s dyalldesont.

26A’r dydd nesaf, yr ymddangosawð yddwynt ac wynt yn cynneny, ac a vynysei ei cymmodi drachefn, gan ddywedyt, A wyr, ydd y‐chwi yn vroder, paam yð yw chwi yn gwneythy cam aei gylyd?

27Eithyr yr hwn oedd yn gwneythy cam aei gymydawc, y cilgwthiawdd ef, gan ddywedyt, Pwy ath wnaeth di yn dwysawc ac yn varnwr arnam ni?

28A laddy di vinef y moð y lleðeist yr Aiphtiwr ddoe?

29Yno y ffoes Moysen ar y gair hwnw, ac y bu yn wr dyvodiat yn‐tir Madian, lle cenedlodd ef ddau o veibion.

30A’ gwedy cyflawny dauugain blyneð, ydd ymddangoses yddaw yn‐dyffeithvvch mynydd Sina, Angel yr Arglwydd mewn flamm dan, mewn perth.

31A’ phan weles Moysen, y rhyueddawdd gan y golwc: ac ef yn dynessaw y synnyaw, yd aeth llef yr Arglwydd ataw gan ddvvedyt,

32Mi yw Dew dy dadae, Dew Abraham, a’ Dew Isaac, a’ Dew Iaco. Yno ydd echrenawdd Moysen, ac ny veiddiawdd synniaw.

33Yno y dyvot yr Arglwydd wrthaw, Diosc dy escidiae y dd’am dy draet: can ys y lle yn yr hwn sefy, ys y tir sanctavvl.

34Gwelais, gwelais ðrugvyd ve‐popul, ys ydd yn yr Aipht, ac a glyweis ei griddfan, ac a ddescennais yw ymwared hvvy: ac yr owon dyred, a’ mi ath ddanvonaf ir Aipht.

35Y Moysen hwn, yr vn a wrthddodesont vvy, gan ddywedyt, Pwy ath roes di yn dywysoc ac yn varnwr? hwn yma a ddanvones Dew yn dywysawc, ac yn ymwaredwr trwy law Angel, yr hwn a ymddangosawð iddaw yn y berth.

36Ef e y duc wy allan, gan wneythy ryveðodae, a’ miracle yn‐tir yr Aipht, ac yn y mor coch, ac yn y dyffeithvvch, dros dauugain blyddet.

37Llyma yr Moysen, yr hwn a ddyvot wrth plant Israel, Prophwyt a gyvyt yr Arglwydd eich Dew y chwy, ys ef o’ch broder, vn mal mivi: hwnw a wrandewch.

38Hwn yw ef a vu yn y Gynnullleidfa, yn y diffeithvvch y gyd a’r Angel, yr hwn a ymðiðanoð wrthaw ym‐monyð Sina, ac wrth ein taðae, yr hwn a ðerbyniawdd y gairie bywiol i roddi y nyni:

39i ba vn ny vynnai ein tadae vfyddhay, anid ymwrthðot, ac yn ei calonae ymchwelyt drachefn ir Aipht,

40gan ðywedyt wrth Aaron, Gwna i ni Ddewiae a a’n racvlaenant: can na wyddam beth ddarvu ir Moysen yma yr hwn an duc o dir yr Aipht.

41A’ lloa wnaethant yn y dyddiae hyny, ac a offrymesont aberth ir ðelw a’ llawenhay a wnaethant yn‐gweithredoedd ei dwylaw y hunain.

42Yno ydd ymchwelawdd Dew ymaith, ac y rhoes hwy i vynydd y n yd addolent i lu yr nef: megis y mae yn escriuenedic yn llyfer y Prophwyti. A Tuy yr Israel, a offrymesoch ymy aniueilieit wedy ei lladd ac aberthae dros, ddauugain blynedd yn y dyffeith?

43A’ chvvi gymeresoch y chvvy tabernacl Moloch, a’ seren eich Dew Rempham, ys ef, lluniae, ’rei a wnaethoch y aðoly yddwynt: am hyny ydd eich ysmutaf y tu hwnt i’r Babilou.

44I ein tadae ydd oeð tabernacl y testoliaeth yn y diffaithvvch, mal ydd ordinesei ef, yn llavaru wrth Moysen, ar vod iddaw ei wneithyd yn ol y ffurf a welsei.

45Ys yr hwn tabernacl a gymerth ein tadae ac ei ducesont y mewn y gyd ac Iesu i berchenogaeth y Cenetloedd, yr ei a ddyrrawdd Dew ymaith rac wynep ein tadae, yd dyddiae Dauid:

46yr hwn a gavas gariat geyr bron Dew, ac a archawdd gahel o honaw dabernacl i Ddew Iaco.

47Eithyr Selef a adailadawdd duy yddaw.

48Cyd na bo y Goruthaf yn trigiaw mewn Templ o waith dwylaw, megis y dywait y Prophwyt,

49Y nef yvv vy eisteddle, a’r ddaear yvv lleithic vy‐traet: pa duy a adeiliadwch i mi medd yr Arglwydd? A’i pa ryvv le vyddei vy‐gorffwyffa?

50Anid vy llaw i a wnaeth hynn yma y gyd oll?

51chvvi warhydr ac o galon a’ chlustiae ddianwaediat, chwi yn oystat a wrthladdesoch yr Yspryt glan: mal y gvvnai eich tadae, velly y gvvnevvch chwitheu.

52Pwy n o’r Prophwyti nid ymlidient eich tadae chwi? ac eu lladdasant, yr ei oedd yn ragvenegy o ddyvodiat y Cyfiawn hwnw, i ba vn y buo‐chwi yr awrhon yn vradwyr ac yn llawryddion,

53yr ei adderbyniesoch y Ddeddyf trwy ordinat Angelon, ac yr ny’s cadwesoch.

54Eithyr pan glywsant y pethae hynn, y rhwygawdd ei calonae-gan‐ddicter, ac escyrnegesont ddanedd arnaw.

Yr Epistol ar ddiegwyl Stephan.

55Ac efe yn gyflawn or Yspryt glan, a edrychodd‐yn ddyval ir nef, ac a welawdd ’ogogiant Dew, ac Iesu yn sefyll ar ddehaulaw Dew.

56Ac ef a ddywedawdd, Nachaf y gwelaf y nefoedd yn agored, a’ Map y dyn yn sefyll ar ddehaulaw Dew.

57Yno y gwaeðesont vvytheu a llef vawr, ac y caeesont ei clustiae, ac y rhuthresont iddaw o vnvryd.

58Ac y bwriesont ef allan o’r dinas, ac ei llapyddiesent. A’r testion a ddodesont ei dillat wrth draet y gvvas‐ieuanc, y elwit Saul.

59Ac vvy a lapyddiesont Stephan, ac ef yn galw ar Ddew, ac yn dywedyt, Yr Arglwyð Iesu, derbyn vy yspryt.

60Ac ef a estyngawdd ar ei liniae, ac a lefawdd a llef vchel, Arglwydd, na ddod y pechat hyn yn ei herbyn hvvy. Ac gwedy yddaw ddywedyt hyn, yr hunawdd ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help