1. Corinthieit 1 - Welsh New Testament and Psalms 1567 (William Salesbury)

Pen. j.Ef yn canmol mowrion

radae Duw a ddangoswyt yddynt wy, Gan ei hannoc wy i gyfundap a’ gestyngeiddrwydd. Ef yn curo y lawr oll valchedd, a’ doehinep ar ny sailiwyt ar Dduw, gan ddangos pwy a ddetholes Duw i wradwyddo doethinep y byt.

1PAul galwedic yvot yn Apostol IESV CHRIst trwy’wyllys Duw, a ’n brawt Sosthenes,

2at yr Eccles Duw rhō sy yn‐Corinthus, at yr ei sainctiedic yn Christ Iesu, Sainctæ wrth ’alwedigeth y gyd ac oll a’r a ymor alwant ar Enw ein Arglwið Iesu Christ ym‐pop lle, sef y Arglvvydd hwy, a’n vn ni:

3Rat vo gyd a chwi, a’ thangneddyf gan Dduw ein Tat, a’ chan yr Arglwydd Iesu christ.

Yr Epistol y xviij. Sul gwedy Trintat.

4Diolchaf i’m Duw yn’oystat drosochwi am y Rat Duw, a roddet y chwi in Christ Iesu,

5am ddarvot ym‐pop peth eich cyfoethogi ynthaw ef, ym‐pop ryw ymadrodd a’ phop gwybodaeth:

6me‐gis y cadarnhawyt testoliaeth Iesu Christ ynoch.

7Yd nad ydych yn ddefficiol o vn dawn: gan edrych am ymddangosiat Iesu Christ.

8Yr hwn Dduvv hefyt ach gadarnha chwi yd ydywedd, val y boch yn ddihawl yn‐dydd ein Arglwydd Iesu Christ.

9Fyðlon yw Duw, trwy’r hwn ich galwyt y gymddeithas y Vap ef Iesu Christ eyn Arglwydd.

10Ac atolwgaf ywch, vroder, gan Enw eun Arglwydd Iesu Christ, bot ychwi oll ddywedyt yr vn‐peth, ac na bo ymrysoniō yn eich plith: eithyr cyssyllter chwi ynghyt yn vn veðwl, ac yn vn varn.

11Can ys declariwyt i mi, vy‐broder, am danoch gā yr ei ’sy o duy Cloe vot cynneniō yn eich plith.

12A’ hyn a ðywedaf, vot pop vn o hanochwi yn dywedyt, Ys mi yw vn i Bawl, a’ mineu vn i Apollos, a’ mineu i Cephas, ac ys mineu i Christ.

13A rannwyt Christ? Ai Paul a groget trosoch? nei ach batyðiwyt chvvi yn enw Paul?

14Im Dduw y diolchaf, na vetyðiais i neb o hanoch, anyd Chrispus a’ Gaius,

15rac y nep ddywedyt, ddarvoc i mi vatyddio ym henw vy hunan.

16Mi vatyðiais hefyt duylwyth ty Stephanas: bellach ny wn a vetyddiais i neb arall.

17Can na ddanvonawdd Christ vi y vatyddiaw, anyd y Euadgelu, nyd a doethinep ymadrodd, rac gwneuthur croc Christ yn ði‐rym.

18Can ys precethu o’r groc ir ei a gyfergollir, ’sy gantynt wy yn ynvydrwydd: a’ chenym ni, yr ei a iacheir, rhinwedd Duw yddyw.

19Can ys y mae yn scrivenedic, Ys dileaf ddoethinep y doethion, ac a vwriaf ymaith ddyal y dyallwyr.

20P’le mae ’r doeth? p’le mae’r Gwr‐llen? p’le mae dadleuwr y byt hwn? any wnaeth Duw ddoethinep y byt hwn yn ynvydrwydd?

21O bleit ir byt gan ddoethinep nad adnabu Dduw yn‐doethinep Duw, e welawdd Duw yn dda trwy ynvydrwydd precethu iachau yr ei a gredant:

22pan ytyw hefyd yr Iuddaion yn gofyn arwyð, a’r Groecwyr, yn ceisio doethinep.

23Eithyr nyni sy yn precethu Christ wedy ei grogi: ir Iuðaion ’sef yn drancwyddfa, ac ir Groecwyr, yn ynvydrwydd:

24anyd ir ei a ’alwyt, ys ir Iuddaion, a’r Groegiwyr y precethvvn Christ, ys nerth Duw, a’ doethinep Duw.

25Can ys ynvydrwyð Duw ’sy ðoethach na dynion, a’ gwendit Duw sy gadarnach no dynion.

26Can ys, vroder, chvvi welwch eich galwedigeth pa vodd nad llawer o ðoethion erwyð y cnawd, nad llawer o gedyrn, nad llawer o wyr cenhedloc a alvvyt.

27Eithyr Duw a ddetholawdd y petheu ynvydion y byt y wradwyðo ’r doethion, a’ Duw a ddetholawdd y petheu gweinion y byt, y wradwyddo y petheu cedyrn.

28A’r petheu gwaelion y byt, a’ phetheu a dremygir, a ddetholes Duw, a’ phetheu nyd ynt, y ddilëu y petheu ynt.

29Val nad ymhoffei neb cnawd yn y wydd ef.

30A’ chvvy chwi sy o hanaw ef yn‐Christ Iesu, yr hwn gan Dduw a wnaethpwyt i ni, yn ddoethinep, a’ chyfiawnder, a’ sanctedigeth, a’ phrynedigeth:

31Megis erwyð yr yscrivenwyt, Yr hwn a ymhoffo ymhoffet yn yr Arglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help