2. Corinthieit 3 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen iij.Cymeryd y mae ef yn esempl ffydd y Corinthieit yn brouedigaeth o’r gwirionedd a precethawdd ef. Ac y dderchafu y Apostoliaeth ef yn erbyn colffrost y gau Ebestyl. Y mae ef yn cyffelypu rhwng y Ddeddyf a’r Euangel.

1A Ddechreuwn ni ymganmol drachefn? ai rait i ni val i eraill, wrth epistolae canmoliāt atochvvi, neu lythyræ canmoliant y genwch?

2Ein epistol ni ydyw‐chwi, yn escrivenedic yn ein calonae, yr hwn a ddyellir ac a ddarllenir gan bawp dyn,

3can ys eglur ydych, y vot yn epistol Christ, a wasanaethwyt genym ni, ac a yscrivenwyt, nyd a duy, amyn ac Yspryt y Duw byw, nyd yn lleche mainyn eithr yn‐cnawdol leche y calon.

Yr Epistol y xij. Sul gwedy Trintot.

4A’ chyfryw ymddiriet ’sy genym trwy Christ ar Dduw:

5nyd erwyð ein bot yn aðas o hanam ein hunain, y veddwliet dim, megis o hanam ein hunain: eithyr ein addasdap ni ysydd o Dduw.

6Yr hwn hefyt a’n gwnaeth ni yn weinidogion digonol i’r Testament newydd, nyd yn vvenidogion ir llythyren, amyn ir Yspryt: can ys y llythyren a ladd a’r Yspryt a rydd vywyt.

7Ac ad yw y wenidogeth angeu wedyr yscrivennu a llythyrennæ ai ffurfiaw ym‐mainin, vot yn‐gogoniantus, mal na allai plant yr Israel edrych yn wynep Moysen, can ’ogoniāt ei wynepryd (rhwn ’ogoniant a ddilewyt)

8pa wedd na bydd gweinidogeth yr Yspryt ym‐mwy o ’ogoniant?

9Can ys a bu gweinidogeth barnedigaeth yn‐gogoniantus, mwy o lawer y rhagora gweinidogaeth cyfiawnder yn gogoniant.

10Can ys yr hyn ac ’ogoniantwyt, ny ’ogoniantwyt yn y rhan hon, sef a berthyn ir gogoniant trarhagorawl.

11O bleit a’s hynn a ddilëid ymaith, oedd yn‐gogoniantus, mwy o lawer y bydd hyn a erys, yn ogoniantus.

12Velly can vot genym gyfryw ’obeith, ydd ym yn arver o ymadrodd mor hyderus.

13Ac nyd ym ni mal Moysen, yr hvvn a ddodei gudd ar ei wynep, rac y blant yr Israel edrych ar ðiben yr hyn a ddilëid.

14Am hyny y caledwyt y meddwl hwy: can ys yd y dydd heddyw y mae’r llen‐gudd honno yn aros heb hi ymatguð wrth ddarllen yr hen Testament, yr hon yn‐Christ a dynir ymaith.

15Eithyr ac yd y dydd heðyw pan ddarllenir Moysen, y dodir y llen‐gudd ar ei calonæ wynt.

16Er hyny pan ymchoeler ei calon at yr Arglwyð, y tynnir ymaith y llen‐gudd.

17Weithian yr Arglwydd yw’r Yspryt, a’ lle mae Ysprit yr Arglwydd, yno ymay rhyðdit.

18Eithyr edrych ydd ym ni oll megis mewn drych ar ’ogoniant yr Arglwydd ac wynep ymatgudd, ac in newidir ni ir vnryw ddelw, o ’ogoniant i ’ogoniant, megis y gan Yspryt yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help