1CLodvorwch yr Arglwyð, can ys da ytyw, can ys ei drugaredd [’s ydd] yn tragyvyth.
2Clodvorwh Ddew y dewiae: can ys ei drugaredd yn tragyvyth.
3Clodvorwch Arglwydd yr arglwyddi: can ys ei drugaredd yn tragyvyth.
4Yr hwn yn vnic y wna ryveðodae mawrion: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
5Yr hwn wrth ddeall y wnaeth y nefoedd: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
6Yr hwn y estennawdd y ddaiar ar y dyfredd: can ys ei drugaredd yn tragyvyth.
7Yr hwn y wnaeth leuereu mawrion: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
8Megis] yr haul y lywiaw y dydd: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
9Y lloer a’r syr y lywiaw y nos: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
10Yr hwn y drawodd yr Aipht a’r ei cyn-en it yddynt (can ys ei drugaredd yn tragyvyth)
11Ac y dduc Israel oi plith hwy, (can ys ei drugaredd yn tragyvyth)
12A llaw gadarn ac a braich estennedic: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
13Yr hwn y barthawdd y mor coch yn ddau barth: canys ei drugaredd yn dragyvyth:
14Ac y wnaeth i Israel vyned trwy ei genol: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
15Ac a escutiodd Pharaóh ef a ei lu yn y mor coch: canys ei drugaredd yn tragyvyth:
16Yr hwn y dywysawdd ei bopvl drwyr diffeithwch: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
17Yr hwn a drawodd Vrenhinoedd mawrion: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
18Ac a laddawdd Vrenhinedd ardderchawc: can ys ei drugaredd yn dragyuyth:
19[Megis] Sichón Vrenhin yr Amoriait: can ys ei drugaredd yn dragyvyth:
20Ac Og Vrenhin Bashán: can ys ei drugaredd yn dragyvyth:
21Ac y roddess ei tir yn etiueddioeth: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
22[Sef] yn etiueddiaeth y Israel ei was: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
23Yr hwn an coffáodd yn ein coddiant: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
24Ac an achubawdd rac ein gorthrymwyr: can ys ei drugaredd yn tragyvyth:
25Yr hwn y rydd ymborth i bop cnawt: can ys ei drugaredd yn tragyvyth.
26Clodvorwch Ddew y nefoedd: can ys ei drugaredd yn tragyvyth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.