1.Petr 4 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. iiij.1 Cygori dynion y beidiaw a phechot y mae ef. 2 Na threulion mwy or amser yn‐camwedd. 7 Bot yn sobr ac yn hywaith y weddiaw. 8 Caru eu gylydd, 12 Ymddyoddef yn‐trwbl, 15 Ymogelyd rrac bot i neb ddyoddef mal drycddyn, 16 Eithyr mal Christian, ac velly na bo arno gywilydd.

1AM hynny can ddioddef o Christ trosomni yn y cnawd, chwithe hevyd arfogwch ychunain ar vnryw fedðwl, ys ef bot i hwn a ddioddefodd yn y cnawd, beidio a phecod,

2Ir mwyn hyn na bo iddo o hyn allan (tros yr hyn sy yngweddill or amser yn y cnawd) fyw ar ol trachwantay dynion, eithr ar ol wollys Dyw.

3Cans digon ydyw y ni dreulio o honom yr amser aeth heibio or enioes, ar ol trachwāt y cenhedloeð, yn rrodio mewn drythyllwch, trachwantay, meddtod, glothineb, ymyved, a ffiaidd addoli‐delway.

4Achos pam may yn chwith canthunt, na byddech yn cydredec gidagwynt, ir vnrryw ormodd rrysedd, dan ych dychanu chvvi.

5Rrain y bydd rraid vddynt roy cyfri ir neb, sy barawd y farnu y byw ar meirw.

6Cans ir mwyn hynny y pregethwyd yr evengil ir meirw hevyd, mal y gellid y cyfyrgolli hwynt, ar rann dynion, yn y cnawd, eithyr y gellynt fyw ar rann Ddyw yn yr ysbryd.

Yr Epistol ar y sul gwedy yr Derchavael.

7Diwedd pob peth sy yn agosau. Am hynny bydwch gymesurol, a deffroedic y weddiaw.

8Ymlaen pob peth bid cariad twymyn yn ych plith: can ys cariad a guddia liaws pechoday.

9Lledteywch bawb y gilidd, yn ddi vurmur.

10Pawb megis ac y cafas rodd, byddet iddo eu chyfrannu ay gilidd, mal dayonys stiwardiaid am ryw ras Dyw,

11Os dowaid neb, dyvvedet megis gair Dyw. Os gweini a wna neb gvvnaed hynny megis or gallu y may Dyw yn i roddi, mal y molianner Dyw ymhob peth trwy Iesu Christ, ir hwn y may gogoniant, ac arglwyddiaeth yn oes oesoedd. Amen.

12Caredigion, na fid chwith cenych y praw sy arnoch trwy dan, rrwn a wneid ir profedigaeth ywch, val pe digwydday ywch ryw beth dierth:

13Eithr llawenhewch, can ych bod chwi yn gyfrannoc ar goddefiaday Christ, mal y galloth pan eglurer y ogoniant ef, fod yn llawen ac yn hyfryd.

14Os dirmygir chwi er mvvyn Enw Christ, dedwydd ydych: cans yspryd y gogoniant, ac (yspryt Dyw a orphwysa arnoch: rrwn ar y rran hwynt a gayff anair: ac ar ych rran chwi a foliennir.

15Eithr na fid i neb o honoch oddef advyd mal llofrydd‐celain, neu leidr, neu ddrygwas, neu fal vn a vo yn ymyrreth a materion rrai eraill.

16Eithr os dyoddef neb megis cristion, na fid quilidd cantho, namyn molianned Ddyw yn hynny o ran.

17Can ys yr amser a ddoeth, y bydd rraid ir farn ddechre ar dy Dyw. Ac o dydiw yn gyntaf yn dechre arnam ni, pa ryw ddiwed a fydd ir rrai ni choyliant evengil Ddyw?

18Ac os pring ir iacheir y cyfion, yr enwir ar pechadur ple ir ymddengis?

19Ac am hynny gwnaed y rrai sy yn goddef ar ol wollys Dyw, ymroi yddo ef eu heneiddiau trwy wneuthyr yn dda, megis ir creawdyr ffyðlon.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help