1GAn hyny gwedy dyvot Festus ir ardal, ar ben y tridie yð aeth i vynydd i Gaerusalem o Caisareia.
2Yno yð ymðangosent yr Archoffeiriat a’ phennaethieit yr Iuddaeō ger ei vron ef yn erbyn Paul, ac atolygasant iddaw,
3a’ chan erchy caredigrwydd yn ei erbyn, bod iddo ddanvon am danaw i Gaerusalem; ac hvvy a wnaethant gynllwyn yw ladd ef ar y ffordd.
4Eithyr Festus a atebodd, bot cadw Paul yn Caisareia, ac a ðanei yntae ehun eb ohit yd yno.
5Can hyny (eb yr ef) dauet yr ei o hanoch chwi ’sy yn abl, y gyd a ni i waeret: ac ad oes neb anvviredd yn y gwr cyhuddant ef.
6Pryt na thrigesei ef yn y plith wy y tuhwnt y ddec diernot, ef aeth y waeret y Caisareia, a’r dydd nesaf ydd eisteddawdd yn y vrawdle, ac a ’orchymynawdd ddwyn Paul atavv.
7Ac wedy ei ddyvot, yr Iuddaeon y ddaethent o Gaerusalem, a safasont o ei amgylch, ac a ddodesont lawer o achwyniō trymion yn erbyn Paul, yr ei ny ellynt ei provi,
8can yddaw vot yn atep, na ddaroeð yddaw pechy dim nac yn erbyn Deddyf yr Iuddaeon, nac yn erbyn y Templ, nac yn erbyn Caisar.
9Er hyny Festus yn ewyllysiaw cahel bodd yr Iuddaeon, a atebawdd i Paul, gan ddywedyt, Ai di y vyn ydd y Gaerusalē, ac yno ith varny am y pethe hyn ger vy‐bron i.
10Ac Paul a ddyvot, Ydd wyf yn sefyll wrth vrawdle Caisar, lle y perthyn vy‐barny: ir Iuddaeon ny wneythym i ddim yngham, megis ac y gwyddos‐ti yn dda ddigon.
11Can ys, a’s gwneythym ddim cam, ai dim teilwng o angae, ny wrthðodaf vi varw: ac anid oes dim or cyfryvv betheu ac y maent wy im cyhuddaw, ny all nep vy rroddi yddwynt: appelo ydd wyf ar Caisar.
12Yno Festus wedy daroedd iddaw ymddiddam a’r Cygcor, a atebawð, A appeleas ti ar Caisar? ar Caisar y cai vynet.
13Ac yn ol swrn o ddyddiae, y Brenhin Agrippa a’ Bernice ydd aethant y wared y Caisareia y gyfarch-gwell i Festus.
14A’ gwedy yddwynt aros yno lawer o ddyddiae, Festus a venagawdd ir Brenhin vater Paul, gan ddywedyt: Y mae yma ryw wr wedy ei adael yn‐carchar y gan Felix.
15Am yr hwn pan ddaethym i Caerusalem, ydd oedd yr Archoffeiriait a’ Henafiait yr Iuddeon yn honny ymy, gan ddeisyfy cahel barn yn ei erbyn.
16I ba ’r ei ydd atebeis, nad yw moes y Ruveinieit, er bodd‐roddy nep i angae, cyn noc y caffo yr vn a gyhuddic, ei gyhuddwyr ger ei vron, a’ chaffael o honaw le y amddyffyn ehun, am y caredd.
17Wrth hyny gwedy ei dyvot wy yma, eb ’olydd y dydd cyntaf rac llavv ydd eisteddais yn y vrawdle ac a ’orchymynais ðwyn y gwr ger bron.
18Yn erbyn ba vn pan safawdd y cuhyddwyr i vyny, ny ddugesōt vvy vn caredd am gyfryw bethae ac y tybyeswn i:
19namyn bot ganthwynt ryw gwestionae am y gwangoel yddynt y hunain, ac am vn Iesu a vu varw, yr hwn a daerei Paul ei vot yn vyw.
20A’ mineu erwyð vy‐bot yn petrusaw yn‐cylch cyfryw gwestion, a ’ovyneis iddaw a elei ef y Gaerusalē, a’ chymryt‐barn yno am y pethae hyn.
21Eithyr can ðarvot iddaw apello y ny gedwit ef i wybyðyeth Augustus, mi ’orchymynais ei gadw, ydd pan ðanvonwn ef at Caisar.
22Yno Agrippa a ddyvot wrth Festus, A’ mineu a wyl’yswn glywed y dyn. Evory eb yr yntef, y cai y glywet ef.
23A’ thranoeth wedy dyvot Agrippa a’ Bernice a rhwysc mawr, a’ myned i mewn ir Orseð y gyd a’r pen‐capteinieit a’ phendevigion y dinas, wrth ’orchymyn Festus y ducpwyt Paul yno.
24Ac y ’syganei Festus, A vrenhin Agrippa, a’ chvvithe pawp ys ydd yn presentol yma gyd a ni, ys gwelwch y dyn hwn, o bleit pa vn y galwodd oll tyrfa yr Iuddaeon arnaf, bop vn yn‐Gaerusalem, ac yma, gan arthlefain, na ddlei ef gael byw a vei hwy.
25Er hyny ni vedreis i gael arnaw wneythy dim teilwng o angae: anid can ddarvot iddaw appelo at Augustus mi a verneis y ddanvon ef.
26Am pa vn nid oes genyf ddim talgrwn yw escriveny at vy Arglwydd: erwyd pa bleit mi y dygais ef atoch, ac yn enwedic atta ti, Vrenhin Agrippa, yd pan yw yn ol darvot ei holi, gaffael o honof beth yw escrivenny.
27Can ys anrysymol y tybiaf ddanvon carcharor, ac eb arwadocay yr achosion y cyhuddir ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.