Yr Actæ 19 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. xix.Roddy yr Yspryt glan trwy ddwylaw Paul. Yr Iuddaeon yn caply y ddysceidaeth ef, yr hwy a gadarnhawyt trwy wyrthiae. Chwidreð a’

chystwyad y consurwyr, a’r ffrwyth a ddaeth ywrth hyny. Demetrius yn peri tervysc o

blait Diana. A’ Dew eisoes yn ymwared yr ei yddaw ef, ac yn heddychy trwy yscoleic y dinas.

1AC e ddarvu, tra ytoedd Apollos yn Corinthus, bot i Paul vynet trwy y parthae goruchelion, a dyvot i Ephesus, a’ chahel ryw ddiscipulon,

2a’ dywedyt wrthwynt, A dderbyniesoch yr Yspryt glā er pan gredesoch? Ac wytheu a ddywedesont wrthaw, Ny wnaetham ni cymeint a chlywet a oes Yspryt glan.

3Ac ef a ddyvot wrthwynt, Ervvydd pa beth gan hyny eich batyðiwyt? Ac wyntvvy a ðywedesont, Ervvydd batyð Ioan.

4Yno y dyvot Paul, Ioan yn ddiau a vatyddioð a batydd ediveirwch, can ddywedyt wrth y popul, bot yddwynt credy yn hwn a ddelei ar y ol ef, ys ef yw hyny, yn y Christ Iesu.

5Ac wedy yddwynt glywet hyny, wy vatyddiwyt yn Enw yr Arglwydd Iesu.

6Ac wedy gesot o Paul ei ddwylaw arnaddynt yd aeth yr Yspryt glan arnynt, ac yr ymadroddesont davodae, ac y prophwytesant.

7A’r oll wyr ytoedd yn‐cylch dauddec.

8Yno ydd aeth ef y mewn ir Synagog, ac yr ymadroddawdd yn eon dros dri‐mis, gan ddisputo ac annoc ir hynn a perthyn i deyrnas Dew.

9Eithyr pan ytoeð yr ei wedy ei caledy ei calonæ, ac ny chredent, gan ddrweddywedyt am ffordd yr Arglwydd, ger bron y lliosogrwydd, e dynnawdd ymaith y wrthwynt, ac ef a ddidolodd y discipulon, gan ðisputo beunydd yn yscol nebvn Tyrannus.

10A hynn a wnaethpwyt yspait dwy vlynedd, y n y bu y bawp oedd yn trigiaw yn Asia, glywed ymadroð yr Arglwyð Iesu, yr ys Iuðeon hvvy a’r Groeceit.

11Ac Dew a weithredawdd wyrthiae nid bychedigion trwy ddwylaw Paul,

12yd pan ðugit y wrth y gorph ef ir cleifion, gwrsie nai napcynae, ac ymady or clefydae ywrthwynt, a’ mynet yr ysprytion drwc allan o hanwynt.

13Yno bot i rei or Iuddaeon crwydrait, consurwyr, gymeryd arnwynt enwi vch pen yr ei oedd yn perchenogion y sprytion drwc, Enw yr Arglwydd Iesu, gan ddywedyt, Ydd ym ich consurio trvvy yr Iesu, yr hwn a precetha Paul.

14(Ac ydd oedd nep meibion Sceua Iuddew, yr Archoffeiriat, yn cylch saith oedd yr ei a wnaent hynn.)

15A’r yspryt drwc a atepawdd, ac a ddyvot Yr Iesu a gydnabyddaf, ac Paul a adwaenaf: anid pwy yty‐chwi?

16A’r dyn ydd oedd yr yspryt drwc ynthaw, a gyrchawdd arnwynt, ac ei gorchvygawdd, ac a orthrechodd yn y herbyn wy, yn y chiliesont allan or tuy, yn noethion ac yn glwyfedig.

17A’ hynn vu hynot gan yr oll Iuddaeon a’r Groecwyr hefyt, a’r oedd yn preswiliaw yn Ephesus, ac e ddygwyddawð ofn ar bawp o hanwynt, ac Enw yr Arglwydd Iesu a vawrhawyt.

18Ac llawer o’r ei oedd yn credy, a ddaethant ac gyffesasont, gan ddangos ei gweithredoedd.

19Llawer hefyt o’r ei oedd yn arver o gelfyddodæ‐

manolwaith, a dducesont ei llyfrae, ac ei llosge‐sont yn‐gwyð yr oll popul, ac wrth gyfrif ei gwerth, ei cahad yn gyvverthydd pemp myrð o vathæ ariant.

20Velly mor gadarn y tyfawdd gair Dew, ac yr ymgryfaodd.

21Yn awr wedy cyflawny hynn yma, y propasoð Paul trwy ’r yspryt teithiaw trwy Macedonia ac Achaia, a’ mynet i Caerusalam, can ddywedyt, Gwedy bwyf ynaw, rhait i mi hefyt welet Ruuain

22Yno yd anvones ef i Macedonia ddau o’r ei oedd yn ei weini, sef Timotheus ac Erastus, ac ef e a aroses yn Asia dros amser.

23Ac yn y cyfamser hyny y cyfodes cythrwbyl nyd bychan o bleit y fforð hono.

24Can ys neb gwr ai enw. Demetrius, gof ariant, yr hwn a wnai demplae ariant Diana, yr hvvn oedd yn peri elw nyd bychan ir crefftwyr:

25Yr ei wedy iddo ei galw ir vn‐lle, y gyd a gweithwyr yr cyfryw bethae, a’ ddyvot, Ha‐wyr, ys gwyddoch may wrth y gwaith hwnn y perir caffaeliat y ni.

26Pellach chvvi welwch ac a glywch, pan yw nad yn vnic yn Ephesus, anid can mwyaf trwy’r oll Asia yr annohes, ac y traws droses y Paul hwnn lawer o popul, gan ddywedyt, Nad ynt wy ddewiae ’rei wnelir a dwylaw.

27Yd nad yw yn vnic bot y rhann hyn yn periclus y nyni, rrac argyhoeddy y cymeriat, eithyr hefyt rac bot am dempl y vawr ddewies Diana ei ðiystyry, a’ rac dyvot hefyt destryw ar vawrhydi hon, y mae’r oll Asia a’r byt yn hi addoli.

28A’ phan glywsant wy hynn, yr oeddent yn llawn digofeint, gan ddolefain, a’ ddywedyt, Ys mawr Diana yr Ephesiait.

29A’r oll ddinas a gyflawnwyt o wradwydd, a’ rhuthraw a wnaethant ir orseddfa o gytundab, a’ dalha Gaius, ac Aristarchus, Macedonieit, a’ chyd‐ymddeithion Paul.

30A’ phan ytoedd Paul yn ewyllysio mynet y mewn ymysc y popul, ny’s gadawdd y discipulon yddaw.

31A’r ei hefyt o pendevigion Asia a’r oeðent yn gereint iddo, a ddanvonesont ataw, gan ðeisyfy arnaw na’d ymddangosei yn yr ’orseðfa.

32Yr ei wrth hyny a lefent vn‐peth, ar ei peth arall. Can ys y gynulleidfa oedd eb drefn, a’ rhan vwyaf ny wyddent o bleit pa beth yd aethent yn‐cyt.

33A’r ei o’r tyrfa a luscesont canthwynt Alexander, a’r Iuddaeon yn ei wthiaw racddaw. Yno Alexander a amneidiodd a llaw, ac a vynesei escusodi y peth wrth y popul.

34Eithyr pan wybuont may Iuddew oedd ef, cody a wnaeth ymleflef dros yspait dwy awr hayachen, gan bawp yn llefain, Ys mawr Diana yr Ephesieit.

35Yno yscoleic‐y dinas gwedy iddo lonyddu ’r popul, a ddyvot, Ha‐wyr yr Ephesieit, pa ddyn ’sydd ny wyr bot dinas yr Ephesieit yn a ddolydd y vawr ddewies Diana, a’r ddelvv, a ðescenawdd y wrth Iupiter?

36A’ chan na ddygon nep ddywedyt yn erbyn y pethae hynn, iawn i chwy ymlonyddy, ac na wneloch ddim yn wylltpwyll.

37Can ys dugesoch yma y gwyr hynn, yr ei nid ynt na themplherwyr nac yn caply eich dewies.

38Erwydd paam ad oes gan Demetrius na ’r crefftwyr y’sy gyd ac ef vn hawl yn erbyn neb, y mae cyfraith yw chael, ac may Raglawyeit: ymcyhuddant y gylydd.

39Eithyr ad ywch yn ymofyn dim am bethae ereill, ei tervenir mewn cymynfa gyfreithlawn.

40Can ys in peryclir rac ein argyhoedddy am y derbysc heddyw, erwydd nad oes vn achos y gal’wn roi rreswm am y cynnired hyn o’r popul.

41Ac wedy iddo ymadrod velly, y maddeuawdd ef y gymunfa ymaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help