1PAUL gwasanaehvvr Iesu Christ vvrth galwediceth yn Apostol, wedyr ’ohanu i precethu’r Euangel Duw
2(yr hō a racaðawoð ef drwy ei Brophwyti yn yr scrythurae glan)
3am ei Vap Iesu Christ ein Arglwydd ni (yr hwn oedd wneuthuredic o had Dauid erwydd y cnawd,
4ac a ðeclarwyt yn nerthol y vot yn Vap Duw, erwyð Yspryt sancteidiat gan y cyfodiadiadigaeth o veirw)
5trwy ’r hwn yd erbiniesā ni ’rat ac Apostoliaeth (er bot uvyðdot ir ffyð) yn y Enw ef ym‐plith yr oll Genetloedd,
6ymysc yr ei n ydd yw chwi hefyt yn ’alwedigion Iesu Christ:
7Atoch oll yr ei ’sydd yn Ruuein caredigion gan Dduw, galwedigion y vot yn Sainctæ: Rat vo y’wch a’ thangneddyf y gan Dduw ein Tat, a’ chan yr Arglwydd Iesu Christ.
8Ac yn gyntaf y diolchaf i’m Duw trwy Iesu Crist trosoch vvi oll, o bleit bot eich ffyð chvvi yn gyoeðus tros yr oll vyt.
9Can ys bot Duw yn test ymy (yr hwn wyf yn ei wasanaethu yn vy yspryt yn Euangel y Vap ef) vy‐bot yn ddibait yn gwneuthur coffadurieth am danoch,
10yn ’oystadawl yn vy‐gweddiau, yn erchi, ar vot ymy mewn ryw vodd o’r dywedd ryw bryd gael rwydd‐hynt gan wyllys Duw, y ddyvot atoch.
11Can ys bot yn hiraethus genyf nes eich gwelet, val y gallwyf gyfranu y chwi ryw ddawn ysprytawl, er mvvyn eich cadarnhay,
12’sef yw hyny, er cael cyd ymddiðanu a chwi, trwy ffyð y gylyð, sef eich vn chwi a’r veuvi.
13Can hyny vroder, mi wyllyswn na baech yn anwybot, modd y pwrpasais yn vynech ddyvot atoch (and darvot vy rhwystro yd hyn) val y caffwn beth ffrwyth hefyt yn eich plith chwithe, megis ymae y mi ym‐plith y Cenetloeð eraill.
14Dyledwr wyf ac ir Groecieit, ac ir Barbarieit, ac ir doethion, ac ir andoethion.
15Wrth hyny, yd y mae yno vi, parot wyf i Euangelu y chwithe hefyt ys yð yn Ruvein.
16Can nad cywiliðus‐genyf Euāgel Christ: o bleit gallu Duw yw hi er iechydvvrieth i bawp vn ’sy yn credu, ir Iuddew yn gyntaf, a’ hefyt ir Groecwr.
17Can ys trwyddei hi y datcuddir cyfiawnder Duw, o ffydd i ffydd: megis y mae yn scrivenedic, Y cyfiawn a vydd byw gan ffydd.
18Can ys digofein Duw a ddatcuðiwyt o’r nef yn erbyn pop andwyolder, ac ancyfiawnder dynion sef, yr ei y attaliant y gwirionedd mewn ancyfiawnder,
19can ys cymeint ac aller ei wybot am Dduw, y sydd amlwc ynthynt vvy: can ys Duw ei amlygawð yddynt.
20O bleit y anweledigion bethe ef, nid amgen, ei veddiant tragyvythavl a’i Ddywdab, vvy a welir wrth creadurieth y byd, gan vod ystyried y weithredoedd ef, megis y byddent yn ddiescus:
21O bleit ac yn hwy yn adnabot Duw, nys roeson‐ogo niant yddaw megis y Dduw, ac ny ddiolchesant, eithyr ymwacau o hanynt yn ei rhesymae, a’i calon ampwylloc oedd yn llawn tywylluch.
22Pan dybient y bot yhunain yn ddoethion, ynvydion oeddent vvy.
23Can ys wy a ysmudesant ’ogoniant yr anllygredic Dduw i lun delw lygredic ddyn, ac ehediait, ac aniveilieid‐pedwar carnol, ac ymlyscieit,
24Erwydd paam y rhoes Duw hwy i vynydd i ddrycwante eu calonae i aflendit, y warthau eu cyrph y hun yn y plith ei hunain:
25sef yr ei a droent wirionedd Duw yn gelwydd, ac a aðolēt ac a wasanaethent y creadur, a‐gady‐heibio y Creawdr, yr hwn ’sydd yn vendigedic yn oes oesoedd, Amen.
26O bleit hyn y rhoddes Duw hwy i vynydd i chwantae gwarthaus: can ys ei gwragedd hvvy a newidiasant yr arver anianawl yn yr vn ys ydd yn erbyn anian.
27Ac yn gyffelyp hefyt y gwyr y adawent yr arver anianawl o’r wreic, ac a ymloscent yn ei chwant wrth eu gylydd, gan ir gwyr‐ryvv weithio croesaneth a’r gwyr‐ryvv, a’ derbyn ynddyn y hunain cyfryw daliad dros ei cyfeilorn ac oeð addas.
28Can ys megis na bu wiw ganthwynt vvy adnabot Duw, velly y rhoes Duw hwy i vynydd i veddwl an‐ynad, y wneuthur y petheu ny chygweðāt,
29ac vvy yn llawn o bob ancyfiawnder, ffornicrwyð, enwiredd cupyðdra, drugioni, yn llawn cenvigē, a l’að‐celain, cynen, hocced, dryc‐anwydae, yn hustingwyr,
30yn athrodwyr, yn ddigasoc ganthyn Dduw, yn ancyfarchwyr, yn veilchion, yn ffrostwyr, yn ddychymygwyr drygeu, yn anuvyddion y rieni,
31yn ampwyllogion, yn rei yn tori ammot, eb‐ganthyn‐gariat‐naturiol, yn dalha‐galamasdra, yn antrugarogion.
32Yr ei, er eu bot yn adnabot Deddyf Dnw, may pwy rei pynac a wnant gyfryw bethae, eu bot yn deilwng o angae, ac nyd yn vnic bot yn gwneuthu’r y petheu hyn, amyn hefyt cydsynnio a’r ei ’sy yn ei gwnethur.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.