1GWedy ir Iesu ðywedyt ypethe hyn, yð aeth allan ef a ei ðiscipulon dros garoc Cedron, lle ydd oeð garð, yr hon ydd aeth y mewn, ef a ei ddiscipulō.
2Ac Iudas yr hwn a ei bradychoð ef, y adwaenei hefyt y lle: can ys mynych y bysei ’r Iesu yn tramvy yno ef a’ ei ddisipulon.
3Ac Iudas wedy iddo gahel catyrfa o wyr a’ swyddogion, gan yr Archoffeiriait, a’r Pharisaiait, a ðeuth yno a’ chanthwynt dan‐llestri a’ thewyniō ac arvae.
4Yno ’r Iesu yn gwybot pop peth a ddelei arnaw, aeth rhacddaw, ac a ddyvot wrthynt, Pwy ’ddych yn ei gaisiaw?
5Wy ei atepesont, Iesu o Nazaret. Yr Iesu a ddyvot wrthwynt, Myvi yw ef. Ac Iudas hefyt yr hwn y bradychodd ef, oedd yn sefyll gyd ac wynt.
6Ac er cynted y dybot ef wrthwynt, Myvi yw ef, wy aethant yn wysc ei cefn, ac a syrthiesont ir llawr.
7Yno y gofynodd yddwyn trachefyn, Pwy ’ddych yn ei gaisiaw? Ac wy a ddywedesont, Iesu o Nazaret,
8Yr Iesu a atepawdd, Dywedeis y‐chwy, mae myvi yw ef: can hyny a’s mi a gaisiwch, gadwch ir ei hynn vyned ymaith
9Hyn a vu er cyflawny’r gair yr hwn a ddywedesei ef, O’r ei’n a roddeist ymy, ny cholleis i nebun.
10Yno Simon Petr ac canthaw gleðyf, ei tynawð, ac a drawodd was yr Archoffeiriat, ac a dores ei glust ðeheu ymaith. Ac enw yr gwas ytoeð Malchus.
11Yno y dyvot yr Iesu wrth Petr, Dod dy gleddyf yn y wain: Anyd yfaf or cwpan a roðes vy‐Tat ymy?
12Yno ’r gywdawt a’r penciwdod a’ swyddogion yr Iuddaeon a ddaliesont yr Iesu, ac ei rhwymesont,
13ac ei ducesont at Annas yn gyntaf (can ys chwegrwn ytoeð ef i Caiaphas, yr hwn oedd Archoffeiriat y vlwyddyn hono)
14ac Caiaphas oedd hwn, a roesei gycor ir Iuðeon, mae rhaidiol oeð i vn dyn varw tros y popl.
15Ac Simon Petr oeð yn cālyn yr Iesu, a’ discipul arall a’r discipul hwnw oedd yn adnabyddus gan yr Archoffeiriat: am hyny yð aeth ef y mewn gyd a’r Iesu i lys yr Archoffeiriat.
16Ac Petr oedd yn sefyll allan wrth y drws. Yno ydd aeth allan y discipul arall oedd adnabyddus gan yr Archoffeiriat, ac a ymddiddanawdd a’r ddrysores, ac a dduc Petr y mywn.
17Yno y ddrysores a ðyvot wrth Petr, Anyd yw tithef yn vn o ddiscipulon y dyn hwn? Ef a ðyvot, Nac wyf.
18A’r gweision a’r swyddogion a savent yno, yr ei a wnaethent daan glo: can ys oervel ytoedd, ac wy a ymdwyment. Ac Petr hefyt a safai yn ei plith, ac a ymdwymei.
19Yno ’r Archoffeiriait a ymofynodd a’r Iesu am ei ddiscipulon, ac am ei ddysc.
20Yr Iesu a atepawdd yð‐aw. Myvi a ymadrodeis ar ’oystec ir byd, myvi vyth oedd yn athrawy yn y Syngog ag yn y Templ, lle y dawei ’r oll Iuddaeon ynghyt yn oystat, ac yn guddiedic ny ddywedais i ddim.
21Paam y govynny i mi? gofyn ir ei’n am clywsant, pa beth ðywedeis wrthwynt: nycha, wyntwy a wyddant pa beth a ddywedais.
22Gwedy iddaw ddywedyt y pethae hyn, vn or swyddogogion oedd yn sefyll geir llaw, a drawoð yr Iesu a ei wialen, gan ddywedyt, A atepy’r Archoffeiriat velly?
23Yr Iesu ei atepoð. A’s dywedais yn ddrwc, testolaetha o’r drwc: ac a’s dywedais yn dda, paam i’m trawy?
24Ac Annas ei danvones ef yn rhwym at Caiaphas yr Archoffeiriat.
25Ac Simon Petr oedd yn sefyll ac yn ymdwymaw, a’ dywesont wrthaw, A nyd yw tu hevyt yn vn o y ðiscipulon ef? Ef a watawð, ac a ddyvot, Nac wyf.
26Vn o weision yr Archofeiriat, car i hwn y toresei Petr ei glust, a ddyvot vvrthavv, Any welais i dydy yn yr ’ardd gyd ef?
27Yno Petr a wadawdd trachefyn, ac yn y van y canawdd y ceiliawc.
28Yno y ducesont yr Iesu o ywrth Caiaphas ir dadleduy. A’r borae ytoeð hi, ac wyntwy nid aethāt ir dadlaeduy, rag eu halogy, anyd mal y gallent vwyta yr Pasc.
29Pilatus yno aeth allā atwynt, ac a ðyuot, Pa achwyn ’sy genwch yn erbyn: y dyn hwnn?
30Atep a wnaethant a’ dywedyt wrthaw, Pe bysei hwn eb wneythy drwc ny roddesem ni ef atat.
31Yno y dyvot Pilatus wrthynt, Cymerw‐chwi ef, a’ bernwch ef wrth eich deðyf eich hunain. Yno y dyvot yr Iuddaeon wrthaw, Nid rydd i ni roi nep i angae.
32Hynny vu er cyflawny ’r gair a ddywedesei ’r Iesu, gan arwyddocay o pa angae y byddei varw.
33Velly Pilatus aeth y mewn ir dadlaeduy trachefyn, ac a alwoð yr Iesu, ac a ðyyvot wrthaw. Ai‐tu yw’r Brenhin yr Iudaeon?
34Yr Iesu a atepawdd iddavv, Ae o hanat tuhun y dywedy hynn, ai er eill ei dyvot yty am danaf?
35Pilatus a atepawdd. Ae Iuddew yw vi? dy genedl dy hun, a’r Archoffeiriait, a’th roesan di ataf vi. Pa beth a wnaethost?
36Yr Iesu a atepawdd, Vy‐teyrnas i nid yw o’r byt hwnn: pe o’r byt hwnn vesei vy‐teyrnas, yn wir vy‐gwasanaethwyr a ymddladdent, mal na’m rhoddit ir Iuddaeon: an’d yr owrhon nid yw vy‐teyrnas o ddyma.
37Pilatus yno a ddyvot wrthaw, Can hyny ai Teyrn ytwyt? Yr Iesu a atepawdd. Tu ys y’n dywedyt mae Teyrn ytwyf: er mwyn hyn i’m ganet, ac er mwyn hyn y dauthym ir byt, ’sef i tostolaethy ir gwirioneð: pop vn a hanyw o’r gwirionedd, a wrendy vy lleferydd.
38Pilatus a ddyvot wrthaw, Pa beth yw gwirionedd? A’ gwedy iddaw ddywedyt hyn, ef aeth allan drachefyn at yr Iuddaeon, ac a ddyvot wrthwynt, Nyd wyf yn cahel vn bai arno.
39Anid mae genych ddevot, vot i mi ellwng ychwy vn yn rhydd ar y Pasc. Velly a ewyllysiwch i mi ellwng i chwi yn rhydd Vrenhin yr Iuddaeon?
40Yno y llefesont oll drachefyn, can ddywedyt, Nyd hwnn, amyn Barabas: a’r Barabbas hwnw oedd leitr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.