1AC mi a weleis mewn llaw ddehe yr vn oedd yn eiste ar yr eisteddle, Llyfr escrivenedic or ty vewn, ac or tu allan, gwedy sely a seith sel.
2Ac mi a weleis Angel cadarn yn pregethy a lleis ychel, Pwy sy deilwng y agoryd y Llyfr, ac y ðatdod y seley ef?
3Ac ny doedd neb yn y nef, nac yn y ddayar, na than y ddayar, yn abyl y agoryd y Llyfr, nag y edrych arno.
4Ac yno mi wyles llawer, o achos na chad neb yn deilwng y agoryd, ac y ddardlen y Llyfr, nac y edrych arno.
5Ac vn or henafied y ddwad wrthyf i, Nac wyla: syna, llew yr hwn ysydd o lwyth Iuda, gwreiddyn Davydd, y enilloedd y agoryd y Llyfr, ac y ddatdod y seith sel ef.
6Yno mi edrycheis, a synna, yn chanol yr eisteðle, ar pedwar enifel, ac yn chanol yr henafied, yr ydoedd Oen yn sefyll mal by biasey gwedy ladd, yr hwn oedd a seith corn, ac a seith Hygad yddo, y rrein ydynt seith ysbryd Dyw, y ddanvonwyd yr holl vud.
7Ac ef yddayth, ac y gymerth y Llyfr o law ddehe yr vn oedd yn eistedd ar yr eisteddle.
8A phan cymerth ef y Llyfr, y pedwar enifel, ar pedwar ar igein henafied, y syrthiasont gair bron yr Oen, ac yr ydoeð gan bob vn o hanynt telyney a phiolae aur yn llawn o erogley, y rrein ydynt gweddie’r Sainct,
9Ac y ganysont caniad newydd, dan ddwedyd. Teilwng yd gymryd y Llyfr, ac y ðattod y sele ef, can ys veth las, ac yn pryneist ni y Ddyw trwy dy waed allan o bob cenedlaeth, ac ieith, a’ phobl, a’ nasion,
10Ac yn gwneythost yn Vrenhinoeð ac yn Effeiried yn Dyw ni, a ni, a thyrnaswn ar y ddayar.
11Yno mi edrycheis, ac y glyweis lleis llawer o Angylion ynghylch yr eisteddle ac ynghylch yr enefeilied ar henafied, ac yr oeddent mil o filioedd,
12Yn dwdyd a llais ywchel, Teilwng yw yr Oen y las y dderbyn gallu a chyfoeth, a’ doethyneb, a’ chedernid, ac anrrydedd, a’ gogoniant, a’ moliant.
13Ac mi a glywes yr holl creadyried y rrein ydynt yny nef, ac ar y ddayar, a than y ddayar, ac yny mor, a’ phob peth y sydd yndynt hwy, yn dwedyd, Moliant, ac anrrydedd, a’ gogoniant, a gallu y vo yddo ef, y sydd yn eiste ar yr eisteddle, ac yr Oen yn dragywydd.
14Ar pedwar enifel a ddywedasont, Amen, ar pedwar ar igein o henafied a sirthiasont y lawr, ac anrrydeðasont ef, y syð yn byw yn dragywyð.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.