1YNot’ Arglwydd yr ymddiriedeis: na’m gwradwydder yn tragywyth: gwared vyvy ith gyfiawnder.
2 Gogwydda dy glust ataf: brysia i’m gwaredu, bydd y=my graic cadarn, yn duy amddeffen y’m cadw.
3Can ys vy=craic a’m castell ytwyt: am hyny er mwyn dy Enw tywys vi ac arwein vi.
4 Dwc vi allan o rhwyt, y osodesont yn ðirgel y=my: can ys ti yw vy nerth.
5Yn dy ddwylo y cymmennaf vy yspryt: prynaist vi, Arglwydd Ddew ’r gwirionedd.
6[Ys] cas genyf yr ei ys y aei goglyt ar goelion gweicion: can ys mi a ymddiriedaf yn yr Arglwydd.
7Ys llawen a’ hyfrydd vyddaf yn dy drugaredd: can ys gwelaist vy=advyt, adnabuost vy eneit mewn cyfingdereu.
8Ac ny ’oarchéist vi yn llaw y gelyn, gosodeist vy=traet mewn ehengder.
9Trugará wrthyf, Arglwydd, can vy=bot mewn trwbl: vy=llygat, vy eneit a’m boly a ddyvwynwyt gan gystuð
10Can ys vy=bywyt a ballawdd gan drymder, a’m blynyddedd o ’alar: vy nerth ys y yn pallu gan vy poen, am escyrn a lygresont.
11Ydd oeddwn yn ddirmic y gan vy oll ’elynion, yn enwedic ym-plith vy=cymydogion, ac yn ofn ir ei om cydnabot, yr ei am gwelent ar yr heol a gilient y wrthyf.
12Im gellyngwyt tros gofval y marw allan o veðwl: mi aethym val llestr ddyylliawc.
13Can ys clyweis gabl llaweredd, ofn o pop=parth, pan ymgydgyccorent yn v’ erbyn, yn bwriady vynnieneidiaw.
14A’ mi a obeithwn yn-yti, Arglwydd: dywedeis, Vy=Dew ytwyt
15Yn dy law y mae vy amsereu: gwared vi o ywrth law vy=gelynion, ac ywrth yr ei’n am erlydiant.
16Llewycha dy wynep ar dy was, chadw vi er dy drugaredd.
17Arglwydd, na ’wradwydder vi: can ys gelweis arnat, gwradwyðer yr andewolion, dystawer wy yn y beð.
18 Goysteger y gwefusae ffuciol, yr ei y ddywedant orthrymder, gan valchder a’ thremit yn erbyn y cyfiawn.
19Mor vawr yw dy ddaoni, yr hwn y gedweist i’r sawl ath ofnant: y ’wnaethost ir ei y ymddiriedant ynot’, geyr bron meibion dynion.
20Ti ei cuddy hwy yn ddirgel yn dy ’wydd di rac balchder dynion: ti ei cuddiy wynt yn pepyll rac cynnen tavodae.
21Bendigedic Arglwydd: can ys dangosawdd ei ryvedd garedigrwydd arnaf mewn dinas cadarn.
22A’ mi ddywedwn yn vy ffrwst, Im bwriwyt allan oth ’olwc, er hyny ti ’wrandeweist vy=gweði, pan lefeis arnat’.
23Cerwch yr Arglwydd y oll saint ef: yr Arglwyð a geidw y ffyddlonion, ac a dal yn ehelaeth i’r nep y wna valchedd.
24Yr ei oll ys y yn gobeithio yn yr Arglwydd, byddwch gedyrn, ac ef a nertha eich calon.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.