Matthew 1 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. j.¶ Iachae Christ, ys ef yw, y Messiach a addawsit ir tadae, yr hwn a gahat o r Ysprytglan, ac a aned o Vair vorwyn, a hi wedy hi dyweddio ac Ioseph. Yr Angel yn boddlony meddwl Ioseph. Paam y gelwir ef Iesu, a phaam Emmanuel

.Y sul yn ol die natalic Christ.

1LLyver cenedleth Iesu Christ vap Dauid, vap Abrahā,

2Abraham a genetlodd Isaac. Ac Isaac a genetlodd Iacob. Ac Iacob a genetloedd Iudas, a ei vroder.

3Ac Iudas a genetloedd Phares, a’ Zara o Thamar. A’ Phares a genetlawdd Esrom. Ac Esrom a genetlawð Aram.

4Ac Aram a genetloð Aminadab. Ac Aminadab a genetloð Naasson. A’ Naasson a genetlawdd Salmō.

5A’ Salmō a genetloð Booz o Rachab. A’ Booz a genetlawdd Obed o Ruth. Ac Obed a genetlawdd Iesse.

6Ac Iesse a genetlawdd Dauid Vrenhin. A’ Dauid Vrenhin a genetlawdd Solomon o hon oedd vvreic Urias.

7A’ Solomon a genetlawdd Roboam. A’ Roboam a genetlodd Abia. Ac Abia a genetloedd Asa.

8Ac Asa a genetlawdd Iosaphat. Ac Iosaphat a genetlawdd Ioram. Ac Ioram a genetlawdd Ozias.

9Ac Ozias a genetlawdd Ioatham. Ac Ioatham a genetlawdd Achaz. Ac Achaz a genetlawdd Ezecias.

10Ac Ezecias a genetlawdd Manasses. A’ Manasses a genetlawdd Amon. Ac Amon a genetlawdd Iosias.

11Ac Iosias a genetlawdd Iacim. Ac Iacim a genetlawdd Iechonias, a’ ei vroder yn‐cylch amser ei traigl i Vabylon.

12Ac yn ol ei treiglo hwy i Vabylon, Iechonias a genetloedd Salathiel. A’ Salathiel a genetlawdd Zorababel.

13A’ Zorobabel a genetlawdd Abiud. Ac Abiud a genetlawdd Eliacim. Ac Eliacim a genetlawdd Azor.

14Ac Azor a genetlawdd Sadoc. A’ Sadoc a genetloedd Achim. Ac Achim a genetlawdd Eliud.

15Ac Eliud a genetlawdd Eleazar. Ac Eleazar a genetlawdd Matthan. A’ Matthan a genetlawdd Iacob.

16Ac Iacob a genetlawdd Ioseph, gwr Mair, o’r hon y ganet Iesu yr hwn a elwir Christ.

17A’r oll genedlaethae o Abraham i Ddauid, pedair Cenedlaeth ar ddec: ac o Dauid yd y treigl ir Babilon, pedair cenedlaeth ar ddec: ac o’r treigl i Vabylon yd Christ, pedair cenedlaeth ar ddec.

18¶ A’ genedigaeth Iesu Christ oedd val hyn, wedy dyweddio Mair ei vam ac Ioseph, cyn na ei dyvot wy ynghyt, hi a gahat yn veichioc o’r Yspryt glan.

19Ac Ioseph y gwr hi can ei vot yn gyfion, ac nad ewyllysei y enllibio hi, a amcanodd y rhoi hi ymaith yn ddirgel.

20A’ thra ytoedd ef yn bwriady hynn, nycha, Angel yr Arglwydd yn ymddangos iddaw trwy hun, gā ddywedyt, Ioseph vap Dauid, nac ofna gymeryt Mair yn wreic y‐ty: can ys yr hyn a genetlwyt ynthei, ys ydd or yspryt glan.

21A’ hi a ddwc vap, a’ thi elwy ei Enw ef Iesu: can ys ef a iachaa ei bopul o ddywrth ei pechatae.

22A’ hyn oll a wnaethpwyt er cyflawny, yr hyn addywetpwyt gan yr Arglwydd twy’r Propwyt, can ddywedyt,

23Nycha, morwyn a vydd veichioc, ac a ddwc vap, a’ hwy alwant y enw ef Emmanuel, yr hwn a’s esponir, a arwyddocaa, Duw gyd a ni.

24Ac Ioseph, pan ddihunodd o hun, a wnaeth megis y gorchymynesei Angel yr Arglwydd yddaw: ac a gymerawdd ei wreic.

25Ac nyd adnabu, ef yhi, yd pan escorawdd hi ar hei map cyn-enit ac ef alwodd y enw ef IESV.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help