1YMddarostynget pop map eneit dyn ir Awdurdodae goruchel: can nad oes awdurtot, anyd y gan Ddew: a’r awdurdodae ysy, o ddygan Dduw y maent wedy ei hordinio.
2Ac velly pwy pynac a wrthwynepa awdurtot, a wrthnepa ’ordinhat Duw: a’r ei a wrthnepant, a dderbyniāt varnedigaeth yðynt y hunain.
3Can nad yw tywysogion yn ofn i weithredoedd da, anyd ir ei drwc. Ac a vyny nad ofnych yr awdurtot? gwna ddayoni: a’ chai voliant ganto.
4Can ys gwasanaethwr Duw ydyw er lles yty: and a’s gwnai ddrwc, ofna: can na ddwc ef y cleddyf yn over: can ys gwasanaethwr Duw ydyw y ddial llid ar hwn a wnel drwc.
5Erwydd pa bleit mae yn rhait yvvch ymdarestwng, nyd yn vnic erwydd llit, anyd er mwyn cydwybot.
6Can ys, o bleit hyn y telwch hefyd gellidion: can ys gwasanaethwyr Duw ynt, yn ymroi ir peth yma.
Yr Epistol ar y Sul cyntaf yn Aduent.
7Rowch y bawp gan hyny ei dyledion: teyrnget, ir neb y bo arnoch deyrnget, toll ir hwn y bo arnoch doll: ofn, ir hwn y mae iavvn bot ofn: parch ir hwn a ddyly barch.
8Na vyddwch yn‐dlyed neb, anyd ar garu pavvp y gylydd: can ys hwn ’sy yn caru arall, a gyflawnodd y Ddeddyf,
9Can ys hyn, Na wna ’odinep, Na ladd, Na ledrata, Na dwc gamdestiolaeth, Na chupydda: ac a oes vn gorchymyn arall, ymae wedy’ gynwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, ys ef yn hwn, Car dy gymydawc mal tyun.
10Cariat ny wna ddrwc yw gymydawc: am hynny cariat yw cyflawnder y Ddeddyf.
11A’ hyny can ystyried yr amser, ys y bot hi yr owrhon yn bryd y ddyffroi o gyscu: can ys yr awrhon y mae ein iechydwrieth yn nes, na phan gredesam.
12Y nos aeth heibio, a’r dydd a nessaodd: bwriwn ymaith gan hyny weithredoedd y tywyllwch, a’ gwiscwn arveu y goleuni,
13val y gallom rodio yn weddus megis vvrth livv dyð: nyd mewn gloðest a chyfeðach nyd yn cydorwedd ac anlladrwyð, nyd yn‐cynnen, a’ chenvigeny:
14eithyr gwiscwch am danoch yr Arglwydd Iesu Christ, ac na vit eich gofal tros y cnawt, er mwyn porthi tra chwantae.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.