1OBlegid y gyfraith rron y may kenthi gyscawd y pethay da a ddaw rrag llaw, ac nid gwir‐ddelw y pethau, ni ðichin vyth deilyngu y devodiaid drwy yr vnrrywaberthay hyny, rrain y byddant o flwyðyn bigilið yn ystig yn y offrymu.
2Pe na bai felly oni pheidiesent wy ac offrymu, am na biase yn awr ddim cydwybod pechod o rā y rrai a offrymasent, ac a buresid hwynt vnwaith?
3Eithr yn yr aberthe rreini y bydd bob blwyddyn adcoffa pechodau.
4Can ys ni ddichin gwaed teirw a’ geifr dynnu ymaith pechodau.
5O achos pam ac ef yn dyvod ir byd, y dowaid, Aberth ac offrwm nis mynaist: eythyr corph a baratoisti y myfi.
6Abertheu poethion ac aberth tros bechawd ni bu gymradwy cenyt.
7Yno y doydais, Wele fi yn dyvot, (Y may yn escrifennedig ym pen cyntaf yr llyfr am danaf) y gwnafi dy wollys di, Ddyw.
8Wedi yddo ddoydyt vchod, Aberth ac offrwm, a phoeth‐aberthay, ac offrwmay tros pechawd nis mynaist, ac nis derbyniaist, (rrain a offrymmir wrth y gyfraith)
9Yno y dywod ef, Wele fi yn dyfod y wneuthyr dy wollys di, Ddyw, may y yn tynnu ymaith yr cynta, ir mwyn gosod y diwaytha.
10Drwy yr hwn wollys, y ddydym wedi yn santeidio, ys trwy offrymiat Corff Iesu Christ a vvnaed vnwaith.
11Am hyny pob effeiriad sy yn sefyll gar bron beunydd yn cyflownir‐crevydd, ac yn offrymnu yn fynych yr vn aberthau, rrain ni ddichin fyth dynnu ymaith pechodau:
12Eithr hwn yma gwedi darfod, yðo vnwaith offrymmu aberth tros pechodau, yn dragwyddol sy yn eistedd ar y llaw ddeau i Ddyw,
13Gan aros yr hyn sy yn ol, ’sef hyd oni bo y elynion ef wedi y gwneithur yn fainc yw draed ef.
14Can ys ac vn offrwm y perffeithiodd ef yn dragwyddol y rrai sy wedi y santeiddio.
15Testlaythy yn wir a wna yr ysbryd glan y ni hevyd: can ys ar ol iddo ef ddoyded ymlaenllaw,
16Hwn yw ’r Testament rrwn a ammodafi ac wynt ar ol y dyddiau hyny, medd yr Arglwydd, Myfi a’ osodaf fynghyfreithiau yn eu calonau, ac ay escrifena yn y eu meddilau.
17Ac y pechodau ay enwiredd hwynt nid atcoffaa mwy,
18Velly lle bo maddeuant y rrain, ni bydd mwy offrwm tros pechawd.
19Am hyn vrodyr, can fod y ni rydit y fyned y mewn yr cyssegr drwy waed Iesu
20Rryd y ffordd a gysegrodd ef yni yn newydd ac yn fyw, trwyr llenn sef yw trwy y gnawd ef:
21 A chan vod yni archoffeiriat, yn rreoli ty Ddyw,
22Nesawn a chalon gowir a sicerwydd ffydd, wedi puro yn caloneu oddiwrth cydwybod drwg, a golchi ein corff a dwr glan.
23Cadwn gyffes ein gobaith, yn ddianwadal (can ys ffyddlon yw ’r hwn a addawodd)
24A’ chydystyriwn bawb y gilidd, herwydd annoc cariad, a’ gweithredoedd da,
25Ac na wrthodwn eyn cydgynulleidfa, megis y may arfer rrai: eithr ymgynghorwn, a hynny yn fwy, o aros ych bod yn gweled y dydd yn nesau.
26Can ys os yn wyllyscar y pechwn i ar ol derbyn gwybodaeth y gwirionedd, ni does mwy aberth wedi y adel tros bechode,
27Eithr horribil ddiscwyl barn, a’ thandrud, yr hwn a vydd y yssu’r gwrthnebwyr.
28Yr hwn a dorho cyfraith Voyses yn ddidrigaredd tann ddau, neu dri o dystion y gorfydd yddo farw.
29Pa faint dybygwchi mwy dialedd y bernir hwnw a sather tan draed fab Dyw, ac a farno yn anlan waed y Testament, trwyr hwn y teilyngwyd ef, ac a dremygo Yspryt y gras?
30Can ys ni adoynom y neb a ddywedodd, Myfi pieu dialedd: myfi a dal y pwyth, medd yr Arglwyð. A’ thrachefn, Yr Arglwydd a farna eu bobl.
31Peth ofnus yw cwympo y law Dyw byw.
32Gelwch bellach ich kof y dyddiau ayth heibiaw yn yr rain, wedi ywch dderbyn goleuni y goddefasoch vrwydr mawr ac adfydau,
33Tra ðygid chwi allan weithiau trwy wradwyddeu a gorthrymdereu, y fod yn ddrychioleth, weithiau yn wir tra wnelid chwi yn gymedeithiō ir rrai a fyddynt yn ymdrino sut hwnw.
34Can ys am fy rrwymay y royðych yn cydolurio a mi, ac a gymerasoch yn llawen yspeilfa ych da, megis rrai a wyðay fod ywch ynoch ychun golud gwell, sy yn y nefoedd, ac yn parhau.
35Am hynny na fwriwch y ffordd ych hyder sy fawr eu gobrvvy.
36Can ys rraid ydyw y chwi wrth ymynedd, mal y galloch wedy darffo ywch wneuthyr wollys Dyw, dderbyn yr addewid.
37O blegid etto ychydigyn bychan bach, ac fo ddaw yr hwn sy yn dyvod, ac ni thrig.
38Sef y kyfion trwy ffydd y bydd byw, eithr o kilia neb, yr enaid mauvi ni bydd bodlon iddo.
39Eithr ni dydym ni rrai sy yn cilio y golledigaeth, namyn sy yn credu herwydd cadwadigaeth yr enaid.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.