Ruueinieit 12 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xij.Ymwreddiat, cariat a’ gweithrtdoedd y sawl a credant yn‐Christ. Na bo ymddial.Yr Epistol y Sul cyntaf gwedi’r Ystwyll

1ATolwc ywch gan hyny, vrodur, er trugareðae Duw, roddy o hanoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cymradwy y Dduw, yr hyn yvv eich dosparthus wasanaethu yðaw.

2Ac nachydymffurfwch a’r byd hwn, eithyr ymnewidiwch gan adnewyddiat eich meddwl, val y galloch brovi pa yw ewyllys da Duw, a’ chymradwy, a’ pherffeith.

3Can ys dywedaf trwy y rat a roed y my, wrth bop vn ysydd ys ydd yn eich plith, na bo i neb ddyall uchlaw y dylir dyall, anid dyall o hanaw erwyðpwyllogrwydd, mal y rhanawð Duw y bop vn vesur ffyð.

4Can ys‐megys ymae ini lawer o aelodae mewn vn corph, ac nad oes ir oll aelodae yr vn swydd:

5velly nineu er ein bot yn llawer ydym vn corph yn‐Christ, a ’phop vn yn aylod y’w gilydd.

Yr Epistol yr ail Sul gwedy ’r Ystwyll.

6A’ chan vot i ni amryw ddoniae, erwydd y Rat a roespwyt y ni, ai bot ini brophedoliaeth prophvvydvvn erwydd cymedroldep y ffydd:

7ai swydd, dylynvvn y swydd: nei ’r hwn a vo yn athro rhoed athraweth:

8nei a roddo cyngor, bot yn cygcori: rhwn a gyfranno, cyfranned yn symplrwyð: a lywodraetho, gvvnaed a diescaeluster: a drugarhao, gvvnaed gan hyfrydwch.

9Bid cariad yn ðiffuant. Dycasewch yr hyn ’sy ddrwc, a’ glynwch wrth y sy dda.

10Bid hawdd genwch garu y gylyð a chariad brawdol. I roddy parch, aed pawp o vlaen y gylydd,

11eb vod yn ddioc ar astudrwydd: yn vrwdion yn yr Yspryt: gan wasanaethu yr Arglwydd,

12bot yn llawenychu, yn‐gobaith, yn ddioddefgar mewn advyd, yn wastadol yn‐gweði,

13gan gyfranu wrth gyfreidiae ’r Sainctæ: ac yn dilyn rhoi lletuy.

14Bendithiwch yr ei’sy ich ymlit, bendithiwch meddaf, ac na velltithiwch.

15Bot yn llawen gyd a’r ei llawen, ac wylo gyd a’r ei wylofus.

16Byddwch vn vryd da bavvp yw gylydd: na vyddwch vchel vyddwl: eithyr ymgydestwng a’r ei isel: na vyddwch ddoethion ynoch ych vnain.

Yr Epistol y iij. Sul gwedy ’r Ystwyll.

17Na thelwch i nep ddrwc tros ddrwc: perwch betheu sybervv yn‐golwc pop dyn.

18A’s dichon vot, yd y mae o hano‐chwi, byddwch mewn tangneddyf a phop dyn.

19Y caredigion, nac ymddielwch anid rhowch le i ddigofeint: can ys mae yn escrivenedic, Y mi mae dial: mi ei talaf, medd yr Arglwydd.

20Can hyny a’s dy ’elyn a newyna, portha ef: a’s sycheda, dod iddo ddiot: can ys a’s gwnai hyn, ti bentyri varwar am y ben ef.

21Na ’orchyfyger‐di gan ddrwgioni, eithyr gorchvyga di ddrwc drwy ddaioni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help